6.1.1 Iaith a hunaniaeth bersonol
Mae cysylltiad rhwng iaith a hunaniaeth ar sawl lefel. Mewn erthygl a ysgrifennwyd yn ystod hanner cyntaf yr 20fed ganrif, trafododd yr ieithydd Americanaidd Edward Sapir y gydberthynas hon a rhagwelodd y byddai llawer o waith ymchwil dilynol yn cael ei wneud ar iaith a hunaniaeth. Wrth ichi ddarllen y darn canlynol o'r traethawd hwn, ceisiwch nodi ar ba ddwy lefel y mae cysylltiad rhwng iaith a hunaniaeth.
Language is a great force of socialisation, probably the greatest that exists. By this is meant not merely the obvious fact that significant social intercourse is hardly possible without language but that the mere fact of a common speech serves as a peculiarly potent symbol of the social solidarity of those who speak the language. ... [A]t the same time [language is] the most potent single known factor for the growth of individuality. The fundamental quality of one’s voice, the phonetic patterns of speech, the speed and relative smoothness of articulation, the length and build of the sentences, the character and range of the vocabulary ... the readiness with which words respond to the requirements of the social environment, in particular the suitability of one’s language to the language habits of the persons addressed – all these are so many complex indicators of the personality.
Yn y darn hwn, mae Sapir yn dweud wrthym fod iaith yn ffordd bwysig o sefydlu hunaniaeth gyfun ac ymdeimlad o berthyn a'i bod, ar yr un pryd, yn fynegiant grymus ohonom ni ein hunain fel unigolion. Nawr, ystyriwch yr enghraifft ganlynol sy'n dangos faint rydym yn ei gasglu am hunaniaethau pobl eraill o'u defnydd o iaith.
Dychmygwch fod grŵp o bobl nad ydynt yn adnabod ei gilydd yn aros wrth safle tacsis. Mae tacsi gwag yn mynd heibio heb stopio, a chlywir y sylwadau canlynol:
A Gwarthus
B Rwy'n cytuno.
C Ff*cin hel.
Mae'n debygol iawn bod gennych ddarlun yn eich meddwl o sut olwg sydd ar A, B ac C. Mae'n debygol y gallwch ddweud rhywbeth wrthyf am eu gwisg, eu cefndir, eu gwaith, sut bobl ydyn nhw a ph'un a fyddech yn eu hoffi ai peidio (Joseph, 2004, t. 4).
Y rheswm y byddwch wedi llunio'r delweddau syndod o benodol hyn o'r tri siaradwr uchod ar sail sylwadau mor fyr yw am fod ein defnydd o iaith yn cael ei 'gymdeithasoli'. Wrth inni ddatblygu ein cymhwysedd ieithyddol drwy gydol ein bywydau o'n plentyndod cynharaf ymlaen, rydym yn dysgu cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i'r grwpiau amrywiol rydym yn gysylltiedig â nhw. Gall y grwpiau hyn fod mor fach a phersonol ag uned deuluol neu gallant fod mor fawr a chymharol amhersonol â dosbarth cymdeithasol. Mae ieithwyr cymdeithasol wedi dangos bod dulliau cyfathrebu'n amrywio yn ôl amrywiaeth enfawr o statysau cymdeithasol, gan gynnwys rhywedd, oedran, ethnigrwydd, 'hil', dosbarth cymdeithasol, proffesiwn a chenedligrwydd, i enwi ond rhai.
Yn union fel y byddwn yn dod i gasgliadau am hunaniaethau pobl eraill o'r ffordd y maent yn siarad, rydym hefyd yn defnyddio iaith i sefydlu a chyfleu ein hunaniaethau ein hunain i eraill. Mae sawl elfen i'n hunaniaethau a gall pawb ohonom gyfathrebu mewn ffyrdd sy'n pwysleisio rhai agweddau neu'n bychanu neu'n ceisio cuddio agweddau eraill, yn dibynnu ar y cyd-destun. Hynny yw, gall pob un ohonom siarad mewn cyweiriau gwahanol, gan newid ein dull cyfathrebu (acen, dewis o eirfa, defnydd o ramadeg ac ati) er mwyn gweddu i'r sefyllfa. Nid ydym yn siarad â'n ffrind gorau a'n rheolwr yn yr un ffordd fel arfer, ac nid ydym yn defnyddio'r un iaith mewn angladd ag y byddem mewn gêm bêl-droed.
Gweithgaredd 15
Meddyliwch am y ffordd rydych yn cyfathrebu mewn sawl cyd-destun gwahanol, er enghraifft, gyda'ch teulu, yn y gwaith, mewn grŵp un rhyw, mewn cyfarfod pwyllgor. Sut mae eich dewis o eirfa, gramadeg ac arddull siarad yn amrywio? Beth sy'n dylanwadu ar eich dewisiadau? Os ydych yn rhugl mewn mwy nag un iaith, sut rydych yn penderfynu pa iaith i'w defnyddio?