Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Y Gymru Gyfoes
Y Gymru Gyfoes

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

6.1.2 Iaith a hunaniaeth genedlaethol

Wrth ddod yn fwy ymwybodol o'r ffordd rydym yn defnyddio iaith, gwelwn y rôl bwerus y mae iaith yn ei chwarae wrth sefydlu hunaniaethau personol a chefnogi teimladau o undod a gwahaniaeth gyda grwpiau cymdeithasol amrywiol. Mae hyn yn wir hyd yn oed ymhlith pobl sy'n siarad yr un iaith. Pan fo gwahaniaeth iaith yn gysylltiedig â hunaniaeth gymdeithasol arall, fel cenedligrwydd, mae'r effaith yn fwy fyth. Prin yw'r ieithwyr cymdeithasol sy'n credu bod gwahaniaeth iaith yn achosi gwrthdaro cymdeithasol ynddo'i hun, ond mae'n aml yn ffactor mewn gwrthdaro. Wrth ichi ddarllen Darn 3, gan Sapir, meddyliwch am sut a phryd, yn ôl Sapir, y sefydlwyd y cysylltiad agos iawn rhwng iaith a hunaniaeth genedlaethol. Pa amgylchiadau a all achosi gwrthdaro ar sail iaith?

Darn 3

While language differences have always been important symbols of cultural difference, it is only in comparatively recent times, with the exaggerated development of the ideal of the sovereign nation ..., that language differences have taken on an implication of antagonism. In ancient Rome and all through mediaeval Europe there were plenty of cultural differences running side by side with linguistic ones, and the political status of Roman citizen or the fact of adherence to the Roman Catholic church was of vastly greater significance as a symbol of the individual’s place in the world than the language or dialect he happened to speak. It is probably altogether incorrect to maintain that language differences are responsible for national antagonisms. It would seem to be much more reasonable to suppose that a political and national unit, once definitely formed, uses a prevailing language as a symbol of its identity ...

In earlier times there seems to have been little systematic attempt to impose the language of a conquering people on the subject people ... Definitely repressive attitudes toward the languages and dialects of subject peoples seem to be distinctive only of European political policy in comparatively recent times. The attempt of czarist Russia to stamp out Polish by forbidding its teaching in the schools ... [is an example] of the heightened emphasis on language as a symbol of political allegiance in the modern world.

Sapir, 1970 (1933), tt. 40–2

Yma, mae Sapir yn datgan mai rhywbeth modern yw'r cysylltiad agos rhwng iaith a hunaniaeth genedlaethol. Byddwn yn dychwelyd at hyn pan fyddwn yn edrych ar wreiddiau ideoleg cenedlaetholdeb. Mae hefyd yn dweud y gall ymdrechion i ddarostwng ieithoedd lleiafrifol greu gwrthdaro o bosibl. Er ei fod yn sicr yn anghywir i awgrymu - hyd yn oed yn y 1930au - mai dim ond yn Ewrop roedd ieithoedd lleiafrifol yn cael eu darostwng, mae'n sicr wedi bod yn nodwedd o ymdrechion i sefydlu gwladwriaethau yno. Yn wir, cafodd y Gymraeg eu darostwng am ganrifoedd: cyflwynodd Harri'r VIII waharddiad ar ddefnyddio'r Gymraeg at bob diben swyddogol yn Neddf Uno 1536. Yn ystod y canrifoedd dilynol, cafodd yr iaith ei stigmateiddio'n systemataidd, gyda'r enghraifft enwocaf yn 1847, sef y Report into the State of Education in Wales, a ddywedodd fod yr iaith yn ‘great evil’ a'i bod yn gyfrifol am ddirywiad economaidd a moesol tybiedig y Cymry (Roberts, 1998). Paratowyd yr adroddiad hwn, y cyfeirir ato hefyd fel ‘Brad y Llyfrau Gleision’, gan dri bargyfreithiwr Seisnig, nad oeddent yn gallu siarad na deall Cymraeg. Efallai mai'r weithred fwyaf dinistriol yn erbyn y Gymraeg oedd ei gwahardd rhag cael ei defnyddio mewn ysgolion, gwaharddiad a barhaodd tan ddechrau'r 20fed ganrif.

Er i weithgareddau canoli'r wladwriaeth Seisnig lwyddo i gael gwared ar bron pob gwahaniaeth gweinyddol, cyfreithiol a sefydliadol arall rhwng Cymru a Lloegr, y Gymraeg oedd iaith y rhan fwyaf o boblogaeth Cymru a'r rhan fwyaf o'i chymunedau o hyd drwy gydol y 19eg ganrif. Fodd bynnag, fel y dengys Ffigur 11, bu gostyngiad cyson yng nghanran y siaradwyr Cymraeg drwy gydol yr 20fed ganrif. Mae'r rhesymau dros y gostyngiad hwn yn gymhleth, ond gellir eu cysylltu â safle economaidd a chymdeithasol Cymru mewn gwladwriaeth Brydeinig a oedd yn gynyddol bwerus.

Ffigur 11 Canran o boblogaeth Cymru sy'n gallu siarad Cymraeg, 1891-2012