6.1.3 Y Gymraeg a chenedlaetholdeb gwleidyddol
Felly, yn 1925, pan sefydlodd grŵp bach o genedlaetholwyr - nad oedd yn cynnwys yr un gwleidydd proffesiynol - Blaid Genedlaethol Cymru, un o'i phrif nodau oedd hyrwyddo'r Gymraeg a diwylliant Cymreig. Roedd y rhan fwyaf o sylfaenwyr y blaid wleidyddol newydd hon yn bobl broffesiynol o'r dosbarth canol - athrawon, gweinidogion a darlithwyr - ac roedd y Gymraeg yn rhan ganolog o'u bywyd personol a'u bywyd gwaith. Nod y blaid oedd sicrhau hunanlywodraeth i Gymru, gan gynnwys (erbyn 1932) sicrhau bod Cymru yn aelod o Gynghrair y Cenhedloedd, a hyrwyddo diwylliant Cymreig a'r Gymraeg. Er bod cyhoeddiadau'r blaid yn gwbl ddwyieithog o'r 1930au ymlaen, roedd trefniadaeth fewnol y blaid a'i haelodau bron i gyd yn Gymraeg eu hiaith (Davies, 1983, tt. 179–86). Prif ysbrydoliaeth y rhan fwyaf o'r aelodau oedd eu pryder dros yr iaith Gymraeg a'r angen i'w hamddiffyn yn wyneb ffactorau allanol a oedd yn ei thanseilio, a oedd yn deillio o ddiffyg ymreolaeth Cymru o fewn y wladwriaeth Brydeinig.
Ni chafodd Plaid Genedlaethol Cymru fawr ddim effaith etholiadol yn ystod ei dau ddegawd cyntaf a gellid dweud ei bod yn debycach i fudiad deallusol a diwylliannol na phlaid wleidyddol. Fodd bynnag, dechreuodd cymeriad y blaid newid yn sylweddol o ganol y 1940au wrth i Blaid Cymru drawsnewid yn blaid wleidyddol, gan ymladd etholiadau seneddol a lleol ledled Cymru gyda'r bwriad o ennill pŵer gwleidyddol er mwyn cyflawni ei nod o gael hunanlywodraeth lawn i Gymru.
Wrth i Blaid Cymru ymwreiddio'n ddyfnach mewn gweithgareddau gwleidyddol prif ffrwd, rhoddwyd llai o bwyslais ar hyrwyddo'r Gymraeg er ei fod yn egwyddor ganolog o hyd. Serch hynny, parhaodd yr iaith i fod yn ysbrydoliaeth fawr i lawer o ymgyrchwyr y blaid. Mewn cyfweliad yn 1977, dywedodd un unigolyn, a oedd yn ddarpar ymgeisydd seneddol dros Blaid Cymru ac yn gweithredu'n bennaf fel cenedlaetholwr gwleidyddol yn hytrach na chenedlaetholwr diwylliannol ac ieithyddol: ‘Without the language, the mainspring would go out of my motivation. Welsh freedom would still be worth working for, but I would not be as passionate about it’ (Davies, 1989, t. 44).
Mae'r cysylltiadau dwfn rhwng iaith a hunaniaeth yn golygu y gall iaith fod yn ysbrydoliaeth bwysig ac yn ffordd o recriwtio cenedlaetholwyr os ystyrir bod yn rhaid cael ymreolaeth wleidyddol er mwyn amddiffyn ac, yn wir, sicrhau dyfodol yr iaith. At hynny, mae achos Cymru yn awgrymu nad dim ond siaradwyr yr iaith sy'n teimlo fel hyn. Mae llawer o bobl ddi-Gymraeg hefyd wedi cefnogi achos y cenedlaetholwyr yn bennaf oherwydd yr iaith, gan ddadlau iddynt gael eu hamddifadu o'r iaith oherwydd gorthrwm ieithyddol y wladwriaeth Brydeinig. Efallai y byddant yn ceisio adennill yr iaith - iddyn nhw eu hunain, drwy ei dysgu fel oedolion; i'w plant, drwy gefnogi'r mudiad ysgolion Cymraeg; a/neu i'w cenedl, drwy ymgyrchu'n wleidyddol dros hunanlywodraeth i Gymru.
Gweithgaredd 16
Mae'r ddau ddarn canlynol yn dangos beth mae'r iaith Gymraeg wedi dod i'w olygu i rai pobl nad ydynt yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf. Mae Darn 4 gan y bardd Eingl-Gymreig a'r cenedlaetholwr Cymreig, Harri Webb, a gafodd ei fagu yn Abertawe. Dysgodd Gymraeg fel oedolyn, gan fabwysiadu tafodiaith ardal Gwent a glywodd pan weithiodd fel llyfrgellydd yn Nowlais. Daw Darn 5 o draethawd, ‘Coming home’, gan yr academydd Sylvia Prys Jones, a anwyd yn Lloegr ac a symudodd gyda'i theulu i Gaerdydd pan roedd yn 10 oed. Yn y ddau ddarn, beth yw rhesymau'r awdur dros ddysgu Cymraeg? Sut mae'r ddau ohonynt yn cysylltu iaith â hunaniaeth bersonol a chenedlaethol?
Darn 4
The Old Language
They called us, shyly at first, those words
That were and were not ours.
They whispered in names whose meaning
We did not know, a strange murmur
Like leaves in a light wind you hardly feel
Stirring the autumn wood of memories
That were and were not ours.
We did not stop to heed, nor pause to wonder.
But we could not escape them, they were always
Around us, whispering. Did they croon
A crazed witless song, a bad spell,
Voices crying out of an old dark wood?
Some shuddered, fled, stumbled.
Others listened.
Suddenly we knew, understood
Whose voices these were, knew
What they had been telling us all the time:
Our true name;
And the dead leaves turned into a shower of gold.
Darn 5 ‘Coming home’
At secondary school I studied Welsh, French, Latin and Greek ...
But it was Welsh which captured my interest, for it represented not just a language but an identity. I was a shy, diffident teenager: ... The Welsh language gave me roots and a sense of direction, and also set me apart from the crowd.
I became a fervent Welsh nationalist. ...
The strange aspect of this Welshness was that it was almost entirely an inward experience, a strange romantic notion in my imagination. ...
My Welsh nationalism ... had no political content. I had little grasp of political matters, and even less interest. ...
Looking back at that period of fervent nationalism makes me blush, bearing, as it did, little relation to the Wales of reality. I knew little of the geography of Wales ... I knew less of the people, of their struggle for survival and the preservation of their language. My Welshness was largely ‘psychological’: less of a response to the real, historical Wales than to a dim unperceived need within myself. ... But even now, as I wince in memory, I wonder whether it was such a bad thing.
... Is it a crime to want to belong, to be a part, to have roots? And if, in the process, we chance upon something of such immeasurable worth and beauty as the Welsh heritage, so much the better.