Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Y Gymru Gyfoes
Y Gymru Gyfoes

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

6.2.Y Gymraeg a chenedlaetholdeb

Er bod y Gymraeg wedi bod yn ysbrydoliaeth i genedlaetholwyr, nid dyma unig gyfraniad yr iaith i'r mudiad cenedlaetholgar o bell ffordd. Er i ganran y siaradwyr Cymraeg ostwng drwy gydol yr 20fed ganrif bron, daeth yr iaith yn sylfaen bwysicach byth i'r mudiad. Wrth i'r wladwriaeth Brydeinig ymestyn ac atgyfnerthu ei phŵer dros ei thiriogaeth, dechreuodd Cymru'r cyfnod modern heb unrhyw sefydliadau a oedd yn ei gwneud yn wahanol i Loegr. Cafwyd gwared ar yr holl wahaniaethau gweinyddol, cyfreithiol ac addysgol, ac unrhyw wahaniaethau eraill, rhwng Cymru a Lloegr Roedd hunaniaeth Gymreig yn seiliedig yn gyfan gwbl bron ar wahaniaethau diwylliannol, a'r un amlycaf oedd y Gymraeg.