6.2.1 Gweithredu dros y Gymraeg
O ddiwedd y 1940au, dechreuodd Plaid Genedlaethol Cymru newid yn raddol o weithredu'n bennaf fel mudiad diwylliannol i ymddwyn fel plaid wleidyddol gonfensiynol. O dan arweinyddiaeth Gwynfor Evans, canolbwyntiodd Plaid Cymru (fel y'i gelwid o'r 1950au) ar ymladd etholiadau ar gyfer senedd San Steffan a llywodraeth leol, a'r nod yn y pen draw oedd ennill hunanlywodraeth drwy ddulliau cyfansoddiadol. Fodd bynnag, araf fu'r cynnydd ac erbyn dechrau'r 1960au, roedd llawer o aelodau wedi cael eu siomi gan ddiffyg llwyddiant y blaid.
Yna, ym mis Chwefror 1962, gwnaeth Saunders Lewis, un o sylfaenwyr y blaid a'i llywydd rhwng 1926 a 1939, anerchiad radio o'r enw ‘Tynged yr Iaith’, a gafodd effaith ddwys ar y mudiad cenedlaetholgar. Yn ei ddarlith, cefnodd ar ei safbwynt blaenorol mai hunanlywodraeth oedd y brif flaenoriaeth a galwodd am weithredu uniongyrchol ac anufudd-dod sifil er mwyn cael cydnabyddiaeth swyddogol i'r Gymraeg yng Nghymru.
Ymdrech oedd yr araith hon i geisio symud Plaid Cymru oddi wrth ymgyrchu etholiadol hollol ofer, fel yr ymddangosai ar y pryd. Fodd bynnag, ni ddarbwyllodd y blaid ond llwyddodd i ysbrydoli grŵp o aelodau iau i sefydlu mudiad ymgyrchu newydd o'r enw Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Ymgyrch gyntaf y Gymdeithas oedd sefydlu'r hawl i gael gwysion llys Cymraeg, a dechreuodd ei gweithgareddau ym mis Chwefror 1963 gyda phrotest eistedd ar Bont Drefechan gan gau'r ffordd i Aberystwyth. Y bwriad oedd y byddai'r protestwyr yn cael gwysion y gallent eu gwrthod am eu bod yn Saesneg. Fodd bynnag, ni roddwyd unrhyw wysion ac ni chafodd unrhyw aelod ei arestio tan 1966, pan wrthododd un ohonynt arddangos disg treth car uniaith Saesneg.
Ar ddiwedd y 1960au ac yn ystod y 1970au, canolbwyntiodd y Gymdeithas yn bennaf ar ymgyrchu dros arwyddion ffordd dwyieithog. Denodd yr ymgyrch hon, lle aeth aelodau'r Gymdeithas ati yn gyntaf i baentio dros arwyddion uniaith Saesneg ac yna eu tynnu i lawr yn gyfan gwbl, gryn dipyn o gyhoeddusrwydd negyddol a chafodd llawer o bobl eu harestio dros nifer o flynyddoedd. Er gwaethaf hynny, fel y gwelwch, os barnwn yr ymgyrch ar sail ymateb y llywodraeth neu ei heffaith ar gymdeithas yng Nghymru, bu'n llwyddiannus iawn.
Cyn y math hwn o weithredu ieithyddol - gweithredu uniongyrchol di-drais yn erbyn eiddo - nid oedd y llywodraeth wedi ymateb i ddegawdau o weithredu gwleidyddol mwy confensiynol.
Yr unig ddeddfwriaeth arwyddocaol ar yr iaith oedd Deddf Llysoedd Cymru 1942, a roddodd hawl i siaradwyr Cymraeg roi tystiolaeth yn Gymraeg os byddai defnyddio Saesneg yn eu rhoi dan anfantais yn eu barn nhw. Fodd bynnag, yn fuan ar ôl protest pont Trefechan, penododd y llywodraeth Bwyllgor Hughes Parry i ymchwilio i statws cyfreithiol yr iaith. Arweiniodd adroddiad y pwyllgor at basio Deddf yr Iaith Gymraeg 1967, a roddodd ddilysrwydd cyfartal i'r iaith Gymraeg, hynny yw, bod gan bethau a oedd yn cael eu gwneud yn Gymraeg yng Nghymru yr un statws cyfreithiol â phethau a oedd yn cael eu gwneud yn Lloegr.
Er bod hyn yn gam pwysig o ran cydnabyddiaeth swyddogol i'r Gymraeg, cyfyngedig oedd cymhwysedd y Deddf ac nid oedd unrhyw ffordd o orfodi cydymffurfiaeth â'r egwyddor o ddilysrwydd cyfartal. Serch hynny, dywedodd Pwyllgor Bowen, a sefydlwyd ar ddechrau'r 1970au i ystyried y mater o arwyddion ffordd dwyieithog, mai dilysrwydd cyfartal oedd y prif reswm dros argymell gosod arwyddion ffordd dwyieithog (gyda'r Gymraeg yn gyntaf) ledled Cymru. Roedd ymddangosiad dilynol arwyddion ffordd Cymraeg/Saesneg, er ei bod yn broses raddol a dadleuol yn aml, wedi rhoi cydnabyddiaeth swyddogol, a hynny'n gyhoeddus, nid yn unig i'r iaith Gymraeg ond hefyd i fodolaeth hunaniaeth Gymreig unigryw.
Roedd llawer o bobl ddi-Gymraeg hefyd yn teimlo bod yr arddangosiad cyhoeddus hwn o'r iaith Gymraeg yn gadarnhad o'u hunaniaeth Gymreig. Mewn gwaith ymchwil diweddar i newidiadau ym mywyd teuluol yn Abertawe rhwng y 1960au a dechrau'r 20fed ganrif, gwelwyd llawer o achosion lle roedd gan bobl fwy o hunanhyder i arddangos eu hunaniaeth Gymreig, a chyfeiriodd dau o'r rhai a gafodd eu cyfweld yn benodol at arwyddion ffordd Cymraeg (Davies et al., 2006, t. 46). Dywedodd un ohonynt: ‘When I come over the Severn Bridge and I see the signs in Welsh, I’m happy.’ A dywedodd un arall:
I’m Welsh and I’m proud that I’m Welsh. When I go over to England, because I mean I do travel around the country, when I go across to England, I say uh, that’s England, but as soon as I come to it, I say yes I’m home. As soon as you see that Welsh sign you’re home. Yeah. Very important that I’m Welsh. I mean I don’t speak Welsh.
Newidiodd ffocws ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith wrth i faterion gwahanol ddod i'r amlwg. Yn y 1970au, canolbwyntiodd ar gael gwasanaeth teledu Cymraeg gan ddefnyddio technegau fel dringo mastiau teledu er mwyn eu hatal rhag darlledu. Dyma'r unig ymgyrch y gwnaeth Plaid Cymru ymuno â hi'n swyddogol, gan drefnu ymgyrch o anufudd-dod sifil yn 1980 pan wrthododd bron i 2,000 o bobl dalu ffi'r drwydded deledu a chyhoeddodd Gwynfor Evans ei fod yn bwriadu ymprydio tan farwolaeth oni bai bod y bedwaredd sianel, a oedd yn cael ei sefydlu ar y pryd, yn cael ei gwneud yn sianel Gymraeg yng Nghymru.
Yn ystod y 1980au a'r 1990au, canolbwyntiodd Cymdeithas yr Iaith ar ddau faes: (i) y bygythiad tybiedig i gymunedau Cymraeg wrth i dai gael eu trosi yn gartrefi gwyliau ac yn ail gartrefi; a (ii) yr angen am Ddeddf Iaith newydd. Byddwn yn dychwelyd at y rhain yn nes ymlaen.
Dros y chwarter canrif ar ôl i Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1967 gael ei phasio, gweithiodd ymgyrchwyr i wireddu'r addewid o ddilysrwydd cyfartal mewn amrywiaeth o gyd-destunau, fel darparu arwyddion ffordd dwyieithog a ffurflenni swyddogol yn Gymraeg a chydnabod hawl unigolion i ohebu â chyrff cyhoeddus yn Gymraeg. Wrth i ddiffygion y Ddeddf ddod yn fwyfwy amlwg, cynyddodd y galw am Ddeddf newydd. O dan y Ddeddf a gyflwynwyd yn y pen draw, sef Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, nodwyd y dylai'r Gymraeg a'r Saesneg gael eu trin ar y sail eu bod yn gyfartal yn y system farnwrol ac mewn gweinyddiaeth gyhoeddus, ond ni chadarnhawyd beth yn union oedd ystyr 'ar y sail eu bod yn gyfartal' ac roedd yn dibynnu ar ymarferoldeb. Ni ddatganodd y Ddeddf fod y Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru er gwaethaf y gefnogaeth i'r mesur. Ond sefydlodd y Ddeddf gyfrwng i sicrhau bod ei darpariaethau'n cael eu cyflawni: daeth Bwrdd yr Iaith Gymraeg, corff cynghorol ar y pryd, yn gorff statudol â phwerau i orchwylio gwaith cyrff cyhoeddus i ddatblygu Cynlluniau iaith Gymraeg gofynnol er mwyn trin y Gymraeg a'r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal. Diddymwyd Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn 2012 a rhannwyd ei ddyletswyddau rhwng Comisiynydd y Gymraeg a Llywodraeth Cymru.