6.2.2 Y Gymraeg a sefydliadau Cymreig
Wrth inni feddwl am weithgareddau a chyflawniadau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac ymgyrchwyr eraill dros y degawdau diwethaf, gallwn weld bod yr iaith wedi gwneud llawer mwy nag ysbrydoli ymgyrchwyr o fewn y mudiad cenedlaetholgar, er bod hynny'n bwysig iawn. Drwy'r iaith, cafodd arwahanrwydd Cymru ei gydnabod yn swyddogol am y tro cyntaf ers yr 16eg ganrif. At hynny, daeth yn sylfaen i greu seilwaith sefydliadol yng Nghymru, rhywbeth arall nad oedd wedi bodoli ers canrifoedd.
Un maes lle roedd y Gymraeg yn arbennig o ddefnyddiol er mwyn ysgogi datblygiad sefydliadau Cymreig ar wahân oedd addysg. Yn ystod y blynyddoedd yn union ar ôl yr Ail Ryfel Byd, dechreuodd rhieni mewn sawl ardal yng Nghymru roi pwysau ar awdurdodau lleol i sefydlu ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg. I ddechrau, y bwriad oedd y byddai'r ysgolion hyn yn agored i blant o aelwydydd Cymraeg mewn ardaloedd o Gymru a oedd yn Saesneg eu hiaith yn bennaf. Fodd bynnag, yn gymharol gyflym, dechreuodd rhieni di-Gymraeg wneud cais i'w plant hwythau hefyd fynd i'r ysgolion cyfrwng Cymraeg hyn. Felly, er i'r mudiad gael ei arwain yn wreiddiol gan ddosbarth canol Cymraeg, denodd gefnogaeth yn fuan gan rieni di-Gymraeg o'r dosbarth gweithiol. Fe'u denwyd gan lwyddiannau addysgol amlwg yr ysgolion, y cyfle i ailgyflwyno eu plant i dreftadaeth ieithyddol Cymru - cyfle na chawsant hwy yn eu barn nhw ac, o'r 1980au, apêl swyddi statws uchel lle roedd y Gymraeg yn hanfodol yn y cyfryngau ac yn y sefydliadau biwrocrataidd llywodraethol a oedd yn tyfu'n gyson o fewn y Swyddfa Gymreig ac o'i chwmpas.
Erbyn dechrau'r 1980au, roedd y rhan fwyaf o ddisgyblion llawer o ysgolion cyfrwng Cymraeg yn dod o gartrefi di-Gymraeg, ac roedd statws dosbarth y disgyblion yn cynrychioli'r ardaloedd yr oedd yr ysgolion wedi'u lleoli ynddynt. Yn 2012, roedd 33 y cant o'r ysgolion cynradd a gynhelir yng Nghymru yn defnyddio Cymraeg fel y brif iaith addysgu, ac roedd tua 40 y cant o'r holl ddisgyblion 15 oed yn rhugl yn y Gymraeg. Gan fod mwy na thraean o'r holl blant a oedd yn siarad Cymraeg yn dod o gartrefi lle nad oedd un rhiant yn siarad Cymraeg, mae ysgolion cynradd wedi chwarae rôl bwysig o ran diogelu'r iaith Gymraeg (Bwrdd yr Iaith Gymraeg, 1999, t. 2). Mae ffigurau'r Cyfrifiad ar gyfer canrannau'r siaradwyr Cymraeg mewn grwpiau oedran gwahanol dros ail hanner yr 20fed ganrif yn dangos hyn yn glir.
Gweithgaredd 17
Mae Ffigur 12 yn dangos canran y siaradwyr Cymraeg mewn grwpiau oedran gwahanol rhwng 1951 a 2011. Os edrychwch ar y grŵp oedran 65+, gwelwch fod canran y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng yn raddol o fwy na 40 y cant yn 1951 i lai nag 20 y cant yn 2011. Nawr, edrychwch ar y grwpiau oedran eraill. Ym mha grwpiau y llwyddwyd i atal y gostyngiad hwn? Ar gyfer pob un o'r grwpiau hyn, pryd y dechreuodd y canrannau gynyddu?
Gadael sylw
Gwelwyd y cynnydd cyntaf o gymharu â ffigurau'r cyfrifiad blaenorol ymhlith y tri grŵp oedran ieuengaf yn 1981, yn 1991 yn achos y grŵp oedran 15-24 a chynyddodd canran y siaradwyr Cymraeg yn y grŵp oedran 25-44 am y tro cyntaf yn 2001 (o 14.5 y cant i 15.1 y cant). Mae amseriad y cynnydd hwn yn y grwpiau oedran yn awgrymu bod datblygiad addysg cyfrwng Cymraeg dros yr hanner canrif ddiwethaf wedi newid proffil demograffig y Gymraeg, o iaith a oedd gryfaf ymhlith y grwpiau oedran hŷn i iaith sy'n tyfu fwyaf ymhlith y grwpiau oedran iau.
Cafodd rheolaeth dros addysg gynradd ac uwchradd yng Nghymru ei throsglwyddo i'r Swyddfa Gymreig yn 1970 ac arweiniodd hyn at dwf elite proffesiynol o addysgwyr Cymreig. Felly, pan gyflwynwyd Deddf Diwygio Addysg 1988, dylanwadodd y seilwaith addysgol Cymreig hwn yn sylweddol ar y cwricwlwm cenedlaethol newydd a grëwyd gan y Ddeddf. Y ddadl gryfaf dros roi triniaeth arbennig i Gymru o dan y Deddf oedd amgylchiadau arbennig yr ysgolion cyfrwng Cymraeg. Fodd bynnag, roedd cylch gorchwyl yr addysgwyr Cymreig yn cynnwys mwy na'r sector cyfrwng Cymraeg, a gwnaethant lwyddo i sicrhau dimensiwn Cymreig i'r cwricwlwm ar ffurf dau ofyniad sy'n unigryw i Gymru - y Cwricwlwm Cymreig, a luniwyd er mwyn addysgu am ddiwylliant Cymru ymhob cyfnod yn y cwricwlwm; a'r gofyniad i astudio Cymraeg fel iaith gyntaf neu ail iaith ymhob ysgol yng Nghymru. Gan edrych eto ar Ffigur 12, gallwch weld y cynnydd mawr iawn rhwng 1991 a 2011 ymhlith grwpiau sy'n cynnwys unigolion o oedran ysgol (5-15). Mae'n debygol iawn bod yn hyn deillio o'r lle a roddwyd i'r Gymraeg yn y Cwricwlwm Cenedlaethol yn enwedig fel pwnc sylfaen mewn ysgolion cyfrwng Saesneg (Bwrdd yr Iaith Gymraeg, 2003, t. 2).