6.3 Cenedlaetholdeb
Mae gwreiddiau'r ideoleg o genedlaetholdeb yn tarddu o'r prosesau o adeiladu gwladwriaethau yn Ewrop o'r 18fed ganrif ymlaen. Yn ôl yr ideoleg hon, mae'r byd wedi'i rannu'n naturiol ac yn briodol yn wledydd, y mae eu haelodau yn rhannu hunaniaeth genedlaethol drwy rinweddau fel hanes cyffredin, iaith, crefydd a nodweddion diwylliannol eraill. Mae cenedlaetholdeb yn datgan hawl pob gwlad i gael ei sefydliadau ei hun, hynny yw, yn ddelfrydol dim ond un grŵp cenedlaethol ddylai fod ymhob gwladwriaeth.
Pam wnaeth cenedlaetholdeb ymddangos pan y gwnaeth mewn hanes? A sut wnaeth diwylliannau cenedlaethol ac ymwybyddiaeth o hunaniaethau cenedlaethol ymddangos? Mae'r rhan fwyaf o bobl sydd wedi ceisio ateb y cwestiynau hyn o'r farn nad yw cenhedloedd yn rhan naturiol o gymdeithas ddynol, sy'n aros i bobl eu darganfod. Yn lle hynny, fe'u crëwyd mewn ymateb i gyfres benodol o ofynion, sef anghenion cyfalafiaeth ddiwydiannol newydd am weithlu cydryw a symudol. Dadleuodd Ernest Gellner (1983) y gwnaeth gwladwriaethau gyflwyno addysg dorfol er mwyn cynhyrchu gweithlu o'r fath. Lluniwyd cynnwys yr addysg hon drwy adeiladu ar ddiwylliannau 'gwerin' lleol a ddewiswyd yn ôl mympwy. Daeth hyn i gynrychioli'r 'uwch' ddiwylliant cenedlaethol a daeth yn sail i hunaniaeth genedlaethol ac wrth wneud hynny, disodlwyd yr amrywiaeth o ddiwylliannau 'gwerin' gwahanol a fodolai o fewn ffiniau'r wladwriaeth. Felly, fel y dywedodd Gellner (1983, t. 55), ‘It is nationalism which engenders nations, and not the other way round’.