Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Y Gymru Gyfoes
Y Gymru Gyfoes

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

6.3.2 Natur cenedlaetholdeb Cymreig

Mae Kellas yn dechrau gan wahaniaethu rhwng mathau 'gorllewinol' a 'dwyreiniol' o genedlaetholdeb. Yn y bôn, mae ei fath 'gorllewinol' o genedlaethol yr un peth â'r hyn rydym ni wedi ei alw yn genedlaetholdeb 'dinesig', sef mudiad cymdeithasol cynhwysol gydag ymdeimlad cenedlaethol o 'berthyn' sy'n seiliedig ar ddinasyddiaeth. Mae Plaid Cymru a Chymdeithas yr Iaith yn arddel y math hwn o genedlaetholdeb. Gellir cyferbynnu cenedlaetholdeb 'dinesig' â chenedlaetholdeb ethnig [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] , lle caiff 'perthyn' ei ddehongli yn nhermau rhyw fath o dras gyffredin, a all fod yn enetig neu efallai y bydd yn fater o rannu'r un hanes. Mae Cymuned fel arfer yn arddel rhyw fath o genedlaetholdeb 'ethnig'.

Fel gyda phob teipoleg, mae rhywfaint o orgyffwrdd rhwng categorïau yn aml. Er enghraifft, mae rhannu diwylliant yn rhan bwysig o genedlaetholdeb dinesig ac ethnig ond a yw'r ddath fath o genedlaethol yn ei drin yn wahanol. I fudiad Cymuned, y Gymraeg yw nodwedd ddiffiniol Cymru, i'r graddau pe byddai'r cymunedau Cymraeg yn diflannu, felly hefyd y byddai pobl Cymru yn peidio â bodoli, canlyniad sy'n fath o 'laddiad ethnig' ym marn Cymuned (Cymuned, 2003, t. 5). Mae Cymuned wedi gwrthod y cyhuddiadau ei fod yn hiliol ac mae wedi croesawu mewnfudwyr, ‘who learn Cymraeg [Welsh] and become part of the community ... from all nations (including England) and all races’, gan ystyried eu bod yn ‘enriching a multi-racial Welsh-speaking society’ (Cymuned, 2003, t. 7). Serch hynny, mae elfen neilltuolaidd yn yr awgrym mai dim ond siaradwyr Cymraeg sy'n gallu honni bod ganddynt hunaniaeth Gymreig, a dyma un o'r prif resymau pam bod Plaid Cymru wedi gwadu safbwynt y grŵp.

Yn y darn blaenorol, gwelsoch fod Kellas yn nodweddu cenedlaetholdeb Cymreig fel math o fudiad dros ‘national secession’, mudiad cynhwysol yn yr ystyr bod ‘the existing citizens of a territory were acceptable as members of the nation’ (Kellas, 1991, t. 73) ac un enghraifft o blith llu o fudiadau tebyg sydd wedi ymddangos o fewn traddodiad democrataidd rhyddfrydol. Fodd bynnag, mae gan fathau eraill o genedlaetholdeb - ac yn enwedig yr hyn y mae Kellas yn ei alw yn ‘integral nationalism’ - nodweddion gwahanol: cul; awtocrataidd; anoddefgar; hiliol. Felly, mae cenedlaetholwyr Cymreig wedi gorfod wynebu cyhuddiadau gan wrthwynebwyr gwleidyddol o 'genedlaetholdeb cul', a hyd yn oed 'hiliaeth' a 'ffasgaeth', sy'n deillio'n bennaf o fethiant i gydnabod yr amrywiaeth eang iawn o fudiadau a gaiff eu labelu'n genedlaetholgar.

Trown yn awr i ystyried rhai agweddau ar athroniaeth a pholisïau gwleidyddol Plaid Cymru er mwyn nodweddu'r mudiad cenedlaetholgar yng Nghymru yn well.

Cenedlaetholdeb a rhyng-genedlaetholdeb

Cenedlaetholdeb Cymreig oedd un o ganlyniadau'r wleidyddiaeth radicalaidd a'r delfrydau sosialaidd a ddatblygodd yng Nghymru yn ystod degawdau cyntaf yr 20fed ganrif. Roedd pwysigrwydd gwleidyddol hunaniaeth Gymreig yn rhan hollbwysig o'r cyd-destun hwn - roedd Keir Hardie, yr aelod seneddol Llafur annibynnol cyntaf o Gymru, yn gefnogol i hunaniaeth genedlaethol Cymru ac ymgyrchodd dros ymreolaeth i Gymru. Yn ystod y blynyddoedd cyn y Rhyfel Byd Cyntaf, ceisiodd sawl aelod blaenllaw o'r Blaid Lafur Annibynnol sefydlu Plaid Lafur Annibynnol ar wahân yng Nghymru ac er mai methiant fu eu hymdrechion, gwnaethant barhau i ddadlau dros uno delfrydau sosialaidd cenedlaetholgar a datganolaidd (Davies, 1983). Ymunodd rhai ohonynt â Phlaid Genedlaethol Cymru ar ôl ei sefydlu yn 1925.

Yr hyn a oedd yn unigryw am Blaid Genedlaethol Cymru oedd ei phwyslais ar y Gymraeg a diwylliant Cymru a'i bod yn annibynnol ar unrhyw blaid wleidyddol Brydeinig. Ond ni ellid cyhuddo'r blaid o arddel meddylfryd 'cenedlaetholgar cul'. Yn ystod ysgol haf flynyddol gyntaf y Blaid yn 1926, trafododd llywydd y blaid, Saunders Lewis, y mater o genedlaetholdeb yn erbyn rhyng-genedlaetholdeb yn uniongyrchol. Yn ei ddarlith ‘Egwyddorion Cenedlaetholdeb’, haerodd mai'r ‘[y] peth a ddinistriodd wareiddiad Cymru ac a wnaeth alanas o'r diwylliant Cymreig, a achosodd y cyflwr enbyd y mae Cymru ynddo heddiw, oedd – cenedlaetholdeb’ (Lewis, 1975, t. 5). Ei ddadl oedd bod y cysyniad o genedlaetholdeb a ymddangosodd wrth i wladwriaethau Ewrop gael eu sefydlu yn faterolaidd ac yn gyfan gwbl seiliedig ar rym. Argymhellodd y dylai cenedlaetholdeb Cymreig gael ei ysbrydoli gan egwyddor gynharach, pan dderbyniwyd awdurdod rhyngwladol, sef awdurdod yr Eglwys Gristnogol, ledled Ewrop ynghyd â pharch at ddiwylliannau amrywiol. Yna, aeth Lewis yn ei flaen i ddadlau bod Cynghrair y Cenhedloedd a sefydlwyd yn ddiweddar yn 'ymgais... i ddatrys cadwyni celyd cenedlaetholdeb materol' (Lewis, 1975, t. 9) ac argymhellodd y dylai Cymru gael sedd yng Nghynghrair y Cenhedloedd pe bai'n cael hunanlywodraeth.

Cenedlaetholdeb a sosialaeth

Roedd elfen sosialaidd ymhlith aelodau Plaid Genedlaethol Cymru o'r dechrau, ond roedd yn llai amlwg ymhlith yr arweinwyr. Eglurodd Kate Roberts, aelod o 1926 a chyfaill agos i Saunders Lewis, ei phenderfyniad i beidio ag ymuno â'r blaid i ddechrau: ‘as I am a Socialist I really cannot reconcile myself with his [Lewis’] ideas. Personally, I see no difference between doffing one’s cap to an English merchant and doffing one’s cap to our old Welsh princes’ (Davies, 1983, t. 124).

Yng nghynhadledd y blaid yn 1938, heriodd grŵp o fyfyrwyr prifysgol o Fangor raglen gymdeithasol arfaethedig Saunders Lewis, gan ddadlau mai athroniaeth sosialaidd a oedd gan y blaid yn ei hanfod ac y dylid cydnabod hyn er mwyn denu sosialwyr Cymreig i gyflawni'r nod o hunanlywodraeth i Gymru. Cafodd eu cynnig ei wrthod o blaid cysyniad Lewis o berchentyaeth, ond efallai nad mater o wrthod sosialaeth oedd hyn ond adlewyrchiad o'r parch personol mawr a oedd gan yr aelodau at Lewis (Davies, 1983, tt. 104–5). Er gwaethaf y penderfyniad hwn i wrthod label sosialaeth, roedd prif lefarydd economaidd y blaid yn ystod ei dau ddegawd cyntaf, Dr D.J. Davies, yn gyn-aelod o'r Blaid Lafur Annibynnol a datblygodd bolisi economaidd y blaid ar sail ei weledigaeth sosialaidd.

Dechreuodd Plaid Cymru symud tuag at safbwynt sosialaidd pendant yn y 1960au pan ddechreuodd math newydd o aelod effeithio ar y blaid. Yr aelodau newydd hyn oedd ffrwyth y cyfleoedd addysgol a grëwyd gan y wladwriaeth les ar ôl yr Ail Ryfel Byd i bobl o'r dosbarth gweithiol; roedd llawer ohonynt yn ifanc, yn ddi-Gymraeg ac yn dod o ardaloedd diwydiannol y de. Er bod y rhan fwyaf ohonynt yn dod o deuluoedd a chymunedau a oedd yn deyrngar yn draddodiadol i'r Blaid Lafur, gwnaethant wrthod y Blaid Lafur am iddi fradychu sosialaeth yn eu barn nhw. Dywedodd un aelod o'r blaid o etholaeth yn y Cymoedd, a gafodd ei gyfweld yn 1977, iddo ymuno â Phlaid Cymru pan roedd yn ei arddegau yng nghanol y 1960au.

My generation began to realise that all this tremendous loyalty to Labour had got us nowhere in our area and had got Wales nowhere as a whole ... We suspected Labour not just on practical grounds, that they had not delivered on their promises, but also on ideological grounds that they were not a true socialist party ... We chose nationalism as the best way to pursue socialist ideals.

(Davies, 1989, t. 72)

Erbyn dechrau'r 1970au, roedd rhai deallusion adain chwith yn dechrau cydnabod cyfeiriad sosialaidd Plaid Cymru yn ogystal â'r mudiad ieithyddol.

Gweithgaredd 19

Darllenwch y darn canlynol gan Raymond Williams o'i adolygiad o lyfr Ned Thomas, The Welsh Extremist, ar yr iaith Gymraeg a'r mudiad ieithyddol, a gyhoeddwyd yn 1971. Yn eich barn chi, beth oedd rhesymau Williams dros newid ei farn bod cenedlaetholdeb Cymreig yn blwyfol ac yn geidwadol gan ei ystyried yn rhan o achos ‘[a cause] better than national and more than international ... a very general human and social movement’ (Williams, 2003 [1971], t. 3)?

Darn 7

I used to think that born into a Border country at once physical, economic, and cultural, my own relationship to the idea of Wales was especially problematic. But I now see, from Ned Thomas, among others, that it was characteristic. I remember focusing first on the powerful political culture of industrial South Wales: in the first half of this century one of the major centres of socialist consciousness anywhere in the world. But the necessary movement from that kind of centre was into a larger society. ...

But there was always another idea of Wales: the more enclosed, mainly rural, more Welsh-speaking west and north. For me, in the beginning, that was much more remote. ... In the last decade especially ... another idea of Wales, drawn from its alternative source, has come through in the campaigns of Plaid Cymru and the Welsh Language Society.

The relation between these two phases has been especially difficult. Many English Socialists, and many Welsh Labour Party people, have seen the later phase as a marginal or romantic irrelevance, or as worse. ‘Nationalism means Fascism’, somebody said to me angrily. He is especially the kind of man who should read Ned Thomas’s book. For the strange thing is this: that through its radical emphasis on identity and community, and in its turn to popular campaigning, to demonstrations and to direct action, this new Welsh movement ... has come through as part of the new socialism and the new thinking about culture ...

... [I]t seems to be true that in late capitalist societies some of the most powerful campaigns begin from specific unabsorbed (and therefore necessarily marginal) experiences and situations. Black Power in the United States, civil rights in Ulster, the language in Wales ...

Williams, 2003 (1971), y. 3–4

Gadael sylw

Mae taith ddeallusol Williams yn dangos yr anawsterau a wynebir gan genedlaetholdeb Cymreig o ganlyniad i'r amrywiaeth eang o fudiadau sydd wedi cael eu labelu'n 'genedlaetholgar'. Mae hefyd yn awgrymu newidiadau yn y ddealltwriaeth o sosialaeth, yn enwedig y derbyniad cynyddol pwysigrwydd profiadau 'lleol' ac ystyron diwylliannol sydd wedi peri i'r ddwy ideoleg symud yn nes at ei gilydd.

Ar ddechrau 1980au, gwnaeth Plaid Cymru ymgorffori sosialaeth yn swyddogol yn nodau'r blaid tra'n ymwrthod â sosialaeth y wladwriaeth a oedd yn gysylltiedig â'r Blaid Lafur yn nhyb Plaid Cymru. Gwnaeth Comisiwn Ymchwilio i ddyfodol y blaid ddiffinio ei safbwynt gwleidyddol fel ‘decentralist socialist’. Fodd bynnag, roedd rhai yn y blaid yn pryderu o hyd ynglŷn â'r anghysondebau rhwng datganoliaeth a sosialaeth ac, mewn adroddiad lleiafrifol, dadleuodd Phil Williams y dylai swyddogaethau llywodraeth gael eu cynnal a lefel mor isel â phosibl heb danseilio ‘the basic equality of individuals and communities within society’. Felly, gellid cyfuno sosialaeth a datganoliaeth, ‘but when the two principles contradict it is to socialism that we should give our highest priority’ (Plaid Cymru, 1981, t. 111).

Cenedlaetholdeb gwyrdd

Roedd adroddiad lleiafrifol Phil Williams yn ymgodymu â mater a oedd yn debyg i'r un a godwyd gan Raymond Williams – y berthynas rhwng gwahanol lefelau o drefniadaeth gymdeithasol a'u hystyron diwylliannol cysylltiedig. Bu Raymond Williams yn uniaethu â math newydd o sosialaeth, y Chwith Newydd, a oedd yn cynnwys mudiadau cymdeithasol eang (mudiad y merched, Grym i Bobl Dduon, yr iaith Gymraeg) ond a oedd wedi'i gwreiddio yn nodweddion penodol lleoliad a budd cyffredin. Daeth mudiad cymdeithasol arall, sef y mudiad ecolegol, yn fwyfwy blaenllaw o'r 1980au ymlaen, gan eiriol dros gyfuniad tebyg o ymwybyddiaeth fyd-eang a gweithredu lleol.

Roedd Phil Williams, a fu'n un o'r recriwtiaid ifanc 'anhraddodiadol' i genedlaetholdeb ar ddechrau'r 1960au ac yr oedd ei syniadau wedi cael dylanwad mawr ar bolisïau Plaid Cymru dros bedwar degawd, ymhlith y cyntaf i bwyso ar y blaid i weithredu ynglŷn â materion gwyrdd. Darbwyllodd Gynhadledd 1983 i sefydlu gweithgor ar faterion ecolegol ac amgylcheddol. Datblygwyd cysylltiad agos iawn rhwng y maes polisi hwn a gorllewin Cymru o ganlyniad i'r cytundeb rhwng Plaid Cymru a'r Blaid Werdd y byddai ymgeisydd ar y cyd yn ymladd etholaeth Ceredigion a Gogledd Penfro yn etholiad cyffredinol 1992. Arweiniodd y penderfyniad hwn at fuddugoliaeth i Cynog Dafis, a ddaeth yn bedwerydd AS Plaid ac yn AS cyntaf y Blaid Werdd yn San Steffan. Parhaodd y cytundeb â'r Blaid Werdd tan 1995 a bu'n allweddol o ran cael rhai mesurau amgylcheddol drwy'r senedd.

Ar ôl iddo gael ei ethol i'r Cynulliad yn 1999, parhaodd Phil Williams â'i waith ar broblem newid yn yr hinsawdd, gan ddadlau y gallai Cymru gyfrannu'n sylweddol tuag at weithredu i leihau allyriadau nwy tŷ gwydr byd-eang. Mewn araith i'r Cynulliad ym mis Mai 2000, disgrifiodd newid yn yr hinsawdd fel ‘the overriding imperative of global politics and ... the most important single issue since the 1980s’. Fel ffisegydd proffesiynol, teimlai o dan rwymedigaeth i gyfleu ‘sense of reasoned, responsible panic’ gwyddonwyr amgylcheddol allweddol. Ar yr un pryd, nododd y camau gweithredu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a fyddai, yr honnai, yn gwneud cyfraniad gwirioneddol i fynd i'r afael â'r argyfwng. Gan siarad fel cenedlaetholwr ond gan gydnabod anghenraid cydweithredu rhyngwladol, daeth i'r casgliad:

[A] though no single parliament has the power to solve the problem globally, this Assembly, with the exception of the climate change levy, has all the necessary powers to ensure that Wales plays not only its full role but perhaps a leading role. That is my dream.

(Williams, 2004, t. 62)