6.3.3 Cenedlaetholdeb o dan ddatganoli
Cadarnhaodd cytundeb Plaid Cymru â'r Blaid Werdd yn y 1990au allu'r blaid i apelio i etholaeth lle roedd cyfran uchel o fewnfudwyr a phobl ddi-Gymraeg, nad oeddent yn cael eu hystyried yn gefnogwyr naturiol i'r blaid. Roedd hefyd yn arwydd o barodrwydd Plaid Cymru i weithio gyda phleidiau gwleidyddol eraill er mwyn cyflawni nodau cyffredin. Bu'r ddau ffactor yn allweddol o ran y blaid yn sefydlu ei hun yn fudiad cenedlaethol 'dinesig', a chyfrannu at y ffaith i'r blaid ennill rhywfaint o rym gwleidyddol o'r diwedd mewn llywodraeth yng Nghymru o dan ddatganoli.
Mae sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cael dwy effaith fawr ar y mudiad cenedlaethol. Ym maes cenedlaetholdeb gwleidyddol, symudodd Plaid Cymru o fod yn lleiafrif bach iawn yn San Steffan i fod yn blaid fwyaf ond un Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn yr etholiadau cyntaf yn 1999. Bu hyn yn newid sylweddol i genedlaetholdeb ym mywyd gwleidyddol Cymru. Ac yn wir, yn y degawd dilynol, gwelwyd pob plaid wleidyddol yng Nghymru yn symud tuag at safbwyntiau mwy 'cenedlaetholgar', gan gynnwys hyd yn oed y Blaid Geidwadol yng Nghymru, a ddaeth i gefnogi ymestyn pwerau'r Cynulliad i gynnwys pwerau deddfu. At hynny, ar ôl etholiadau 2007, gwnaeth pob plaid arall cymryd rhan mewn trafodaethau gyda Phlaid Cymru fel darpar bartner mewn llywodraeth glymblaid, a chytunwyd yn y pen draw ar glymblaid â'r Blaid Lafur a barhaodd tan etholiadau'r Cynulliad yn 2011. Dangosodd y digwyddiadau hyn, yn dilysu rôl y 'cenedlaetholwyr' fod Plaid Cymru wedi cael ei derbyn o'r diwedd o fewn prif ffrwd gwleidyddiaeth Cymru.
O ran hunaniaeth genedlaethol Cymru, bu creu corff cynrychioliadol a etholir yn ddemocrataidd yn rhoi sail hanesyddol newydd i hunaniaeth Gymreig. Gwnaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru atgyfnerthu hunaniaeth Gymreig mewn sawl ffordd: daeth yn ffocws pwysig i lobïo a gwrthdystio, am ei fod yn fwy hygyrch na San Steffan ac (er gwaetha'r cyfyngiadau ar ei bwerau) yn fwy perthnasol i'r hyn a oedd yn bwysig i bobl Cymru. Gwnaeth hefyd annog datblygiad cymdeithas sifil yng Nghymru, gan wneud darpariaethau penodol - a hyd yn oed sefydlu sefydliadau mantell - er mwyn meithrin dulliau o gyfathrebu â sefydliadau yn y Trydydd Sector (h.y. nid er elw, gwirfoddol ac anllywodraethol).
Mae'r ystyriaethau hyn yn dod â ni yn ôl at berthynas yr iaith a hunaniaeth genedlaethol â'n man cychwyn. Pa effaith y mae'r Cynulliad wedi cael ar y Gymraeg fel un o ddynodwyr hunaniaeth Gymreig? Yn 2003 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei pholisi manwl ynglŷn â'r iaith Gymraeg, Iaith Pawb: Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Cymru Ddwyieithog. Dyma'r ymrwymiad mwyaf erioed gan lywodraeth i'r Gymraeg gyda'r nod o greu yn y pen draw 'Cymru gwbl ddwyieithog, sef gwlad lle y gall pobl ddewis byw eu bywydau naill ai drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg neu’r ddwy iaith a lle mae bodolaeth y ddwy iaith yn fater o falchder a chryfder i ni i gyd' Llywodraeth Cymru, 2003, t. 11). Fodd bynnag, parhaodd y goblygiadau ymarferol i'r iaith i fod yn destun dadlau wrth i amheuon mawr gael eu mynegi ynglŷn â digonolrwydd darpariaeth ar gyfer dulliau gweithredu penodol ac adnoddau ychwanegol i roi polisïau ar waith.