6.4 Casgliad
Mae cysylltiad agos rhwng iaith a hunaniaeth. Rydym yn defnyddio iaith i fynegi hunaniaeth bersonol unigol a meithrin hunaniaethau ar y cyd ac undod.
Gall iaith genedlaethol unigryw gyfrannu at fudiad cenedlaetholgar fel prif ysbrydoliaeth ymgyrchwyr – hyd yn oed y rhai sy'n dewis canolbwyntio eu gweithgareddau ym myd gwleidyddol mwy confensiynol yn hytrach nag mewn ymgyrchoedd dros yr iaith.
Mae mudiadau cenedlaetholgar yn amrywio'n eang o fod yn rhai democrataidd a rhyddfrydol i rai unbenaethol ac anoddefgar Mae'r rhan fwyaf o sefydliadau cenedlaetholgar (Plaid Cymru, Cymdeithas yr Iaith) yn eiriol dros genedlaetholdeb 'dinesig' cynhwysol.
Mae nifer fach o sefydliadau (e.e. Cymuned) yn ymwrthod â chenedlaetholdeb dinesig, tra'n arddel safbwynt gwrth-hiliol.
Mae athroniaeth wleidyddol Plaid Cymru wedi ymgorffori rhyngwladoldeb, sosialaeth a chenedlaetholdeb gwyrdd.
Yn y cyfnod wedi datganoli, daeth Plaid Cymru yn blaid wleidyddol brif ffrwd ac yn blaid llywodraeth yn y pen draw. Symudodd pleidiau gwleidyddol eraill yng Nghymru yn agosach at safbwynt 'cenedlaetholgar'. Cafodd hunaniaeth genedlaethol ei hatgyfnerthu a'i dilysu, a gwnaeth Llywodraeth Cymru ymrwymiad cadarn i'r Gymraeg, ond roedd amheuon o hyd ynglŷn â darpariaethau ymarferol ar gyfer gweithredu.
Mae iaith yn rhan annatod o'r ffordd rydym yn meithrin ac yn cynnal ein hunaniaethau personol, yn ogystal â'n hunaniaethau ar y cyd. Mae hunaniaeth genedlaethol yn un fath o hunaniaeth ar y cyd y mae iaith a gwahaniaethau ieithyddol yn bwysig iddi.
Mae'r Gymraeg wedi bod yn bwysig i hunaniaeth genedlaethol Gymreig ac i'r mudiad cenedlaetholgar yng Nghymru mewn sawl ffordd. Bu'n ysbrydoliaeth i ymgyrchwyr yn y mudiad. Mae'r Gymraeg hefyd wedi cael ei defnyddio i ennyn cydnabyddiaeth swyddogol i'r genedl drwy ei harddangos yn gyhoeddus (e.e. ar arwyddion) a'u defnyddio'n gyhoeddus (e.e gan wasanaethau cyhoeddus). Ac mae'r iaith wedi bod yn sail i sefydlu sefydliadau penodol i Gymru (e.e. ysgolion cyfrwng Cymraeg).
Fodd bynnag, mae'r iaith o dan bwysau oherwydd nifer o brosesau cymdeithasol ac economaidd, ac mae anghytundebau ynglŷn â'r ffordd briodol o ymateb i'r pwysau hwn wedi arwain at anghydfod o fewn y mudiad cenedlaetholgar ac ymosodiadau o'r tu allan.
Er bod llawer math o genedlaetholdeb, mae rhai ohonynt yn unbenaethol ac yn anoddefgar, mae cenedlaetholdeb Cymreig yn tarddu o draddodiad sosialaidd democrataidd radical yng Nghymru ac mae'n ymwneud â democratiaeth ryddfrydol a chydraddoliaeth sy'n nodweddiadol o'r traddodiad hwn. Gellir dweud mai un o nodweddion y mudiad cenedlaetholgar Cymreig yw ei fod yn fath democrataidd a chynhwysol o genedlaetholdeb 'dinesig' sy'n arddel safbwynt gwleidyddol sy'n cwmpasu rhyngwladoldeb, sosialaeth, ac amgylchfydaeth.