Gwerthoedd 'Cymreig' Llafur (Andrew Edwards)
7.1.1 Gwerthoedd Llafur a gwerthoedd Cymreig
O ganlyniad i oruchafiaeth Llafur dros wleidyddiaeth Cymru yn ystod yr ugeinfed ganrif a thu hwnt, ystyrir bod Cymru yn 'wlad Lafur' ym myd trafodaeth gyhoeddus. Wrth geisio esbonio poblogrwydd Llafur, mae rhai wedi awgrymu bod gan y Cymry 'Lafur' yn eu DNA. Mae cryn dipyn o bropaganda Llafur dros y blynyddoedd wedi cyfeirio at y 'ffaith' bod pobl Cymru, mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, yn gynhenid sosialaidd ac yn coleddu gwerthoedd a olygai eu bod yn barod i dderbyn neges ac apêl Llafur, a sosialaeth. Tybir yn aml fod pobl Cymru yn fwy democrataidd, mwy rhyddfrydig, mwy goddefgar, mwy di-ddosbarth na phobl o sawl rhan arall o Brydain.
Gweithgaredd 20
Cymerwch eiliad i feddwl am werthoedd 'Llafur' a gwahanol fathau o hunaniaeth Gymreig a'r hyn y mae rhai yn ystyried yn werthoedd 'Cymreig'. Ysgrifennwch yr atebion i'r cwestiynau canlynol:
A oes elfennau o'r cymeriad cenedlaethol Cymreig sy'n ein helpu i ddeall yr ymlyniad at Lafur a gwerthoedd 'Llafur' yng Nghymru?
A fyddai'n well esbonio'r traddodiad Llafur drwy ddeall profiad cymdeithasol ac economaidd Cymru?
Beth yw gwerthoedd 'Llafur'?
Gadael sylw
Pe bawn yn ateb Cwestiwn 3, byddwn yn dechrau gyda'r rhai hawdd – bod Llafur yn sefyll dros radicaliaeth, cyfunoliaeth a chydraddoldeb. Pe bawn yn ateb deng mlynedd ar hugain yn ôl, byddwn wedi dweud sosialaeth fwy na thebyg, ond nid wyf mor siŵr y byddwn yn dweud hynny heddiw. Felly, mae angen i ni feddwl am werthoedd nad ydynt yn sefydlog o reidrwydd.