7.1.2 Y traddodiad Llafur yn y 1980au a'r 1990au
Bu'r amodau a helpodd i ffurfio'r traddodiad Llafur yng Nghymru yn y 1920au a'r 1930au bron â diflannu yn ystod tri degawd olaf yr ugeinfed ganrif. Dechreuodd yr hen ddiwydiannau Cymreig a fu'n fodd i gynnal y traddodiad hwnnw ddiflannu. Yn y gogledd gwelwyd tranc y diwydiant llechi ar ddiwedd y 1960au, a fu'n ergyd drom i lawer cymuned leol. Yn y de, caeodd pyllau glo a gweithfeydd dur gyda chanlyniadau cymdeithasol ac economaidd yr un mor drychinebus yn y 1970au a'r 1980au. Cyrhaeddodd lefelau diweithdra yng Nghymru 10 y cant yn 1989 a'r lefel uchaf erioed, sef 14 y cant, yn 1986. Wrth gwrs, ffigurau cyfartalog yw'r rhain, ac roedd y darlun dipyn yn waeth mewn llawer o drefi. Yn amlwg, cafodd digwyddiadau gwleidyddol mawr yn 1980au - yn enwedig streic y glowyr yn 1984-1985 - effaith ddinistriol ar gymunedau 'Llafur' ond, yn eironig ddigon, nid yr etholaethau hyn a gefnodd ar Lafur ar ddechrau'r 1980au.
Roedd ardaloedd dur a glo, fel y gwelsom, yn symbolau o nerth a gwerthoedd Llafur. Bu'r galwedigaethau a gefnogodd y Blaid Lafur mewn niferoedd mawr bron â diflannu. Ochr yn ochr â newid economaidd, heriwyd hen syniadau a strwythurau cymdeithasol a thrwy ymddangosiad anghyfiawnderau ac anghydraddoldebau newydd yn ogystal â disgwyliadau newydd. Mewn sawl rhan o Gymru, cafodd y traddodiad Llafur ei fygwth gan gystadleuaeth gan genedlaetholdeb diwylliannol a gwleidyddol a chan frand poblogaidd o geidwadaeth. Ar lefel Brydeinig, cafodd y blaid ei rhwygo gan anghydfodau chwerw ynglŷn â pholisi.
Amlygodd yr argyfwng a wynebai'r Blaid Lafur yng Nghymru yn etholiad cyffredinol 1984 pan ostyngodd pleidlais y blaid yng Nghymru o dan 40 y cant am y tro cyntaf ers cenhedlaeth. Dengys Ffigur 15 fap o Gymru wedi etholiad cyffredinol 1983.
Gweithgaredd 21
Cymharwch Ffigur 14 uchod â Ffigur 15 isod, sy'n dangos Cymru wedi etholiad cyffredinol 1966. Ystyriwch y rhesymau pam y gwnaeth cefnogaeth Llafur edwino.
Gadael sylw
Erbyn 1987, roedd Llafur wedi colli tri etholiad cyffredinol yn olynol (1979, 1983 a 1987) ac roedd y problemau cymdeithasol ac economaidd a wynebai Cymru (a amlinellir uchod) yn gorfodi llawer o gefnogwyr a gwrthwynebwyr datganoli i feddwl eto. Cafodd 'Thatcheriaeth' dri chanlyniad negyddol i ddemocratiaeth Cymru: (i) canoli pŵer yn San Steffan; (ii) dirymu llywodraeth leol drwy dynnu pwerau ymaith oddi wrth lawer o gynghorau a etholwyd yn ddemocrataidd (o dan reolaeth Llafur yn aml); (iii) cynnydd yn nifer y sefydliadau anllywodraethol, lled-ymreolaethol (quangos) (annemocrataidd).
Yr un mor rymus o ran tynnu sylw at argyfwng y 'diffyg democrataidd' yng Nghymru oedd perfformiad y Blaid Geidwadol yng Nghymru yn ystod ei blynyddoedd mewn grym yn San Steffan (1979-1997). Yn etholiad cyffredinol 1979, enillodd y Blaid Geidwadol 11 o seddau yng Nghymru. Yn 1983, ei pherfformiad gorau ers dros genhedlaeth, enillodd 16. Fodd bynnag, yn 1987 a 1993 enillodd 8 a 6 o seddau yn y drefn honno. yn 1997, methodd ag ennill yr un sedd, 'camp' a gyflawnodd y blaid eto yn 2001.
Felly, bu'r Ceidwadwyr yn llywodraethu ar Gymru ar sail pleidleisiau Lloegr (ac i raddau llai) a'r Alban. Ni chafodd y blaid ei chefnogi gan y mwyafrif yng Nghymru. Dyna un rheswm pam y gwnaeth rhai a wrthwynebodd ddatganoli yn 1979 newid eu meddwl yn y 1990au. Dechreuwyd sylweddoli erbyn dechrau'r 1990au bod pobl Cymru yn pleidleisio'n gyson i'r Blaid Lafur ond eu bod yn cael eu llywodraethu gan y Blaid Geidwadol. Un a gafodd dröedigaeth i ddatganoli oedd Ron Davies, AS Llafur dros Gaerffili, ac wedyn ysgrifennydd gwladol Cymru yn llywodraeth Lafur Newydd yn 1997. Darllenwch y darn isod, a ddaw o dystiolaeth Davies i Gomisiwn Richard yn 2002. Bydd yn eich helpu i ddeall pam bod Davies yn credu bod y math o lywodraeth a oedd yn gweithredu cyn datganoli yn anfoddhaol.
Darn 8
I think that the point is worth making that the form of government we have now is infinitely better than we had before 1997 and in that sense I am proud of it. But that doesn’t mean it couldn’t be better. So the question is in what ways? I think we have improved governance in Wales ... there are a number of reasons why we had devolution, one of those clearly was the idea of the democratic deficit. There were others relating to the performance of public services and indeed the national question: identity and image and nation building. But the question that really resonated with the public during the 1990s was the question of the democratic deficit, the issue of the quangos, the issue of the Secretary of State, the issue of legislation going through Parliament. I think we have done that, I think that we do have a form of government now that, despite its imperfections, despite the sense of isolation that comes from its distant geography, I think we have opened up Wales.
Mae'n bwysig pwysleisio nad Davies oedd yr unig un a gafodd ei ddarbwyllo gan agweddau cadarnhaol datganoli.
Roedd ymrwymiad i ddatganoli wedi cael ei gynnwys ym maniffesto etholiad 1992 Llafur. Pan gafodd Llafur Newydd o dan Tony Blair fuddugoliaeth ysgubol yn etholiad Mai 1997, roedd datganoli unwaith eto yn un o ymrwymiadau'r maniffesto. Yn ddiweddarach yn ystod yr un flwyddyn, cafodd pleidleiswyr Cymru gyfle i hawlio datganoli. Yn refferendwm mis Medi 1997, pleidleisiodd 50.3% y cant o blaid datganoli. Nid oedd maint y fuddugoliaeth yn dangos cefnogaeth gref i'r math gweithredol o ddatganoli a gynigiwyd, ond cafwyd cynnydd sylweddol yn y bleidlais 'Ie' o gymharu â 1979. Cynhaliwyd ymgyrch refferendwm 1997 mewn awyrgylch gwleidyddol gwahanol iawn i'r hyn a welwyd yn 1979. Er bod llawer yn rhengoedd Llafur yng Nghymru yn dal i wrthwynebu datganoli, ychydig iawn ohonynt a wrthwynebodd y mesur yn gyhoeddus, yn bennaf am nad oeddent am danseili statws nac enw da'r llywodraeth Lafur gyntaf ers deunaw mlynedd na digio'r rhai a oedd wedi dioddef yn ystod y cyfnod hir hwn o lywodraethu Ceidwadol.
Nid un rheswm penodol a barodd i safbwyntiau ynglŷn â datganoli gael eu trawsnewid, ond amrywiaeth o faterion cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol. Yn yr adran nesaf byddwch yn edrych ar ddatblygiad y traddodiad Llafur ar ôl dyfodiad datganoli.