Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Y Gymru Gyfoes
Y Gymru Gyfoes

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

7.2 Llafur a datganoli

7.2.1 Y traddodiad Llafur a datganoli

Esgorodd dyfodiad datganoli yn 1999 bennod newydd yn hanes y Blaid Lafur yng Nghymru. Yn groes i ofnau llawer o genedlaetholwyr, ni lwyddodd Llafur i ennill mwyafrif yn y Cynulliad. Mae gan y Cynulliad 60 sedd, y mae rhai'n cael eu dosbarthu ar sail etholaethol 'y cyntaf i'r felin' draddodiadol, ac y mae eraill yn cael eu dosbarthu ar sail 'cynrychiolaeth gyfrannol' ranbarthol. Yn y tri etholiad cyntaf i'r Cynulliad yn 1999, 2003, 2007 a 2011 enillodd Llafur 27, 30, 24 a 30 o seddau yn y drefn honno. Felly mae'r Blaid Lafur, hyd yma, wedi methu â sicrhau mwyafrif yng Nghaerdydd. Un o nodweddion diffiniol y Cynulliad fu dyfodiad llywodraeth glymblaid. Yn 2000 sicrhaodd Llafur reolaeth dros y Cynullid drwy glymblaid â'r Democratiaid Rhyddfrydol ac, yn 2007, glymblaid annhebygol iawn â Phlaid Cymru (o gofio'r elyniaeth rhwng y pleidiau am y rhan fwyaf o'r ganrif flaenorol). O 2011 mae wedi llywodraethu heb fwyafrif. Fel y dengys canlyniadau'r tri etholiad cyntaf i'r Cynulliad, mae pleidiau 'radical' eraill wedi perfformio'n dda hefyd ac, am y tro cyntaf ers dros ganrif, mae'r Blaid Geidwadol yn ymateb i heriau'r Gymru gyfoes gyda llais a mandad sy'n nodedig Gymreig ac ag agenda sy'n cydymdeimlo i ryw raddau â rhai materion 'radical' (yn enwedig yr angen i warchod, a hyd yn oed, estyn hunanlywodraeth i Gymru).

Mae'n amlwg bod datganoli a llywodraethu drwy glymblaid wedi cyflwyno heriau i Lafur. Ymhlith yr agweddau cadarnhaol i Lafur (ac, yn wir, y pleidiau eraill) yn ystod deng mlynedd gyntaf datganoli fu'r ymgais i ymdrin â'r diffyg cydbwysedd rhwng y rhywiau yng ngwleidyddiaeth Cymru. O ganlyniad i bolisi, a elwid yn 'wahaniaethu cadarnhaol' gan rai, roedd prosesau dewis y Blaid Lafur yn cynnwys rhestrau byr i ferched yn unig mewn sawl etholaeth cyn etholiad y Cynulliad yn 1999. Yn rhannol o ganlyniad i hyn, yn y Cynulliad cyntaf, roedd merched yn dal 46 y cant o'r seddi. Yn 2003, cynyddodd hyn i 50 y cant. Cyn etholiad 2007, roedd 29 o'r Aelodau Cynulliad (ACau) yn ddynion a 31 yn ferched. Yn 2003, roedd mwyafrif o ferched yn y Cabinet hefyd (5 allan o 9 o weinidogion). Ym mis Mai 2007, roedd 47% o ACau yn ferched. Ym mis Mehefin 2014, roedd traean o'r Cabinet yn ferched a 44 y cant o ACau - felly bu dirywiad yng nghynrychiolaeth merched yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, yn San Steffan, 19.5 y cant o ASau sy'n ferched ac 20 y cant o ASau o Gymru sy'n ferched.

Mantais arall fu parhad traddodiad Llafur Cymru i geisio creu agenda Lafur a oedd yn unigryw i Gymru. Pan feddyliaf am gyfatebiaeth Morgan o 'dreigiau coch' a 'baneri coch' (rhaniad Llafur Cymru yn garfan ddatganolaidd ac yn garfan ganoliaethol), credaf y gellir dweud â sicrwydd bod ysbryd y ddwy yn cyniwair ym Mae Caerdydd. Yn ystod blynyddoedd cyntaf datganoli, cafodd Llafur Cymru anhawster i dorri'n rhydd oddi wrth lyffetheiriau arweinwyr y blaid yn Llundain. Tynnwyd sylw at hyn yn ystod yr anghydfod ynglŷn â chyfnod Alun Michael yn Brif Weinidog rhwng 1999 a 2001, pan gafodd Michael ei ystyried gan sylwebwyr yn y cyfryngau, gwrthwynebwyr y blaid a hyd yn oed aelodau o Lafur Cymru fel Paul Flynn yn 'groupie', neu 'poodle' Tony Blair yng Nghaerdydd (Flynn, 1999, t. 44). Roedd Michael hefyd yn amhoblogaidd ymhlith llawer o gefnogwyr datganoli am fod ganddo record o fod yn llugoer, ar y gorau, tuag at ddatganoli. Fodd bynnag, ar ôl i Michael ymddiswyddo yn 2001, ceisiodd ei olynydd, Rhodri Morgan, greu agenda Lafur i Gymru sy'n wahanol i'r agenda yn Llundain. Holl ddiben datganoli oedd y gallai Cymru, pe dymunai, ddatblygu polisïau a oedd yn wahanol i'r rhai mewn rhannau eraill o'r DU. Crisialwyd yr angen am weithredu felly gan Morgan ym mis Rhagfyr 2002 mewn araith enwog sydd bellach yn cael ei galw'n araith y 'clear red water'. Drwy hyn amlygwyd awydd yng Nghymru nid yn unig i fod yn wahanol, ond hefyd i'r Blaid Lafur goleddu rhannau o'i threftadaeth a'i thraddodiad. Mae'r darn isod yn trafod y pwnc a daw o araith a draddodwyd yng Nghaerdydd ym mis Mawrth 2003.

Darn 9

The key point is that we organise ourselves and the values that we hold are shaped by this experience of living in relatively small settlements and medium sized villages, towns, valley agglomerates and cities. The consumerist approach to choice in public services that stresses differentiation may fit best the practicalities and the experience of those metropolitan settlements of a million or several million people that are a feature of counties that are urbanised in a different way to Wales. As an Assembly Government, we have given higher priority to the provision of high quality, community based, comprehensive secondary schools than we have to the development of a choice of specialist schools. This does not mean we area against choice and diversity ... it seems to me that our values and our geography lead us to stress the community basis of our schools ... involving parents, families and community groups in the life of the schools.

Morgan, March 2003

Ysbytai oedd ffocws araith y ‘clear red water’. Yma, mae Morgan yn canolbwyntio ar ysgolion fel maes lle mae gwahaniaethau o ran polisi yn beth dymunol.

Gweithgaredd 22

Ystyriwch a nodwch feysydd polisi eraill lle mae'r gwahaniaeth rhwng anghenion a gwerthoedd Lloegr yn wahanol o bosibl i werthoedd traddodiadol Llafur a Chymru. Er enghraifft, gallech ystyried sut nad yw polisïau ynglŷn â thwristiaeth yng ngweddill y DU o bosibl yn addas bob amser ar gyfer anghenion Cymru

Felly fe welwn ddreigiau coch, baneri coch a dŵr coch bellach yn cael eu defnyddio i ddiffinio'r hyn a olygir gan y traddodiad Llafur. Gallem bortreadu Rhodri Morgan fel draig goch mewn gwirionedd, rhywun sy'n dod o gefndir tebyg i James Griffiths, siaradwr Cymraeg, sy'n cydymdeimlo â diwylliant ac iaith Cymru, ond hefyd â daliadau a thueddiadau sosialaidd amlwg a chefnogwr di-syfl dros hunanlywodraeth i Gymru.