Skip to main content

Gofal cymdeithasol a seicoleg

Gofal cymdeithasol a seicoleg

course image

Cymerwch olwg agosach ar ddau o’r meysydd pwnc mwyaf poblogaidd yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae yna gyrsiau blasu rhagarweiniol ar waith cymdeithasol, astudiaethau achos a chyd-destun penodol gwaith Cymdeithasol yng Nghymru. Ynghyd â chwrs byr sy’n addas i ddechreuwyr i fynd â chi drwy’r camau cyntaf o astudio Seicoleg.

  • Cyflwyniad i waith cymdeithasol

    Cyflwyniad i waith cymdeithasol

    Bydd y cwrs byr hwn yn eich cyflwyno i waith cymdeithasol ac yn datblygu eich dealltwriaeth o rai o’r damcaniaethau sy’n gysylltiedig ag ymarfer gwaith cymdeithasol.

    Try this course

    Course

    15 hrs

  • Cyflwyniad i waith cymdeithasol yng Nghymru

    Cyflwyniad i waith cymdeithasol yng Nghymru

    Mae parchu hunaniaeth pob person yn un o werthoedd canolog gwaith cymdeithasol ond, fel y mae'r term yn awgrymu, mae gwaith cymdeithasol yn golygu mwy na safbwyntiau unigol: mae hefyd yn digwydd o fewn cyd-destun cymdeithasol. Mae cymdeithas, demograffi, daearyddiaeth, deddfwriaeth genedlaethol, polisi cenedlaethol ac iaith oll yn chwarae rhan bwysig, ym mywydau defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr ac ymarfer gweithwyr cymdeithasol. Bydd y cwrs hwn yn eich cyflwyno i bwysigrwydd cydnabod bod ymarfer gwaith cymdeithasol yn digwydd mewn cyd-destun. Yn benodol, byddwch yn dysgu beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer gwaith cymdeithasol yng Nghymru - yn y cyd-destun Cymreig.

    Try this course

    Course

    10 hrs

  • Gofalu am oedolion

    Gofalu am oedolion

    Dyma fersiwn Gymraeg cwrs Rhwydwaith Partneriaethau Cymdeithasol yr UD, 'Gofalu am Oedolion' ('Caring for Adults').

    Try this course

    Course

    15 hrs

  • Storïau unigol: safbwyntiau ar waith cymdeithasol

    Storïau unigol: safbwyntiau ar waith cymdeithasol

    Yn y gyfres hon o bedwar cyfweliad, byddwch yn gwylio defnyddiwr gwasanaeth, gofalwr, gweithiwr cymdeithasol a rheolwr gwaith cymdeithasol yn siarad am eu profiadau gwahanol. Bydd y cyfweliadau'n dangos pwysigrwydd gwrando ar storïau pobl, pwysigrwydd cydberthnasau mewn ymarfer gwaith cymdeithasol a phwysigrwydd cyd-destun yr ymarfer gwaith cymdeithasol. Byddwch yn ystyried cwestiynau am y cyfweliadau ac yn myfyrio ar oblygiadau'r hyn sydd gan yr unigolion i'w ddweud ar gyfer ymarfer.

    Try this course

    Course

    2 hrs

  • Dechrau gyda seicoleg

    Dechrau gyda seicoleg

    Y 'pos mwyaf a phwysicaf' rydym yn ei wynebu fel pobl yw ni ein hunain (Boring, 1950, tud. 56). Mae pobl yn bos - yn bos cymhleth, cynnil ac amlhaenog, a daw'n fwy cymhleth fyth wrth i ni esblygu dros amser a newid o fewn cyd-destunau gwahanol. Wrth ateb y cwestiwn 'Beth sy'n ein gwneud ni yn pwy ydym ni?', mae seicolegwyr yn cyflwyno amrywiaeth o esboniadau pam bod pobl yn teimlo, yn meddwl ac yn ymddwyn fel ag y maent. Pan fydd yn ymddangos bod seicolegwyr yn deall un rhan o 'pwy ydym ni', daw tystiolaeth newydd i ddangos ochr wahanol i'r amlwg! Nid yw'n hawdd nodi'r holl ddylanwadau.

    Try this course

    Course

    5 hrs

Page 1 of 1