Cyrsiau ac erthyglau sy’n addas i ddechreuwyr yn edrych ar wleidyddiaeth, cymdeithas a diwylliant Cymru o amrywiaeth o safbwyntiau.
Y daith hir tuag at ddatganoli yng Nghymru
Mae Graham Day, cyn-Ddarllenydd Cymdeithaseg ym Mhrifysgol Bangor ac awdur Making Sense of Wales (2002) yn adolygu’r camau amrywiol o newid cyfansoddiadol drwy’r pwerau sydd wedi’u datganoli i Gymru gan lywodraeth y Deyrnas Unedig ers y 1990au. Mae’n nodi sut mae’r cynnydd ym mhwerau Llywodraeth Cymru, sy’n angenrheidiol i ddarparu ateb ymarferol a sefydlog, wedi’i gyflawni drwy bontio democrataidd rhyfeddol. Wrth i’r pwyslais symud yn awr o ddiwygio cyfansoddiadol at fanteision gwirioneddol llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru, mae hefyd yn cynnig asesiad o rai o lwyddiannau Llywodraeth Cymru.
Try this courseCourse
10 hrs
Level 0 Beginner
Y Gymru Gyfoes
Mae'r cwrs am ddim hwn yn edrych ar y Gymru gyfoes mewn ffordd fywiog a hygyrch drwy ganolbwyntio ar y gwyddorau cymdeithasol. Mae'n cyflwyno agweddau allweddol ar economi, cymdeithas, gwleidyddiaeth a diwylliant Cymru, gan ddarparu cyfoeth o dystiolaeth ddiweddar sydd wedi'i threfnu ar sail cysyniadau a damcaniaethau craidd ym maes y gwyddorau cymdeithasol, er mwyn eich helpu i wneud synnwyr o wlad sy'n newid.
Try this courseCourse
15 hrs
Level 0 Beginner