Cwrs datblygiad personol ar gyfer gofalwyr yng Nghymru yw hwn. Bydd yn eich helpu i nodi a myfyrio ar eich profiadau, eich diddordebau a'ch sgiliau a'ch dyheadau ar gyfer y dyfodol. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i ddatblygu cynllun gweithredu personol i'w roi ar waith ar ôl i'r cwrs ddod i ben. Mae'r cwrs, a ddatblygwyd gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, yn cynnwys astudiaethau achos gan ofalwyr go iawn sy'n rhannu eu profiadau a'u myfyrdodau.

Mae'r cwrs hwn yn rhan o gasgliad
Mae'r cwrs hwn yn rhan o gasgliad o gyrsiau o'r enw Addysg. Mae 4 cwrs yn y casgliad hwn felly efallai y dewch o hyd i gyrsiau eraill a allai fod o ddiddordeb i chi.
Deilliannau dysgu'r cwrs
Drwy weithio drwy Beth amdana i? byddwch yn cyflawni'r canlynol:
- gwell dealltwriaeth o'ch profiadau fel gofalwr a hefyd yn eich rolau ehangach
- dealltwriaeth o'r sgiliau amrywiol rydych wedi'u datblygu fel gofalwr ac yn eich rolau ehangach a sut y gellir eu trosglwyddo i sefyllfaoedd eraill
- gwerthfawrogiad o rinweddau personol a ddatblygwyd drwy eich rôl ofalu
- cyfle i feddwl am eich nodau a'ch dyheadau ar gyfer y dyfodol
- syniad o sut y gallech weithio tuag at y nodau hynny a ble y gallech gael help a chefnogaeth
- y gallu i ddefnyddio technoleg gwybodaeth (TG) er mwyn cyflawni gweithgareddau myfyriol o ran ysgrifennu a chyfathrebu
- y gallu i ddefnyddio'r we er mwyn dod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol
- y gallu i archwilio a defnyddio ffyrdd newydd o fynegi syniadau.
Course dates:
First Published 22/04/2015.
Updated 28/09/2017
Cynnwys y cwrs
Cysylltu â chofrestru a chynnwys cwrs