© Chris Steer/iStockphoto.com
Mae Cefnogi datblygiad plant yn gwrs rhagarweiniol ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb yn natblygiad plant, yn enwedig staff cymorth mewn ysgolion, megis cynorthwywyr addysgu. Mae’n adeiladu ar eich gwybodaeth a’ch sgiliau er mwyn datblygu dealltwriaeth ddyfnach o blant - o’r blynyddoedd cynnar i oed gadael ysgol. Byddwch yn cael cyflwyniad i syniadau craidd yn ymwneud â datblygu a dysgu, ymddygiad, anghenion arbennig ac anableddau.Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim ac mae croeso ichi ei astudio heb gofrestru. Fodd bynnag, mae'r cwrs yn cynnig cyfle i ennill bathodyn digidol fel cydnabyddiaeth o'ch dysgu. I gasglu’r bathodyn, bydd angen ichi gofrestru. Os oes gennych gyfrif Prifysgol Agored eisoes, bydd angen ichi fewngofnodi cyn cofrestru. Fel arall, mae'n hawdd creu cyfrif. [Awgrym: daliwch Ctrl i lawr a chlicio ar y ddolen i’w agor mewn tab newydd.] Wedi ichi fewngofnodi, dewch yn ôl i'r dudalen hon a chlicio ar y botwm 'Cofrestru' uchod.