Y daith hir tuag at ddatganoli yng Nghymru

Cyflwyniad

Yn yr adnodd hwn, mae Graham Day, cyn-Ddarllenydd mewn Cymdeithaseg sydd bellach yn Uwch Gymrawd Ymchwil Anrhydeddus ym Mhrifysgol Bangor, yn adolygu'r gwahanol gamau o newid cyfansoddiadol sydd wedi arwain at ddatganoli pwerau i Gymru o lywodraeth y DU ers y 1990au. Mae'r adnodd yn cynnwys crynodebau o ddogfennau allweddol a darnau ohonynt; ac mae'n cyfeirio'r darllenydd at gyfweliadau sain perthnasol, cyhoeddiadau ysgolheigaidd a ffynonellau newyddion. Yn hynny o beth mae'n defnyddio deunydd o archifau'r Sefydliad Materion Cymreig, y Brifysgol Agored, a Chanolfan Llywodraethiant Cymru.  At ei gilydd, mae'n darparu adroddiad cryno, trylwyr a dadansoddol o ddatganoli hyd at Awst 2014, gan nodi sut y mae pwerau Llywodraeth Cymru wedi cael eu hymestyn yn raddol, a oedd yn angenrheidiol er mwyn sicrhau ateb ymarferol a sefydlog, drwy newid democrataidd rhyfeddol. Ar ddiwedd yr adnodd ceir asesiad cychwynnol o gyflawniadau Llywodraeth Cymru.

Noder: Mae’r rhan fwyaf o’r deunydd archif yn Saesneg.

Os hoffech astudio'n ffurfiol â ni, efallai y byddwch am ystyried cyrsiau eraill sydd gennym yn y maes pwnc [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .

Gellir dod o hyd i ragor o gyrsiau a chymwysterau yn Gymraeg yma.

Cefndir datganoli i Gymru