Y Gymru Gyfoes

Cyflwyniad

Mae'r cwrs am ddim hwn yn ymdrin â'r gwahaniaethau sydd i'w gweld yng Nghymru a'r cysylltiadau sy'n cael eu creu ar draws y gwahaniaethau hyn. Mae'n ystyried gwahaniaethau o ran lle, rhywedd, 'hil', dosbarth a gwaith; a'r cysylltiadau o ran cenedlaetholdeb a'r Gymraeg, traddodiadau Llafur, cynrychiolaeth wleidyddol a phortreadau diwylliannol sy'n pontio'r gwahaniaethau hynny. Drwy edrych ar wahaniaethau a chysylltiadau, mae'r cwrs yn gofnod awdurdodol a diweddar o economi, cymdeithas, gwleidyddiaeth a diwylliant Cymru gyfoes ac mae'n cynnwys amrywiaeth eang o astudiaethau achos diddorol.

Byddwch yn dysgu am yr hyn sy'n unigryw am Gymru a hunaniaeth Gymreig; sut mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi trawsnewid y system ddemocrataidd yng Nghymru; ystyr y 'clear red water' sy'n gwahanu Llafur Cymru oddi wrth y blaid Lafur yn San Steffan; sut y cafodd economi Cymru ei hailstrwythuro ar ôl i'r pyllau glo gau; arwyddocâd yr iaith Gymraeg heddiw; p'un a yw Cymru yn wlad ddi-ddosbarth o gymharu â gweddill y DU; a sut mae rhaglenni teledu fel Dr Who a Gavin and Stacey yn cynrychioli dimensiynau pwysig o'r Gymru gyfoes.

Mae'r uned astudio hon yn ddyfyniad wedi'i addasu sy'n berthnasol i gwrs y Brifysgol Agored D172 Contemporary Wales, na chaiff ei addysgu bellach gan y Brifysgol. Os hoffech astudio'n ffurfiol gyda ni, efallai yr hoffech ystyried y cyrsiau eraill a gynigir gennym yn y maes pwnc hwn [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .

Mae'r uned hon hefyd ar gael yn Saesneg ar OpenLearn.

Gellir dod o hyd i ragor o gyrsiau a chymwysterau yn Gymraeg yma.