Para 1.11

Y mwyaf nodedig o'r holl greadigaethau chwedlonol hyn oedd stori Madog ap Owain Gwynedd, tywysog o'r ddeuddegfed ganrif yr honnwyd ei fod wedi darganfod America ym 1170, rhyw dri chan mlynedd cyn Columbus. Roedd y myth wedi ymddangos am y tro cyntaf yn ystod cyfnod y Tuduriaid, ond cafodd ail adfywiad mwy grymus yn y 1790au, pan drawyd Cymry Llundain gan 'dwymyn Madog'. Ym 1791 cafwyd adroddiadau fod grŵp o Indiaid a alwyd yn 'Mandaniaid' neu 'Padoucas' wedi’u darganfod ar lan afon Missouri, a dywedwyd eu bod yn ddisgynyddion uniongyrchol i Madog a’u bod yn dal i siarad Cymraeg. Roedd David Samwell, llawfeddyg o Gymru ac aelod blaenllaw o Gymdeithas y Gwyneddigion, a oedd wedi teithio gyda Chapten Cook o amgylch y byd, yn gyfan gwbl argyhoeddedig fod y stori’n wir, yn yr un modd â llawer o Gymry Llundain (1Q [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ). Fe wnaeth y Gwyneddigion, wedi’u sbarduno gan Iolo Morganwg, a oedd wedi ffugio dogfennau er mwyn helpu i gadarnhau’r honiad, gytuno i dalu am daith i chwilio am Indiaid Mandan, dan arweiniad gŵr ifanc o’r enw John Evans o Waunfawr ger Caernarfon (1R). Ar ôl taith hir a pheryglus, cyrhaeddodd Evans Indiaid Mandan yn 1786, ond darganfu nad oeddent yn siarad Cymraeg. Serch hynny, daeth stori Madog yn chwedl bwerus, a phan luniodd Thomas Stephens o Ferthyr Tudful draethawd arobryn ar Madog yn Eisteddfod Llangollen yn 1858, ni ddyfarnwyd gwobr iddo am fod ei draethawd yn profi na allai Madog fod wedi darganfod America.