Para 1.4

Pan olygodd William Owen Pughe Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym yn 1789, sef casgliad o gerddi gan y bardd o’r bedwaredd ganrif ar ddeg, roedd y gwaith yn cynnwys atodiad o ryw ugain o gerddi gan Ddafydd a oedd yn anhysbys cyn hynny ac a anfonwyd at Pughe gan Iolo, a oedd yn honni ei fod wedi eu trawsgrifio o lawysgrifau aneglur o Forgannwg. Yn wir, ffugiadau Iolo ei hun oedd y cerddi, ond roedd y safon mor argyhoeddiadol fel mai dim ond yn ystod degawdau canol y ganrif hon yr oedd academyddion Cymraeg yn gallu gwahaniaethu rhwng y rhain a’r rhai gwreiddiol. Tua diwedd y 1790au cafodd Iolo ei benodi yn un o olygyddion y Myvyrian Archaiology of Wales, gwaith y bwriadwyd iddo fod yn storfa o lenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol a gasglwyd o amrywiaeth o hen lawysgrifau (1C [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ). Cyhoeddwyd tair cyfrol rhwng 1801 a 1807, gyda’r ail a'r drydedd gyfrol yn cynnwys cyfran sylweddol o ddeunydd ffug a ddyfeisiwyd gan Iolo. Yn wir, roedd y drydedd gyfrol, sef yr un fwyaf poblogaidd o bell ffordd gyda'r cyhoedd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn gyfan gwbl yn waith Iolo ei hunan, er nad amheuwyd hyn tan ymhell ar ôl hynny. Ond nid yw’r dyfeisio bwriadol hwn o draddodiad yn unigryw i Gymru yn unig, a dylid ei ystyried fel rhan o adfywiad rhamantus mwy cyffredinol a oedd yn cwmpasu gorllewin Ewrop gyfan. Yn yr Alban, er enghraifft, cyhoeddodd James Macpherson gyfieithiadau o gerddi Gaeleg yn 1762-3 yr oedd yn honni iddyn nhw gael eu cyfansoddi yn y drydedd ganrif yn wreiddiol, gan fardd Celtaidd o'r enw Ossian, ond ffug gyfansoddiadau Macpherson ei hunan oeddent mewn gwirionedd.