Para 3.11

Yn ei holl weithredoedd, bwriad Beca oedd unioni anghyfiawnder, ac arweiniodd hyn ati hi’n ceisio setlo amrywiaeth eang o'r hyn a ystyriwyd ganddi fel camweddau cyhoeddus a phreifat a gyflawnwyd yn y gymuned. Roedd hi'n ymdrechu i weithredu cyfiawnder traddodiadol ac adfer 'hawliau' coll i'r gymuned. Gorfodwyd tadau plant anghyfreithlon i dderbyn cyfrifoldeb am eu hepil (3N) [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ; dinistriwyd coredau y dyfarnwyd eu bod yn rhwystro afonydd yn anghyfreithlon, a thrwy hynny’n ymyrryd â'r cyflenwad o bysgod; cafodd bonedd o un ardal (Llangyndeyrn, Sir Gaerfyrddin) eu rhybuddio i beidio â saethu adar hela gan eu bod yn perthyn i Beca (ar achlysur arall, dymunodd Beca i ffermwyr gael hawl i gymryd adar hela oddi ar eu ffermydd eu hunain); rhybuddiwyd ffermwyr unigol yn erbyn storio ŷd gan ddisgwyl pris uwch; ac, fel enghraifft o gamwedd breifat yn cael ei chosbi yn union yn nhraddodiad y ceffyl pren (sy'n cael ei drafod yn fwy manwl yn nes ymlaen), dinistriwyd dodrefn bythynnwr a'i wraig gan fod yr olaf wedi tystio yn erbyn cymydog a fu’n dwyn tybaco.