Para 4.7

Ar yr un pryd roedd cymhellion neilltuol o bwerus yn annog dosbarth tra-arglwyddiaethol y tirfeddianwyr bonedd i ddilyn yr arweiniad a roddwyd gan frenhiniaeth gref. Gallai'r Goron gynnig posibiliadau gwleidyddol ac economaidd cadarn o ran cynnydd a fyddai, o’i asio ag uchelgeisiau teuluol y bonedd, yn debygol o weithio yn erbyn yr Eglwys. Byddai wedi bod yn rhyfeddol pe bai'r bonedd wedi troi eu cefnau ar deyrngarwch i'r Tuduriaid a oedd mor werth chweil o safbwynt materol ac mor foddhaol iddynt yn seicolegol. Ac eto, mae dynion weithiau yn barod i aberthu hunan-les a thyngu eu cefnogaeth i ffyddlondeb uwch. Efallai y byddent wedi gwneud hynny ar ran yr Eglwys pe bai’r clerigwyr wedi rhoi arweiniad clir i'r cyfeiriad hwnnw. Mae’n ymddangos nad oedd y clerigwyr yn gallu gwneud hynny o gwbl. Roedd yr esgobion a’r uwch glerigwyr yn weision sifil yn bennaf, a benodwyd o ganlyniad i ddylanwad y Brenin ac amharodrwydd i anufuddhau iddo; roedd y clerigwyr is fel arfer yn dlawd, heb eu haddysgu’n dda ac yn aml yn anymwybodol o'r materion dan sylw; ac roedd bywyd y mynachod yn swrth ac yn ddifflach. Y canlyniad oedd bod y clerigwyr wedi cwympo’n ddistadl dan bwysau di-ildio’r wladwriaeth. Nid oes amheuaeth fod gan lawer o ddynion amheuon dwys am yr hyn yr oedd y llywodraeth yn ei wneud, yn enwedig yn ystod teyrnasiad Edward VI, pan oedd ofnau difrifol am wrthryfel yng Nghymru (4K) [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] . Gymaint oedd diymadferthedd crefydd a chred, fodd bynnag, fel nad oedd yn ymddangos fod yr amheuon hyn wedi treiddio’n ddwfn iawn. Cadwodd y rhan fwyaf o ddynion yn dawel at eu hen ffyrdd, yn allanol yn derbyn gorchmynion y llywodraeth, ond yn fewnol yn cadw’n dawel, ac yn gobeithio na fyddai'r newidiadau yn parhau.