Ffynh 4P

... yr awrhon myfi a glywaf fod aml leoedd yng Nghymru, ie, siroedd cyfan heb un Cristion ynddynt, yn byw fel anifeiliaid, y rhan fwyaf ohonynt heb wybod dim oddi wrth ddaioni, ond eu bod yn dal enw Crist yn eu cof, heb wybod haeachen beth yw Crist mwy nag anifeiliaid. A’r mannau lle y mae rhai ohonynt yn Gristnogion, nid oes ond rhai tlodion cyffredin yn canlyn Crist. Mae’r boneddigion a’r rhai cyfoethog heb feddwl am ffydd yny byd heb fod na thwymyn nac oer.

(... and now I hear that there are many places in Wales, yea, whole shires knowing nothing of virtue, except that they retain the name of Christ in their memory, knowing hardly anything more of what Christ is than animals do. And in those places where some of them are Christians, only a few poor common people follow Christ. The gentry and the wealthy think nothing of any faith in the world and are neither hot nor cold.)

(Anon, Y Drych Cristianogawl, 1585 in G.H. Hughes, Rhagymadroddion, 1951, p. 52 [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] )