Para 5.20

Mae effaith y symud o’r tir ar sefyllfa a hyfywedd yr iaith Gymraeg wedi bod yn llawer mwy dadleuol. Ers peth amser mae pobl wedi credu bod y broses hon o anghenraid wedi tanseilio’r iaith. Roedd ardaloedd gwledig yn colli ei siaradwyr Cymraeg, yr ardaloedd lle câi’r Gymraeg ei siarad yn fwyaf cyffredin a lle y câi ei hamddiffyn rhag dylanwadau o’r tu allan. Yn aml ymhlyg yn y dybiaeth hon oedd y farn fod y siaradwyr Cymreig hyn wedi allfudo i America neu Batagonia neu ble bynnag. Ond tybiaeth gryfach na hon oedd bod y datblygiad diwydiannol o anghenraid wedi tanseilio’r iaith a’r diwylliant a oedd yn mynd law yn llaw â hi. Ond roedd yn amhosibl cynnal y safbwynt di-syfl hwn ar ôl i erthygl arloesol Brinley Thomas ‘Wales and the Atlantic Economy’ ymosod arno’n hallt.7 Fel y dangoswyd eisoes, dangoswyd bod y rhan fwyaf o fudwyr Cymreig wedi gallu aros yng Nghymru, ac yn ogystal â hynny, cadwodd Cymru y rhan fwyaf o’i chynnydd naturiol mewn poblogaeth. A bu’r cyfan yn bosibl oherwydd y datblygiad diwydiannol a fu yng Nghymru. 8 Felly roedd cyfanswm y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru bron yn sicr yn uwch nag a fu erioed o’r blaen. A dadleuir bod hyn - er gwaetha’r ffaith eu bod yn rhan fach o’r boblogaeth gyfan - ‘wedi rhoi hwb o’r newydd i’r iaith Gymraeg’ ac ‘ail gyfle’ iddi sefydlu ei hun (5Q [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ).