Gwaith cyflogedig merched

Para 6.4

Mae gwaith cyflogedig merched yng Nghymru yn faes y dylid rhoi sylw iddo. Rhaid nodi sawl ffactor. Yng Nghymru roedd cyfradd gweithgarwch economaidd ymysg merched yn isel iawn. I ferched dros 15 oed y cyfraddau oedd 1911: 27.26 y cant, 1921: 23.0 y cant, 1931: 21.52 y cant, a 1951: 24.95 y cant. Roedd hyn yn deillio o’r ffaith bod swyddi’n brin i ferched yng Nghymru a’r ffaith bod merched yn draddodiadol mewn nifer o rannau o Gymru’n rhoi’r gorau i’w swyddi ar ôl priodi. Serch hynny, mae’n bwysig nodi bod tua 17 y cant o ferched yn ddibriod yn y blynyddoedd rhwng y ddau ryfel ac felly roedd yn rhaid iddynt ennill eu bywoliaeth. Y pwynt hollbwysig arall yw bod nifer fawr o ferched wedi mudo o Gymru i rannau mwy llewyrchus o Loegr oherwydd prinder swyddi yng Nghymru. Roedd nifer enfawr o ferched yn gweithio fel morynion ac yn 1931 roedd o leiaf10,000 o ferched o Gymru’n gweithio fel morynion yn Llundain. Gweithiai merched Cymru, fel merched trwy Brydain, mewn amryw o alwedigaethau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Roeddent yn gweithio fel clercod, yn dosbarthu’r post, glanhau simneiau, gyrru tramiau ac yn casglu tocynnau; roeddent yn gweithio mewn ffatrïoedd gwneud arfau (er enghraifft, Blaenafon a Chaernarfon), ar y tir ac yn y porthladdoedd (er enghraifft, Caerdydd). Ar ddiwedd y rhyfel collodd y merched eu gwaith: rhwng Tachwedd 1918 a Hydref 1919 collodd tri chwarter miliwn o ferched Prydain eu gwaith er mwyn i’r cyn-filwyr gael eu gwaith yn ôl. Roedd disgwyl iddynt ddiflannu’n ôl i’w cartrefi eu hunain neu i gartrefi rhywun arall (fel morynion). Roedd hawl gan ferched a fu’n gweithio yn ystod y rhyfel i gael tâl diweithdra o 25/-yr wythnos am 13 wythnos: achosodd hyn brotestiadau cyhoeddus (6A [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ). Ar y pryd roedd prinder mawr o weision a morynion (6B), hwn oedd y math mwyaf amhoblogaidd o waith i ferched a dyma’r unig sector o’r farchnad lafur lle bu prinder yn ystod y cyfnod rhwng y ddau ryfel.