Para 7.25

Mae’r ffordd y penderfynodd Edward ymateb yn awgrymu ei fod yn ymwybodol o hyn. Er bod y gwrthryfel wedi peri iddo roi’r gorau i ymgyrch hir yn Gasconi ac er bod y gost o wneud hynny wedi arwain at argyfwng ariannol a chyfansoddiadol mawr yn Lloegr, mae’n ymddangos ei fod wedi sylweddoli bod rhywbeth mawr o’i le yn y dywysogaeth. Yn fuan ar ôl rhoi terfyn ar y gwrthryfel, comisiynwyd John de Havering, Ynad Gogledd Cymru a oedd newydd ei benodi, a William Scyun, cwnstabl Castell Conwy, i ymchwilio i gwynion cymuned Gogledd Cymru ynglŷn â chamweinyddu gan swyddogion brenhinol ers y goncwest ac i unioni’r sefyllfa (7L [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ). Yn sicr mae’n ymddangos bod y Brenin wedi ymateb yn ofalus ac ystyriol i deimladau’r Cymry. Yn 1296 daeth dirprwyaeth yn cynrychioli’r gymuned, yn cynnwys tri Chymro a siryf Saesneg Môn ato i ddweud bod si ar led yng Ngogledd Cymru ei fod yn amheus ohonynt. Mewn ymateb anfonodd lythyr o sicrwydd (7M); yr un pryd ysgrifennodd at yr Ynad yn ei gyfarwyddo i ymdrin yn ddifrifol ag unrhyw un a oedd yn lledu’r sïon fel ‘that the punishment shall strike terror into others saying the like things’. Efallai mai ofn gwrthryfel arall oedd i gyfri am yr agwedd dringar a chymodlon hon ond mae’n ymddangos ei bod wedi ennyn ymateb, o leiaf am weddill teyrnasiad Edward. Er i Madog ap Llywelyn ei hun gael ei garcharu, ni chafodd ei ddienyddio ac etifeddwyd ei diroedd ym Môn gan un o’i feibion.