Para 8.3

Dechreuodd Lloyd George ymhél â gwleidyddiaeth o oedran ifanc. Mae ei atgofion cynharaf o fywyd gwleidyddol yn ymestyn yn ôl i’r adeg pan oedd yn bump oed, yn ystod etholiad cyffredinol 1868 (8A [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ), pan fu cynifer o fuddugoliaethau arbennig i’r Rhyddfrydwyr, mewn cyfnod pan gafodd nifer o ffermwyr oedd yn denantiaid yn Sir Gaernarfon eu troi allan gan eu landlordiaid am bleidleisio dros y Rhyddfrydwyr. Pedwar deg dau o flynyddoedd wedyn, yn ystod ymgyrch dros Gyllideb y Bobl a Lloyd George bellach yn Ganghellor, roedd y traddodiadau llafar a’r atgofion am y digwyddiadau hyn o’r gorffennol yn dal yn fyw yn ei gof. Roedd blynyddoedd ei blentyndod wedi eu nodweddu gan densiynau gwleidyddol cyson - atgasedd tuag at y landlordiaid Ceidwadol a oedd â dylanwad mawr ar gefn gwlad, at yr Eglwys Anglicanaidd a orfodai blant ifanc y gyfundrefn Anghydffurfiol fel Lloyd George a oedd yn Fedyddiwr i fynychu ysgolion yr eglwys. Cefnogwyd ei uchelgeisiau gwleidyddol gan ei ewythr, Richard Lloyd, y crydd radical a’i magodd ar ôl i’w dad farw. Yn ystod ei daith gyntaf i Lundain yn 1880, pan oedd Lloyd George yn 17 oed, creodd Tŷ’r Cyffredin (y bensaernïaeth o leiaf) argraff fawr arno (8B).

Yn fuan roedd yn ymhél â materion gwleidyddol lleol, yn cynnwys y clwb trafod lleol ym Mhorthmadog, a chyfrannodd o oedran ifanc i bapurau newydd lleol - a fu wastad yn ddylanwad ar ei yrfa a’i ddulliau gwleidyddol. Roedd yr yrfa a ddewisodd fel cyfreithiwr mewn practis yn y wlad yn sylfaen ddelfrydol ar gyfer bywyd gwleidyddol yn y dyfodol. Ni châi unrhyw beth sefyll yn ffordd yr yrfa a oedd o’i flaen. Pan ddechreuodd ganlyn Maggie Owen o fferm Mynydd Ednyfed tua 1885 (8C), dywedwyd wrthi’n fuan bod yn rhaid i gariad hyd yn oed fod yn eilbeth i uchelgais a’i ‘supreme idea to get on’. Cymerodd Lloyd George ran weithgar yn etholiad cyffredinol 1886, pan ffurfiodd rhwyg sylfaenol yn y Blaid Ryddfrydol oherwydd y frwydr dros hunanlywodraeth yn Iwerddon. Siaradodd yn llwyddiannus mewn cyfarfod enwog gerbron chwarelwyr Blaenau Ffestiniog gydag arweinydd Cenedlaetholwyr Iwerddon, MichaelDavitt, yn gynharach y flwyddyn honno. Ar ôl pwyso a mesur y sefyllfa, cefnogodd Gladstone yn ei ymgyrch dros hunanlywodraeth yn Iwerddon. Roedd Lloyd George hefyd yn gysylltiedig â ‘rhyfel y degwm’ gan denantiaid ffermydd yng Ngogledd Cymru a wrthodai dalu’r degwm i’r Eglwys yn y cyfnod 1886-8. Roedd ei ddaliadau gwleidyddol yn gogwyddo i’r chwith, a dylanwadwyd yn gryf arno gan yr ysbryd cenedlaethol Cymreig a oedd i’w deimlo drwy’r tir ar ddiwedd y 1880au. Dywedodd wrth gyfaill yn Sir Gaernarfon, D.R. Daniel (8D), ei fod yn ystyried ei hun yn Genedlaetholwr, fel Tom Ellis, yr AS ifanc o Sir Feirionnydd. Cafodd ei ethol ar y cyngor sir cyntaf yn Sir Gaernarfon yn 1889 a mynegodd ei farn yn huawdl ar faterion yn gysylltiedig â Ffederasiynau Rhyddfrydol Gogledd De Cymru. Mewn araith fawr i Ffederasiwn Rhyddfrydol De Cymru yn 1890 (8E), cyfeiriodd at y blaenoriaethau arferol gan y Rhyddfrydwyr - datgysylltu’r Eglwys, diwygio’r tir a dirwestaeth - ynghyd â phwyslais mawr ar gwestiynau cymdeithasol a gwella tlodi torfol. Ac yntau ond yn 27 oed roedd yn amlwg yn ŵr â gweledigaeth. Rhoddwyd hwb enfawr i’w yrfa yn Ebrill 1890 pan etholwyd ef yn AS Rhyddfrydol i Fwrdeistrefi Caernarfon. Cadwodd y sedd honno am 55 o flynyddoedd; eto i gyd nid oedd yn sedd ddiogel ar y dechrau. Y Ceidwadwyr a’i henillodd yn 1886 ond fe’i cipiwyd yn ôl gan Lloyd George gyda mwyafrif o 18 pleidlais yn unig. Yn ystod ei ymgyrch etholiadol cefnogodd safbwyntiau radicalaidd. Cymeradwyodd holl werthoedd Rhyddfrydol Gladstone (8F), yn cynnwys hunanlywodraeth yn Iwerddon, ond gyda phwyslais cryf hefyd ar themâu Cymreig, a hynny’n bennaf ar ‘Ryddid Crefyddol’, sef datgysylltu o’r Eglwys. Roedd hwn yn safiad peryglus i’w gymryd, yn arbennig ym Mangor gyda’i heglwys gadeiriol a phleidlais yr Eglwyswyr. Yn gynnar ym mis Mehefin, gwnaeth ei araith gyntaf (8G). Roedd yn araith danllyd gyda phwyslais arbennig ar thema Gymreig arall, dirwestaeth; broliodd wrth ei wraig fod yr araith yn llwyddiannus. Yn fuan dechreuodd herio o’r meinciau cefn pan drafodid materion Cymreig yn y Senedd. Ceisiodd annog ei gydweithwyr hŷn i roi mwy o bwysau ar Gladstone ac arweinyddiaeth y Blaid Ryddfrydol ar ran y frwydr dros ddatgysylltu’r Eglwys (8Hi). Hefyd cymerodd ran amlwg yn y dadleuon ynghylch Deddf y Degwm 1891, mesur a fwriadwyd i dawelu ffermwyr blin Cymru a oedd wedi cymryd rhan yn y protestio yn erbyn y degwm. Ym marn Lloyd George ‘It was a glorious struggle for Wales’ (8Hii). Yn 1892 cafodd ei ailethol gyda mwyafrif mwy a pharhaodd i gymryd rhan flaengar yn y gwaith o hyrwyddo gwahanol achosion radical Cymreig. Gyda thri o gydweithwyr ar y meinciau cefn, heriodd chwip y parti am gyfnod byr yn Ebrill 1894, pan fethodd y llywodraeth â rhoi blaenoriaeth ddigon uchel i ddatgysylltu yng Nghymru yn ei raglen ddeddfwriaethol. Achosodd hyn lawer o ddrwgdeimlad am gyfnod, gan nad oedd gan y llywodraeth fwyafrif o fwy nag 20 a dibynnai ar bleidleisiau’r Cenedlaetholwyr Gwyddelig. Eto i gyd creodd argraff gadarnhaol ar y cyfan yn y senedd yn ystod y cyfnod hwn. Gallai hyd yn oed gwrthwynebwr fel yr awdur Unoliaethol, T. Marchant Williams (8I), weld dawn Lloyd George fel areithiwr arbennig a medrus yn y Senedd. Roedd ganddo’r potensial i fod yn arweinydd yr AS Cymreig yn Nhŷ’r Cyffredin - a phwy a wyddai - hyd yn oed y Blaid Ryddfrydol yn gyffredinol. Yn ystod sesiwn 1895 arweiniodd ei weithgareddau at ddadlau pellach. Roedd y llywodraeth wedi cyflwyno Mesur Datgysylltu Cymru, mesur yr oedd yn ei gefnogi wrth reswm. Ond defnyddiodd y mesur hwn fel ffordd i basio math o hunanlywodraeth i Gymru. Ym Mehefin 1895 ceisiodd ef a dau aelod arall o Gymru sefydlu cyngor cenedlaethol Cymreig i weinyddu’r degwm a gwaddolion eraill pan ddeuai Mesur Eglwysi Cymru i rym. Ar 20 Mehefin, syrthiodd mwyafrif y llywodraeth i ddwy bleidlais; y diwrnod canlynol, trwy bleidlais annisgwyl, ymddiswyddodd y llywodraeth. Yn yr etholiad cyffredinol ym mis Gorffennaf, collodd y Rhyddfrydwyr o fwyafrif mawr er i Lloyd George lwyddo i ddal ar ei sedd ansicr ym Mwrdeistrefi Caernarfon. Ar ôl yr etholiad felly, daeth ei weithgareddau ym Mai a Mehefin 1895 dan y lach. Doedd gan Bryn Roberts, yr AS Rhyddfrydol yn yr etholaeth gyfagos yng Ngogledd Sir Gaernarfon, ddim cydymdeimlad â Lloyd George na hunanlywodraeth i Gymru, ac ysgrifennodd at Asquith, yr Ysgrifennydd Cartref, ar 18 Mai, yn ei rybuddio ynghylch tactegau cenedlaetholgar unigryw Lloyd George (8Ji). Ym mis Tachwedd, cwynodd Asquith ei hun i Tom Ellis, y prif chwip Rhyddfrydol, am ymddygiad ‘underhand and disloyal’ Lloyd George y Mehefin blaenorol (8Jii). Amddiffynnodd Ellis ac AS Rhyddfrydol eraill eu cydweithiwr ifanc, ond amharodd y digwyddiadau hyn ar y berthynas rhwng Asquith a Lloyd George am flynyddoedd lawer.