Gofalu amdanoch chi eich hun

Cyflwyniad

Yn yr adran hon, byddwn yn edrych ar bwysigrwydd eich lles a lles y bobl rydych yn gofalu amdanynt. Yn aml, bydd pobl sydd â rôl gofalu, naill ai gofalwyr teuluol neu bobl sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, mor brysur yn gofalu am eraill fel eu bod yn anghofio gofalu amdanynt eu hunain. Mae'r adran hon yn cynnig rhai awgrymiadau ar sut i ofalu amdanoch chi eich hun.

Byddwch yn meddwl am fathau gwahanol o straen a'r effaith a gânt ar eich bywyd ac yn ceisio dod o hyd i ffyrdd o fynd i'r afael â straen negyddol.

Mae sicrhau eich bod yn gofalu am eich lles emosiynol yn ogystal â'ch iechyd corfforol yn allweddol i fywyd cytbwys, felly byddwch hefyd yn ystyried ffyrdd y gallwch helpu'r bobl rydych yn gofalu amdanynt i wneud hyn hefyd.

Caiff yr adran ei rhannu'n bum pwnc a dylai gymryd tua hanner awr i chi astudio a chwblhau pob un o'r rhain. Mae'r pynciau fel a ganlyn:

  1. Mae Pam mae eich lles yn bwysig yn egluro pam ei bod yn bwysig i chi a'r bobl rydych yn gofalu amdanynt ofalu am eich lles.
  2. Mae Ymdopi â straen yn edrych ar fathau gwahanol o straen a'r ffyrdd y gallwch ymdopi ag ef.
  3. Mae Cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a ffiniau proffesiynol yn ymchwilio i ystyr cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a ph'un a yw'n bosibl cyflawni hyn ai peidio. Mae hefyd yn archwilio sut y gall y ffiniau rhwng bywyd a gwaith fod yn aneglur a'r rhesymau dros osgoi hyn.
  4. Mae Gofal sy'n canolbwyntio ar y person a hunanreolaeth yn trafod beth yw ystyr gofal sy'n canolbwyntio ar y person a sut y gallwch helpu'r bobl rydych yn gofalu amdanynt i fod yn fwy annibynnol, yn ogystal â buddiannau hunanreolaeth iddyn nhw ac i chi.
  5. Mae Ble i gael cymorth yn awgrymu ble y gallwch fynd i gael cymorth, naill ai wyneb yn wyneb neu ar-lein, a'r mathau gwahanol o gymorth sydd ar gael.