Uned 6   Bywydau merched yng Nghymru rhwng y ddau ryfel byd

Rhagair (Bill Jones)

Cyhoeddwyd traethawd yr Athro Deirdre Beddoe ‘Women between the wars’ yn gyntaf yn Wales Between the Wars, cyfrol yng nghyfres ‘Welsh History and its Sources’. Nid yw pob cyfrol yn y gyfres yn cynnwys pennod benodol ar ferched, er bod rhai o’r penodau sydd ar themâu eraill yn cynnwys cyfeiriadau achlysurol at brofiadau merched mewn gwahanol gyfnodau o hanes Cymru. Mae traethawd Beddoe yn cynnig her uniongyrchol i haneswyr yng Nghymru trwy bwysleisio cyn lleied o sylw a roddwyd i fywydau a gweithgareddau merched yn y gorffennol yng Nghymru. Mae’r ffaith bod y gyfrol Wales Between the Wars wedi neilltuo traethawd cyfan i fywydau merched yng Nghymru yn y blynyddoedd hynny’n dangos bod hanes merched yn cael ei ystyried fel pwnc cynyddol bwysig wrth ysgrifennu am hanes yn y Gymraeg, ac addysgu ar bwnc hanes Cymru.

Ychydig o haneswyr sydd wedi gwneud mwy na Deirdre Beddoe i hyrwyddo achos hanes merched trwy ysgrifennu amdano, ei hyrwyddo a’i boblogeiddio trwy ddarlithoedd a darllediadau. Cyhoeddodd draethawd arloesol yng nghyfnodolyn hanesyddol Llafur Cymdeithas Hanes Pobl Cymru yn 1981 dan y teitl ‘Towards a Welshwomen’s History’ ar adeg pan oedd unrhyw astudiaeth o’r pwnc yn brin. Mae Deirdre Beddoe yn Athro Emeritws ar Astudiaethau Merched ym Mhrifysgol Morgannwg. Mae’n un o’r awdurdodau mwyaf blaenllaw ar y pwnc. Dros y blynyddoedd mae wedi cyhoeddi nifer o lyfrau ar ferched Cymru a hanes merched ym Mhrydain yn gyffredinol. Mae’r rhain yn cynnwys Welsh Convict Women (1979), Discovering Women’s History: A Practical Manual (1983), Back to Home and Duty: Women Between the Wars 1918-1939 (1989), Parachutes and Petticoats: Welsh Women Writing on the Second World War (1992), Out of the Shadows: A History of Women in Twentieth-Century Wales (2000) a Changing Times: Welsh Women Writing on the 1950s and 1960s (2003).

Wrth ddarllen unrhyw destunau sydd wedi eu hysgrifennu ar hanes Cymru mae bob amser yn ddefnyddiol gwybod rhywbeth am yr hanesydd a’r hyn sydd wedi dylanwadu arno neu arni. Ganed Beddoe yn y Barri yn Ne Cymru yn 1942. Yn y Cyflwyniad i’w llyfr Out of the Shadows dywed mai hi oedd y person cyntaf yn ei theulu i fynd i brifysgol ac fel y bu i hanesion ei mam a’i nain ei hysbrydoli i ysgrifennu am hanes merched yng Nghymru. Dylanwad mawr arall arni fu’r mudiad ffeminyddol ar ddiwedd y 1960au, a ymgyrchodd dros hawliau cyfartal i ferched o bob cefndir. Hefyd bu’r mudiad yn gyfrwng i symbylu nifer o astudiaethau llawer ehangach ar brofiadau merched mewn pynciau fel llenyddiaeth, hanes a chymdeithaseg ac arweiniodd at sefydlu astudiaethau merched fel disgyblaeth academaidd. Fel yr ysgrifennodd yn ei Chyflwyniad i Out of the Shadows: ‘It would havebeen impossible to have written this book without the women’s movement: women’s history and women’s studies are a direct product of that movement’ (Beddoe, 2000, tud.4).

Efallai y bydd angen esboniad pellach o rai o’r cyfeiriadau yn nhraethawd Beddoe i helpu darllenwyr i ddeall y traethawd yn llawnach. Yn sgil Deddf (Dileu) Anghymwyseddau Rhyw 1919 (paragraff 6.2) daeth yn anghyfreithlon gwahardd merched ar sail eu rhyw’n unig. Ond yn aml anwybyddwyd y Ddeddf ac ar ben hynny câi merched eu gwahardd rhag gweithio mewn rhai swyddi ar ôl priodi - e.e. atal merched priod rhag bod yn athrawon (a grybwyllir ym mharagraff 6.7). Marie Stopes (paragraff 6.10) oedd yr ymgyrchwraig fwyaf blaenllaw dros hyrwyddo dulliau atal cenhedlu yn yr ugeinfed ganrif. Yn 1921 sefydlodd y clinig cyntaf i gynnig dulliau atal cenhedlu yn y Deyrnas Unedig. Gorymdeithiau newyn (paragraff 6.12) o Dde Cymru, gan amlaf i Lundain, oedd un o’r mathau mwyaf poblogaidd o wrthdystio yn erbyn y cyfraddau uchel o ddiweithdra yn y rhan fwyaf o Gymru yn y blynyddoedd rhwng y ddau ryfel a’r amddifadedd a’r trallod a ddeuai yn ei sgil. Trefnwyd y gorymdeithiau hyn gan ymgyrchwyr mewn rhannau diwydiannol eraill o Brydain lle’r oedd caledi mawr, efallai mai’r fwyaf adnabyddus yw Gorymdaith Jarrow o ogledd-ddwyrain Lloegr i Lundain yn 1936.

Er bod traethawd Beddoe wedi ei gyhoeddi yn 1988, mae’n dal yn enghraifft ffres a bywiog o astudiaeth hanesyddol. Ynddo pwysleisir na all hanes Cymru fod yn gyflawn os yw’n diystyru bywydau merched yn y gorffennol. Yn wir, mae hyn yr un mor berthnasol heddiw ag yr oedd bryd hynny. Mae llawer mwy wedi ei ysgrifennu ar amrywiaeth fawr o agweddau ar fywydau merched yn y cyfnod rhwng y ddau ryfel a chyfnodau eraill o hanes Cymru ers i’r traethawd hwn ymddangos gyntaf. Roedd cyhoeddi Out of the Shadows Beddoe yn un o’r cerrig milltir pwysig yn hanesyddiaeth Cymru. Cyfrol bwysig arall a gyhoeddwyd yn 1991 yw Our Mothers’ Land: Chapters in Welsh Women’s History, 1830-1939, a olygwyd gan yr Athro Angela V. John, hanesydd arloesol arall ar hanes merched a hanes y ddau ryw ym Mhrydain ac un o’r awdurdodau mwyaf blaenllaw yn y maes hwn. Yn y gyfrol hon ceir fersiwn arall o draethawd Beddoe yn ogystal â’r un gan Dot Jones o dan y teitl ‘Counting the cost of coal’ sy’n sôn yn fanylach am brofiadau merched yn y cartref yn ardaloedd glofaol De Cymru yn y 1920au a’r 1930au. Credaf y gellir dod i’r casgliad fod hanes merched yng Nghymru wedi datblygu’n sylweddol ers diwedd yr 1980au. A yw hanes merched Cymru wedi ei gynnwys yn llawn yn y prif ddehongliadau o hanes Cymru, ynteu ai persbectif atodol ydyw? Mae hwn yn bwynt llawer mwy dadleuol.

Merched rhwng y rhyfeloedd (Deirdre Beddoe)