‘Clear Red Water’ – datganoli a chanlyniadau polisi

Boed wedi’i ysgogi gan gymhellion fel cydnabyddiaeth genedlaethol, mwy o hunanbenderfyniad neu lywodraeth fwy effeithiol, mae datganoli yn seiliedig ar gred mewn gwahaniaeth. Ni fyddai llawer o bwynt creu trefniadau gwleidyddol a gweinyddol ar wahân pe na fyddent yn helpu i wneud rhyw wahaniaeth sylweddol yn y dyfodol - o ran llunio polisïau, darparu gwasanaethau, neu strwythur sefydliadau. Yn achos Prydain, fodd bynnag, mae’n syndod cyn lleied o feddwl a roddwyd i beth y gallai’r broses hon arwain ato yn y pen draw. Yn lle hynny, dibynnwyd ar yr ateb nodweddiadol Brydeinig o ymateb i bethau wrth iddynt godi. Mae hyn yn egluro pam bod sylwebyddion arbenigol wedi cyfeirio sawl gwaith at y ffaith nad oes ‘pensaernïaeth’ gyffredinol i ddatganoli na chyfeiriad strategol clir. Yn syml, beth fydd pobl yn ei wneud â datganoli (neu annibyniaeth) ar ôl iddo ddigwydd?

Mae’n debygol mai’r ateb fydd beth bynnag sy’n rhoi ymdeimlad o gyfeiriad iddynt. Byddai’r ymgeiswyr tebygol am y rôl hon yn cynnwys gwerthoedd craidd, ideolegau gwleidyddol, adweithiau greddfol neu ‘synnwyr cyffredin’, neu ymdeimladau o hunaniaeth genedlaethol. Nid cyd-ddigwyddiad mohono bod cryn drafod a dadlau wedi digwydd yn ystod y cyfnod datganoli rydym wedi’i ystyried ynglŷn â hunaniaeth - beth mae’n ei olygu i fod yn Gymro/Cymraes (neu’n Albanwr, Sais ac ati ) ar hyn o bryd, a beth sy’n deillio o hynny?

Yn gyffredinol, gellid dweud bod hunaniaeth Gymreig yn fynegiant o hanes a phrofiadau neilltuol pobl Cymru, math o gronfa o agweddau, tybiaethau a dewisiadau y maent wedi’u hetifeddu. Mae hyn yn rhoi sylfaen iddynt asesu a dewis eu dyfodol posibl eu hunain, a byddant yn gwneud hynny mewn ffordd wahanol i bobl sydd â hanes a phrofiadau gwahanol. Hynny yw, bydd y penderfyniadau a wnânt yn nodweddiadol ‘Gymreig’. Gan symud oddi wrth beirianwaith datganoli, a oes modd gweld tystiolaeth o’r Cymreictod hwn yng nghanlyniadau gwirioneddol datganoli hyd yma? Gwelwyd un ymdrech ddylanwadol i ddadlau o blaid yr achos hwn yn 2002, yn ystod yr ymgyrch cyn yr etholiad ar gyfer ail dymor y Cynulliad, pan nododd y Prif Weinidog Rhodri Morgan ei weledigaeth ynglŷn â sut y gallai pethau gael eu gwneud yn ‘the Welsh way’. Yn ôl Rhodri Morgan, roedd hyn i’w weld yn yr ‘ideological underpinnings’ a ategai’r mentrau polisi amrywiol a fabwysiadwyd eisoes a’r rhai yr oedd y Cynulliad Cenedlaethol yn eu cynllunio. Er na chyfeiriwyd atynt yn uniongyrchol fel gwerthoedd Cymreig, daeth yr araith yn agos i’w nodi.

Gan fenthyca ymadrodd o bapur newydd The Guardian yn ôl pob sôn, er iddo ei ddefnyddio ei hun rai blynyddoedd ynghynt (Moon, 2013, t. 315) awgrymodd Morgan fod hyn yn creu ‘clear red water’ rhwng y cyfeiriad yr oedd Cymru yn ei ddilyn a’r cyfeiriad a oedd yn cael ei ddilyn yn San Steffan, nid yn unig gan lywodraethau Ceidwadol ond gan Lafur Newydd hefyd. Yn rhannol, ail-bwysleisiodd ei araith egwyddorion yr ‘hen’ blaid Lafur o gynwysoldeb a rôl y wladwriaeth o ran darparu gwasanaethau a oedd yn ddiamod ac am ddim. Ymhlith yr enghreifftiau a roddodd roedd lleoedd meithrin am ddim i blant tair oed a thocynnau teithio ar fysus am ddim i’r henoed a’r anabl. Fodd bynnag, cyfunwyd y rhain â phwyslais penodol ar agweddau ‘lleol’ a ‘chydweithredol’, y dywedwyd eu bod yn tarddu o dreftadaeth gymdeithasol Cymru fel cymdeithas wedi’i hadeiladu ar gymunedau cryf â theyrngarwch grymus i’r dosbarth gweithiol. Roedd hyn yn golygu y gallai cymunedau o’r fath, o gael anogaeth briodol, ddod o hyd i’w hatebion eu hunain i broblemau cyffredin. Er y gellid dehongli hyn fel persbectif Llafur neilltuol, roedd yn ymddangos i’r ddadl gael ei geirio er mwyn cyrraedd cynulleidfa ehangach, gan gynnwys y rhai â’u gwreiddiau yng nghymunedau Cymraeg y Gymru wledig, lle roedd Plaid Cymru ar ei chryfaf, a allai hefyd uniaethu â’r hyn y cyfeiriodd Morgan ato fel ‘the sometimes proud, sometimes agonising history of a nation built very largely on the efforts of working people in hard surroundings.‘

Amlinellwyd yr un gwahaniaeth rhwng y dulliau llywodraethu sydd ar waith yn y DU ac yng Nghymru yn fwy diweddar gan David Marquand, gwleidydd enwog sydd bellach yn ddamcaniaethwr gwleidyddol, sy’n dweud mai dehongliad gwas sifil Cymreig o’r gwahaniaeth hwnnw yw’r gwahaniaeth rhwng ‘choice, competition, and the customer’ (pwyslais y DU) a’r pwyslais Cymreig ar ‘voice, cooperation, citizen’. Tra bod y gyfres gyntaf o syniadau’n cyd-fynd yn dda â pholisïau i annog darpariaeth ar y farchnad rydd, prynwriaeth a hunan-les, mae’r ail yn cynnig ffordd ymlaen sy’n canolbwyntio mwy ar wasanaethau cyhoeddus, cyfranogi cyfun a chonsensws. Caiff y fformiwla daclus, ond gor-syml hwn, o bosibl, ei ategu gan y cyfoeth o ddogfennau polisi a datganiadau a gyhoeddwyd gan lywodraethau amrywiol Cymru, lle caiff themâu partneriaeth, cydweithredu, undod, cydweithio ac, yn anad dim efallai, ‘cymuned’ eu hailadrodd dro ar ôl tro. Yn amlwg, maent yn taro tant ymhlith cynulleidfa Gymreig. Mae arweinydd presennol Plaid Cymru yn ymrwymo iddynt pan fydd yn dweud y gall materion gwleidyddol gael eu gweinyddu mewn ffordd gymharol waraidd oherwydd bod ‘common progressive language . . . which more than one party speaks’ – er ei bod yn beirniadu fersiwn y Blaid Lafur o’r athrawiaeth hon am beidio â bod yn ddigon radical, ‘a sort of Fabianism with a valleys accent’. Dywedodd Rhodri Morgan ei hun fod y ffaith bod Cymru’n wlad fach yn golygu bod modd sicrhau lefel uchel o gydweithredu a defnyddiodd iaith gynhwysol gan awgrymu bod consensws cenedlaethol yn bodoli: ‘We know where the problems lie, and we know each other pretty well – both institutionally and – very often – individually. We should therefore be able to take advantage of small scale to make big decisions.‘

Mae araith Rhodri Morgan lle amlinellodd ei weledigaeth o ‘clear red water’ ar gael ar-lein.

I weld sylwadau ar ei pherthnasedd, darllenwch:

Break-up of the UK is 'inevitable' without a switch to a federal system, leading political expert warns [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .

Welsh people have been failed by Labour – time to consult them‘

Mae Mark Darkeford hefyd yn cyfeirio at y gwahaniaethau sy’n sail i benderfyniadau ar bolisi cymdeithasol yng Nghymru a gweddill y DU yn ei gyfraniad sain i gwrs y Brifysgol Agored DD101 Making and exploring Welsh social lives. Mae’r eitem sain yn Saesneg; mae trawsgrifiad Cymraeg ar gael

Download this audio clip.Audio player: dd101_welsh_social_lives_ordered_lives_audio_part_2.mp3
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad|Cuddio'r trawsgrifiad
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Diben delwedd Rhodri Morgan o ‘clear read water’ yw dangos bod fframwaith cytundeb cyffredin yng Nghymru, sy’n cynnwys tueddiadau ac amcanion o’r canol i’r chwith yn bennaf, sy’n arwain at fath llai gwrthwynebol o wleidyddiaeth sy’n gwahanu Cymru oddi wrth nodau a dulliau rhannau eraill o’r DU, yn enwedig Lloegr. Un ffordd y gellir defnyddio’r safbwynt hwn i gael effaith wirioneddol yw ei ddefnyddio i arfer pŵer y feto - hynny yw, gwahardd datblygiadau y teimlir eu bod yn anghydnaws ag ethos llunio a chyflawni polisïau yng Nghymru. Defnyddiwyd y dechneg hon yn erbyn llywodraeth Llafur Newydd a llywodraeth glymblaid y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol. Er enghraifft, mae pob ymdrech i ymestyn rôl y sector preifat wrth ariannu datblygiadau cyfalaf mawr (y Fenter Cyllid Preifat) neu breifateiddio darpariaeth gofal iechyd (Ysbytai Sefydledig) neu addysg (Academïau ac Ysgolion Am Ddim) wedi cael ei datgan i fod yn anaddas i amodau Cymru. Wrth siarad â newyddion y BBC yn 2004, ailbwysleisiodd Rhodri Morgan nad oedd model yn seiliedig ar ddewis cystadleuol a darpariaeth drwy’r farchnad yn gweddu i ddaearyddiaeth na gwerthoedd cymdeithasol Cymru (Moon 2013, t. 311). Ei bwynt am ddaearyddiaeth Cymru oedd bod llawer o gymunedau bach ond nad oedd llawer o ganolfannau trefol, a olygai bod angen ymdrin â gwasanaethau mewn ffordd wahanol i Loegr. Am y rheswm hwn, roedd angen model mwy lleol, a fyddai’n diwallu anghenion cymunedau penodol, yn hytrach na rhoi mwy o ddewisiadau i unigolion, a dyma oedd y rheswm dros y penderfyniad i sefydlu 22 o fyrddau iechyd lleol, un i bob awdurdod lleol, yn lle’r pum awdurdod iechyd. Mewn cyd-destunau eraill, mae’r ddadl yn erbyn cystadleuaeth wedi cael ei defnyddio i wrthsefyll newidiadau a allai chwalu ac amrywio darpariaeth yng Nghymru. Er enghraifft, mae’r system addysg gyfun (a sefydlwyd yn gynharach ac mewn ffordd fwy cynhwysfawr yng Nghymru nag yn Lloegr) wedi cael ei hamddiffyn rhag yr arbrofion amrywiol a oedd yn ceisio gwanhau pŵer awdurdodau addysg lleol yn Lloegr.

Ar adegau eraill, rhoddwyd mentrau polisi newydd ar waith sy’n wahanol i fodelau Lloegr am eu bod wedi’u ‘Gwneud yng Nghymru’ a’u haddasu i amodau Cymru. Er enghraifft, mae Moon (2013) yn disgrifio’r penderfyniad i roi blaenoriaeth i agenda iechyd y cyhoedd a fyddai’n mynd i’r afael â chyflwr iechyd gwael a lefelau uchel o salwch hirdymor yng Nghymru, drwy ddulliau anuniongyrchol (addysg dda, trafnidiaeth, tai a chyflogaeth) yn ogystal ag uniongyrchol (prydau bwyd am ddim mewn ysgolion cynradd, archwiliadau deintyddol am ddim i’r grwpiau oedran hynaf ac ieuengaf a phresgripsiynau meddygol am ddim), yn hytrach na thargedu amseroedd aros ysbytai ac ymyriadau meddygol. Roedd y penderfyniad i beidio â defnyddio tablau cynghrair ar gyfer ysgolion na chyfundrefn i brofi cyflawniad yn rheolaidd yn arwydd o wrthwynebiad i ddiwylliant o dargedau hefyd.

Darllenwch fwy ynglŷn â’r syniad nad yw dewis o ran y GIG yn berthnasol i Gymru.

Yn fwy diweddar, gan ddefnyddio ei phwerau newydd i basio deddfau Cymreig, mae’r Llywodraeth wedi cyflwyno Deddf Tai a gafodd gefnogaeth unfrydol gan y Cynulliad am ei hegwyddorion cyffredinol. Ymhlith yr egwyddorion hyn mae rheoleiddio’r sector rhentu preifat yn fwy, pwerau lleol cryfach i ddelio â digartrefedd, dyletswydd i ddarparu safleoedd ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr, a phwerau i godi mwy o dreth gyngor ar eiddo gwag. Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i helpu i adeiladu 7,500 o gartrefi fforddiadwy a sicrhau bod 5,000 o gartrefi gwag eraill yn cael eu defnyddio unwaith eto dros y pedair blynedd nesaf, gan weithio’n bennaf â’r sector tai cymdeithasol a chydweithredol. Mae’r syniadaeth y tu ôl i’r cynigion hyn yn wahanol iawn i’r gwerthoedd a’r amcanion sy’n sail i bolisïau tai yn San Steffan, sy’n rhoi pwyslais ar ddarpariaeth y sector preifat ac yn cynnwys cosbau caethiwus i denantiaid preifat sy’n byw ar fudd-daliadau. Wrth gyflwyno’r Bil, dywedodd Gweinidog Tai Cymru, ‘A decent, affordable home is a vital part of everyone’s life. The benefits go way beyond the roof over our heads. It’s central to good health and well-being. A good home represents the best possible start in life for children, and is the foundation for strong, safe and fair communities. It also has an important role to play in the economy.‘

Mae’r penderfyniad i gadw’r lwfans cynhaliaeth addysg i bobl ifanc (a ddiddymwyd yn Lloegr) a phennu ffioedd dysgu is i fyfyrwyr prifysgol Cymreig o gymharu â Lloegr yn dystiolaeth o’r ymrwymiad i sicrhau mynediad cyfartal i addysg. Caiff myfyrwyr sy’n preswylio yng Nghymru grant nad oes angen iddynt ei ad-dalu o hyd at £5,300 ar hyn o bryd, tuag at eu ffioedd prifysgol. Mae hyn yn golygu tra bod yn rhaid i fyfyrwyr addysg uwch (AU) o Loegr dalu hyd at £9,000 y flwyddyn mewn ffioedd, dim ond £3,700 y mae myfyrwyr Cymreig yn ei dalu. Yng nghyd-destun y DU, mae’r penderfyniad hwn yn creu nifer o anghysondebau diddorol. Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i fyfyrwyr o’r UE sy’n mynd i brifysgolion yng Nghymru gael yr un cymhorthdal â myfyrwyr o Gymru; ond mae’n rhaid i fyfyrwyr o Loegr dalu’r ffi lawn o £9,000. Gall myfyrwyr o Gymru ddewis defnyddio eu grant er mwyn astudio mewn prifysgolion yn Lloegr. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod mwy yn dewis gwneud hynny, tra bod ceisiadau gan fyfyrwyr Cymreig i brifysgolion yng Nghymru wedi lleihau. Mae academyddion Cymreig yn honni bod hyn yn golygu bod sefydliadau AU yng Nghymru yn colli mwy na £30 miliwn y flwyddyn o bosibl. Mae Llywodraeth Cymru yn dadlau bod Cymru yn derbyn mwy drwy’r arian y mae myfyrwyr o rannau eraill o’r DU yn ei wario yng Nghymru. Yn yr Alban, mae preswylwyr yn cael cymhorthdal, ond dim ond os ydynt yn astudio mewn prifysgolion yn yr Alban (ac yn draddodiadol, mae llawer mwy ohonynt yn gwneud hynny). Mae’r academydd Cymreig sydd wedi cynnal dau adolygiad o drefniadau ariannu AU i Lywodraeth Cymru yn gwneud pwynt arall mai plant y dosbarthiadau canol Cymreig sy’n cael y budd mwyaf o’r polisi ac y gellid gwario’r arian yn well ar ymestyn cyfranogaeth. Gellid gwneud pwynt tebyg am oblygiadau presgripsiynau am ddim i bawb a chardiau teithio rhatach o ran ailddosbarthu’r tlawd a’r cyfoethog. Mae goblygiadau diddorol, ac anfwriadol weithiau, i benderfyniadau o’r fath.

Mae’r enghreifftiau a drafodir yn Universities in Wales call for funding review over cash drain yn dangos bod llawer o dystiolaeth i ddangos bod bwlch cynyddol rhwng y polisïau a gaiff eu llunio a’u rhoi ar waith ar y naill ochr i Glawdd Offa a’r llall. Caiff y datblygiadau hyn eu disgrifio a’u dadansoddi mewn corff o lenyddiaeth gonfensiynol a digidol, sy’n tyfu’n gyflym.

Er mwyn gweld dadl bod angen mwy o ddychymyg wrth ddefnyddio’r pwerau sydd bellach ar gael i Lywodraeth Cymru er mwyn creu dŵr coch gwirioneddol glir, darllenwch gyfraniad John Osmond i gynhadledd yn 2010 ar gydberthnasau rhwng y Taf a’r Tafwys'

Am sylwadau ar hyn, ewch i Atodiad 4

Yn ei araith yn 2002, mynegodd Rhodri Morgan ei obeithion y byddai datganoli yn creu amodau tebyg i labordy, lle gallai tiriogaethau ddysgu gwersi gwerthfawr o arloesedd ac arbrofion mewn tiriogaeth ddatganoledig arall. Fodd bynnag, pan fo gan weinyddiaethau safbwyntiau gwleidyddol ac ideolegol gwahanol, mae hyn yn annhebygol o ddigwydd. Yn lle hynny, mae gwahaniaethau polisi yn achosi dadlau.

Mae iechyd ac addysg yn enwedig wedi dod yn feysydd brwydro gwleidyddol sydd wedi creu cynnen ledled y DU. Cyrhaeddwyd isafbwynt o bosibl pan ddywedodd Prif Weinidog y DU, wrth annerch cynulleidfa o Geidwadwyr Cymreig, fod Clawdd Offa wedi dod i ddynodi’r llinell rhwng bywyd a marwolaeth, ymosodiad a ailadroddodd yn ystod Sesiwn Gwestiynau’r Prif Weinidog yn Nhŷ’r Cyffredin. Cyfeirio ydoedd at wahaniaethau honedig rhwng amseroedd aros ysbytai yng Nghymru a Lloegr a gwahaniaethau yn y trefniadau i ariannu gofal canser. Yn yr un araith, tynnodd sylw hefyd at broblemau o ran cyrhaeddiad addysgol yng Nghymru, gan gyfeirio at ddata cymharol rhyngwladol (Rhaglen Asesu Myfyrwyr Rhyngwladol OECD, neu PISA) a oedd yn dangos bod plant yng Nghymru yn syrthio ar ei hôl hi, gan berfformio’n waeth na’r cyfartaledd mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth. Yn ystod y dadlau dilynol, gwnaeth y ddwy ochr ddefnydd dethol o dystiolaeth er mwyn profi eu hachos, gan adlewyrchu blaenoriaethau a safonau barnu gwahanol. Codwyd amheuon ynglŷn â dilysrwydd ystadegau PISA, a chyfeiriwyd at adroddiad gan Sefydliad Nuffield, The Four Health Systems of the UK: How do they compare? (2014), ar sail ei gasgliad na ellid dweud bod unrhyw un o bedair gweinyddiaeth y DU [Cymru, Lloegr, yr Alban na Gogledd Iwerddon] naill ai’n gyson ar y blaen neu’n syrthio ar ei hôl hi; roedd y pedwar wedi gwella eu perfformiad a ‘despite hotly contested policy differences in structure, targets, competition, patient choice and the use of non-NHS providers, no one country is emerging as a consistent front-runner’. Lluniodd sylwebyddion yng Nghymru gymariaethau anffafriol rhwng model addysg Lloegr ‘driven by antagonism and competition’ a chred mewn system gyfun Cymru sy’n ‘delivers for all our children.' Annhegwch fformiwla Barnett a gafodd y bai am dangyllido mewn ysgolion yng Nghymru.