Pwyso a Mesur

Mae craffu annibynnol a thrylwyr tebyg i adroddiad Ymddiriedolaeth Nuffield ar Iechyd ac ystadegau PISA ym maes addysg ymhlith rhai o’r canlyniadau anochel y mae’n rhaid eu hwynebu wrth gymryd cyfrifoldeb, a gall weithiau ddatgelu gwirioneddau anghyfforddus. Mewn ymateb i ganlyniadau PISA, gwnaeth Gweinidog Addysg y DU y sylw damniol ‘you have only to look over the (River) Severn to see a country going backwards’, ac ymunodd Ysgrifennydd Gwladol (Ceidwadol) Cymru ag ef i ddilorni cofnod addysgol Cymru drwy gyfeirio at farn adroddiad PISA nad oedd gan Gymru ‘compelling and inclusive long-term education vision to steer the education system and its reform efforts’

Er ei bod yn demtasiwn diystyru sylwadau o’r fath fel dim byd mwy na dadlau gwleidyddol, mae digon o adroddiadau ac astudiaethau ymchwil cynhwysfawr eraill sy’n codi amheuon ynglŷn â pherfformiad Cymru mewn meysydd allweddol. Mae cyfres o gyhoeddiadau academaidd wedi awgrymu bod perfformiad ysgolion yng Nghymru yn siomedig. Mae nifer gynyddol o achosion o ofal iechyd a gofal cymdeithasol gwael sydd wedi cael llawer o gyhoeddusrwydd, yn ogystal â chwynion am dargedau’n cael eu methu mewn ysbytai ac yn y gwasanaethau ambiwlans. Mae diffygion y GIG yng Nghymru yn bwnc trafod mawr ar raglenni newyddion yng Nghymru, nawr mai Llywodraeth Cymru a’i Gweinidog Iechyd sy’n gwbl gyfrifol amdano, yn hytrach na deiliaid pŵer ‘pell’ yn Llundain.

Yn anffodus, Cymru yw un o rannau mwyaf difreintiedig y DU o hyd a cheir lefelau sylweddol o dlodi. Mae cyfraddau cyflogaeth wedi cyrraedd lefelau cyfartalog y DU erbyn hyn, ond ar draul nifer gynyddol o swyddi cyflog isel ac ansicr. Ymhlith prif benawdau adroddiad gan Sefydliad Bevan yn 2010 o’r enw Poverty and Social Exclusion in Wales roedd y canlynol: roedd y lleihad mewn tlodi plant a gyflawnwyd ar ddechrau’r ganrif hon wedi dod i ben; pobl o oedran gweithio yw mwyafrif llethol y bobl sydd mewn tlodi erbyn hyn (55%); mae cyfran anarferol o uchel o bobl yng Nghymru (43%) nad ydynt yn gweithio: mae Cymru yn ddigamsyniol yn economi cyflog isel (gydag enillion yn cyfateb i 82% o gyfartaledd y DU); ac o ran cynhyrchiant a gwerth ychwanegol, mae Cymru yn wannach yn economaidd na gweddill y DU, ac wedi bod yn wannach ers dros ddegawd. Mae hwn yn ddarlun cymharol lwm, a atgyfnerthwyd gan asesiad diweddar o economi Cymru gan yr Athro Karel Williams sy’n dod i’r casgliad bod datganoli, mewn termau economaidd, wedi bod yn ddiwerth a hynny’n bennaf am fod y prif reolaethau dros yr economi yn parhau i fod y tu allan i Gymru, ond hefyd am fod ymatebion Cymru wedi bod yn ddiddychymyg ac wedi dibynnu gormod ar berfformiad llwyddiannus economi ehangach Prydain. Yn hyn o beth, wrth gwrs, mae Cymru wedi cymryd cam yn ôl, yn dilyn rhaglen galedi llywodraeth y DU a gyflwynwyd mewn ymateb i argyfwng ariannol 2008, sydd wedi rhoi mwy o bwysau ar Lywodraeth Cymru i ymdopi â llai o arian ac wedi torri swyddi yn y sector cyhoeddus. Mae gwaith ymchwil arall gan Ymddiriedolaeth Nuffield a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn rhagweld, erbyn 2015-2016, y bydd gwariant ar iechyd yng Nghymru 3.6% yn is o gymharu â 2010-2011 ac y gallai’r diffyg ariannol ar gyfer GIG Cymru gynyddu i £2.5bn erbyn 2025 oni bai y gwneir newidiadau mawr.

Am ddadansoddiad o gyflwr economi Cymru ar hyn o bryd, ewch i ‘Measuring devolution: Has Wales had a dragon economy?‘ [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]

a fersiwn estynedig.

Mae Atodiad 5 yn cynnwys sylw ynglŷn â hyn.

Wrth gyflwyno darlith flynyddol 2013 i anrhydeddu’r sylwebydd gwleidyddol Cymreig Patrick Hannan, nododd Ian Hargreaves, Athro yn yr Economi Ddigidol ym Mhrifysgol Caerdydd, pa mor wael y mae Cymru fel pe bai wedi gwneud ers datganoli yn y tri ‘undisputed top priority items’, sef yr economi, addysg ac iechyd a dywedodd , ‘Let’s face it, Wales since devolution has been a disappointment. Hasn’t it?’ Yn sicr, nid dyma’r unig siom, neu hyd yn oed ddadrithiad, a fynegwyd ynglŷn â chanlyniadau polisïau mwy datganoledig hyd yma.

Gallwch ddarllen y ddarlith yn ‘What I think about Wales’.

Efallai ei bod yn annheg disgwyl gormod gan y Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru, sydd ond wedi bodoli ers 15 mlynedd ac sydd wedi cael dechreuad digon araf a simsan. Fodd bynnag, mae dylanwad parhaus plaid wleidyddol arweiniol sy’n gweithio mewn awyrgylch o gonsensws ehangach wedi llwyddo i sicrhau rhywfaint o gysondeb o ran cyfeiriad dros y cyfnod hwnnw. Cymharol dawel fu’r gwrthwynebiad yng Nghymru. Mae tystiolaeth o Arolwg Cenedlaethol blynyddol Cymru, sy’n holi mwy na 14,000 o bobl, yn tueddu i ddangos bod lefelau uchel o foddhad â gwasanaethau cyhoeddus. Mae mwy na 90% yn dweud eu bod yn fodlon ar lefel y gofal a gânt gan eu meddyg teulu ac yn yr ysbyty; mae cyfran debyg yn hapus ag ysgol gynradd eu plentyn, ac mae mwy nag 80% yn hapus ag ysgolion uwchradd. Mae perfformiad Llywodraeth Cymru hefyd yn sgorio’n eithaf da, gan gael sgôr gyfartalog o 5.8 o gymharu â 4.3 ar gyfer llywodraeth y DU a chyfartaledd o 3.8 ar gyfer llywodraethau ledled Ewrop mewn astudiaethau tebyg.

Mae tystiolaeth arall o’r arolwg yn dangos bod gwleidyddion yng Nghymru, gan gynnwys y Prif Weinidog, yn fwy poblogaidd na’u cyd-wleidyddion yn Lloegr. Rydym wedi cael un neu ddau sgandal gwleidyddol bach yng Nghymru a rhai ymddiswyddiadau ymhlith Gweinidogion, ond nid ydym wedi gweld unrhyw beth tebyg i’r argyfwng ynglŷn â threuliau ASau yn San Steffan ers 2009. Ar y llaw arall, roedd bron hanner (46%) y bobl a holwyd yn 2014 am berfformiad y llywodraeth yng Nghymru yn teimlo nad oedd datganoli wedi gwneud fawr o wahaniaeth; dywedodd 34% ei fod wedi gwella pethau. Roedd bron i draean yn teimlo mai de-ddwyrain Cymru a oedd wedi cael y budd mwyaf; dim ond 4% yn y gogledd ac 1% yn y canolbarth a deimlai mai nhw a oedd wedi cael y budd mwyaf. Ond caiff dilysrwydd yr asesiadau cyhoeddus hyn o ddatganoli ei wrthbwyso gan y ffaith nad oedd dros 40% o’r rhai a holwyd yn gwybod bod y GIG yng Nghymru - y cyflogwr unigol mwyaf yng Nghymru - bellach dan reolaeth Llywodraeth Cymru, er gwaethaf yr holl gyhoeddusrwydd ynglŷn â’i berfformiad yn ddiweddar. Roedd ychydig mwy, 61%, yn gwybod mai’r Llywodraeth yng Nghaerdydd a oedd yn gyfrifol am addysg yng Nghymru. Wrth ymateb i’r canfyddiadau hyn, dywedodd arbenigwr o Ganolfan Llywodraethiant Cymru:

‘there is still a lot of confusion amongst people about exactly where the line for responsibility comes between London and Cardiff Bay in terms of governance. . . people have some general sense that there is a devolved government in Wales, there is a government in London, but exactly who does what and why, I think the details of that largely elude them.‘

(BBC News, 2014)

Pan gyhoeddodd Confensiwn Cymru Gyfan adroddiad yn 2009 ar ganlyniadau ei raglen helaeth i gasglu gwybodaeth, un o’r themâu a gododd dro ar ôl tro oedd problemau cyfathrebu. Yn ei dystiolaeth awgrymodd fod ‘cymhlethdod y setliad datganoli presennol yn arwain at ddiffyg dealltwriaeth, bod negeseuon yn aml yn anghyson ac nad yw gwybodaeth yn cael ei chyfleu mewn ffordd glir‘ (2009: 5. 6. 4). Roedd llawer o’r trafodaethau yn digwydd ar lefel ‘uchel’ ac yn defnyddio iaith a chysyniadau annelwig a thechnegol. O ganlyniad, cyfyngedig oedd gwybodaeth y cyhoedd am y gweithdrefnau a’r materion a oedd yn berthnasol i lywodraeth Cymru (2009: 5. 3. 13). Wrth ymateb i arolwg, dim ond tua 40% o’r boblogaeth a oedd yn teimlo bod ganddynt lefel ‘resymol’ o wybodaeth o leiaf am y ffordd roedd Cymru’n cael ei llywodraethu. Dynion, pobl hŷn a’r rhai o ddosbarthiadau economaidd-gymdeithasol uwch a oedd fwyaf hyderus ynglŷn â hyn (2009: 5. 4. ). Ar bwyntiau penodol yn ymwneud â phwerau datganoledig, roedd gan gyfraddau eithaf uchel (70% neu fwy) wybodaeth gywir; ond nid oedd hyn yn wir am bob pwynt - er enghraifft, roedd hanner yr ymatebwyr yn credu, yn anghywir, y gallai Cynulliad Cenedlaethol Cymru bennu cyfraddau treth incwm. Er bod pwerau wedi newid ymhellach ers 2009, nid yw data polau piniwn 2014 yn awgrymu bod dealltwriaeth y cyhoedd o’r sefyllfa wedi gwella’n sylweddol. Mae’r broblem o sicrhau bod gan gyfran sylweddol o’r boblogaeth wybodaeth well, a mwy o ddiddordeb, wedi bod yn anorchfygol.

Ar y llaw arall, derbyniwyd pob cam yn y broses o drosglwyddo pwerau yng Nghymru heb fawr ddim gwrthwynebiad, ac mae’r lefelau o gefnogaeth gyffredinol a boddhad o ran gwaith y Cynulliad a’r Llywodraeth wedi’u hatgyfnerthu wrth i hanner y boblogaeth neu fwy ddangos agwedd gadarnhaol tuag atynt. Fel y dywedodd Gweinidog Iechyd presennol Llywodraeth Cymru yn ystod cyfweliad a recordiwyd ar gyfer y Brifysgol Agored ‘y peth cyntaf a’r prif beth y mae datganoli wedi’i gyflawni . . . yw sicrhau bod pobl Cymru yn gwybod y gallwn reoli ein materion domestig ein hunain fel cenedl’.. Nid oes unrhyw ymdeimlad mawr y gallai neu y dylai gwaith datganoli gael ei ddadwneud, ac mae’r niferoedd sydd o blaid newid mwy radical i annibyniaeth wedi lleihau. Er gwaethaf y dadlau ffyrnig achlysurol, mae’r broses o drosglwyddo pwerau sylweddol o lywodraeth y DU i Gymru o fewn dim ond dau ddegawd wedi bod yn broses hynod o ddemocrataidd. At hynny, mae pobl Cymru yn mynegi lefelau uchel o foddhad cyffredinol â rhai o’r gwasanaethau cyhoeddus sylfaenol, addysg ac iechyd, y mae Llywodraeth Cymru yn eu darparu. Mewn agweddau eraill, fel ei pherfformiad economaidd cyffredinol, nid yw Cymru wedi bod yn gwneud cystal ac mae rhai lleisiau beirniadol yn galw am gamau mwy mentrus a dychmygus. Wrth inni droi ein sylw oddi wrth y frwydr ynglŷn ag addasiadau cyfansoddiadol, gallwn ddisgwyl y bydd y pwyslais ar ganlyniadau gwirioneddol y broses ddatganoli yn cynyddu, gyda mwy o drafodaeth o bosibl am nodau a blaenoriaethau yng Nghymru.

Gellir dod o hyd i ragor o gyrsiau a chymwysterau yn Gymraeg yma.

‘Clear Red Water’ – datganoli a chanlyniadau polisi

Ffynonellau gwybodaeth perthnasol