1.2 Stigma a gwahaniaethu

Yn aml, bydd pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn gweld nad yw achos eu gofid yn bodoli oddi mewn iddynt ond, yn hytrach, yn y sefyllfaoedd y maent ynddynt o ddydd i ddydd. Er enghraifft, mae tai o ansawdd gwael ar ystadau swnllyd lle mae'r person yn teimlo ei fod wedi'i ynysu yn fwy tebygol o arwain at broblemau iechyd meddwl na chartref â chefnogaeth dda mewn amgylchedd tawel a chyfeillgar. Heddiw, mae gorfod delio â straen parhaus yn y gwaith a'r gofynion eraill ar bobl yn un o brif achosion problemau iechyd meddwl.

Yn draddodiadol, mae pobl wedi tueddu i ystyried bod pobl eraill sydd â phroblemau iechyd meddwl yn wahanol. Y canlyniad yw bod y rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl wedi cael eu torri oddi wrth y bywyd cymdeithasol 'normal' y mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei gymryd yn ganiataol, fel cyfleoedd cyflogaeth da a rhwydweithiau cymdeithasol eang. Gall hyn hefyd arwain at ddau ganlyniad arbennig o niweidiol: gall pobl â phroblemau iechyd meddwl wynebu stigma a gwahaniaethu.

Stigma

Oherwydd stigma, caiff pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl eu collfarnu. Ni chânt eu hystyried yn bobl yn eu rhinwedd eu hunain, dim ond yn rhywun sydd â salwch meddwl. Gall stigma waethygu eu problemau iechyd meddwl gan ei fod yn eu hynysu, ac o ganlyniad, mae'n anoddach gwella o'r problemau iechyd meddwl. Y salwch meddwl y mae pobl eraill yn ei weld, nid y person. Dyma sut y gwahaniaethir yn erbyn pobl â phroblemau iechyd meddwl.

Gwahaniaethu

Ystyr gwahaniaethu yw triniaeth niweidiol o unigolyn neu grŵp o unigolion oherwydd nod neu nodwedd benodol. Er bod Deddf Anabledd a Chydraddoldeb 2010, sy'n gymwys ledled Prydain Fawr, yn gwahardd yn bendant unrhyw fath o wahaniaethu, gallai pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl wynebu gwahaniaethu anuniongyrchol o hyd. Er enghraifft, efallai eu bod yn cael eu gwahardd o glybiau chwaraeon ar y sail nad ydynt yr un peth â phawb arall neu'n cael eu gwahardd o ganolfannau siopa drud am fod y defnyddwyr yn digio ar eu presenoldeb neu eu hymddangosiad. Hefyd, efallai na fydd eu hiechyd meddwl yn cael ei ystyried pan fyddant yn y gwaith; er enghraifft, cael eu hamlygu i sefyllfaoedd llawn straen neu'n gorfod cyrraedd targedau afrealistig.

1.3 Y fframwaith cyfreithiol