2.3 Seicosis

Grŵp o broblemau iechyd meddwl difrifol yw seicosisau lle mae'r unigolyn yn colli gafael ar realiti. Nid yw'r profiad hwn yn rhywbeth y gall y rhan fwyaf o bobl uniaethu ag ef ac felly gall ymddygiad unigolyn sy'n seicotig ymddangos yn rhyfedd iawn. Y math mwyaf cyffredin o seicosis yw sgitsoffrenia. Yn y rhan fwyaf o achosion mae diagnosis o sgitsoffrenia yn golygu y caiff yr unigol ei gyfeirio at wasanaethau iechyd meddwl arbenigol.

Sgitsoffrenia

Mae llawer o bobl yn meddwl bod gan bobl sydd â sgitsoffrenia feddwl hollt. Nid dyna'r achos. Er hyn, mae'n golygu bod llawer o bobl sydd â sgitsoffrenia yn colli rhywfaint o'u personoliaeth – caiff ei ddisgrifio yn 'rhanedig'. Mae hyn yn bennaf oherwydd y ffordd y mae sgitsoffrenia yn effeithio ar bobl. Mae effeithiau sgitsoffrenia wedi'u rhannu'n gyffredinol yn symptomau cadarnhaol a symptomau negyddol.

Defnyddir y gair cadarnhaol ar gyfer symptomau cadarnhaol, nid am eu bod yn beth da fel y cyfryw ond am eu bod yn ychwanegu rhywbeth at y person; er enghraifft, fel arfer gwneir diagnosis o sgitsoffrenia pan fydd symptomau penodol yn bresennol -– hynny yw, caiff y symptomau eu hychwanegu at y person.

Mae enghreifftiau nodweddiadol o symptomau cadarnhaol sy'n arwyddion o seicosis a sgitsoffrenia. Gallai'r unigolyn arddangos ymddygiad rhyfedd fel ymateb i symptomau yn cynnwys rhithweledigaethau, rhithdybiaethau neu brosesau meddwl dryslyd eraill.

  • Canfyddiadau synhwyraidd yw rhithweledigaethau lle nad oes unrhyw ysgogiad allanol. Er enghraifft, bydd rhithweledigaeth glywedol fel clywed lleisiau yn digwydd pan nad oes neb yn siarad.
  • Credoau cryf nad yw pobl eraill yn eu rhannu yw rhithdybiaethau. Er enghraifft, efallai bod yr unigolyn yn credu y gall ei gymydog ddarllen ei feddyliau.
  • Ymysg anhwylderau meddwl mae meddwl bod y newyddion ar y teledu yn cyfeirio at yr unigolyn hwnnw'n benodol neu fod yr unigolyn yn meddwl y gall pobl eraill ei reoli drwy bwerau gwybyddol arbennig.

Gyda sgitsoffrenia, efallai y bydd yr unigolyn hefyd yn teimlo'n flinedig iawn, heb gymhelliant a bydd yn ymddangos i eraill nad oes ganddo ddiddordeb yn beth sy'n digwydd o'i amgylch. Efallai na fydd yn gallu gofalu am ei amgylchedd agos heb anogaeth. Mae'r rhain yn enghreifftiau o effeithiau negyddol sgitsoffrenia – maent yn cymryd oddi wrth yr unigolyn.