4.2 Llunio cynllun gofal brys

Er mwyn llunio cynllun gofal brys da ac effeithiol, mae angen cael y wybodaeth gywir am y person sy'n derbyn gofal, a chyfathrebu'r wybodaeth hon mewn ffordd y gall pawb ei deall. Bydd y gweithgaredd nesaf yn eich helpu i ymarfer cyfathrebu gwybodaeth am berson sy'n derbyn gofal yn gryno ac yn gywir, felly, os bydd angen i ofalwr neu weithiwr proffesiynol arall gymryd camau gweithredu, gall ddibynnu ar y wybodaeth yn y cynllun er mwyn cael gwybod beth i'w wneud.

Gallwch gyflawni'r gweithgaredd fel gofalwr ar gyfer person penodol neu, os nad ydych yn ofalwr, gallwch ddychmygu rhywun y gallech fod yn cynllunio ar ei gyfer.

Gweithgaredd 11

Timing: Dylech neilltuo tua 10 munud

Disgrifiwch yn gryno ddiagnosis y person sy'n derbyn gofal a'i ddealltwriaeth ohono. Er enghraifft, 'mae gan y person ddementia ac nid yw'n deall na all fynd allan o'r tŷ ar ei ben ei hun'.

  • Pa feddyginiaeth reolaidd y mae'r person yn ei chymryd?
  • Pa feddyginiaeth yn ôl yr angen (neu PRN) y mae'r person yn ei chymryd?
  • A oes unrhyw feddyginiaeth ar gyfer defnydd brys ac, os felly, lle y caiff ei chadw?
  • A oes unrhyw ofal nad yw'r person am ei gael? (Gallai peidio â'i ddadebru fod yn enghraifft o hyn.)
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Sylwadau

Mae'n eithaf anodd bod yn gryno wrth geisio crynhoi personoliaeth unigolyn, ei anghenion, ei ddewisiadau a'i fywyd bob dydd. Fodd bynnag, dylid cofio bod hyn ar gyfer cynllun gofal brys lle y gellir cyfathrebu darnau bach o wybodaeth gywir yn well na darnau mawr o wybodaeth nad yw mor ddefnyddiol mewn sefyllfa frys.

Y ffordd symlaf o restru meddyginiaeth yw copïo cyfarwyddiadau a roddir gan bresgripsiwn y fferyllydd neu feddyg. Gallai hyn hefyd fod ar y blwch neu botel o feddyginiaeth os yw ar gael. Gwnewch yn siŵr ei bod yn cael ei diweddaru.

Nid oes llawer o bobl yn hoffi gwneud dewisiadau sy'n ymwneud â bywyd a marwolaeth ond weithiau, fel gyda gofal diwedd oes, efallai na fydd y triniaethau sydd ar gael er budd gorau i'r person sy'n derbyn gofal. Mewn sefyllfaoedd eraill, efallai y byddai'n well gan y person sy'n derbyn gofal, sydd â phroblemau iechyd meddwl, er enghraifft, beidio â chael ei gludo i'r ysbyty mewn ambiwlans.

Mae'n werth ystyried pa gamau gweithredu sy'n bosibl a'r canlyniadau posibl. Efallai y bydd angen trafod hyn â gweithwyr proffesiynol hefyd.

Gwaith paratoi cychwynnol oedd Gweithgaredd 11, a roddodd wybodaeth gefndir hanfodol am y person sy'n derbyn gofal y gellir ei deall yn gyflym mewn argyfwng. Unwaith y bydd cynllun gofal brys wedi'i gadarnhau, dylid ei rannu â'r sawl sy'n debygol o gael eu galw, yn cynnwys perthnasau, cymdogion a gweithwyr proffesiynol. Dylid bod wedi ymgynghori ag unrhyw un y caiff ei rannu â nhw.

Nawr, hoffem i chi feddwl beth i'w wneud os bydd achos brys yng nghartref y person sy'n derbyn gofal. Gellir rhagweld rhai achosion brys a pharatoi ar eu cyfer. Ymysg yr enghreifftiau o achosion brys y gellir eu rhagweld mae:

  • person â dementia yn gadael nwy hob y popty ymlaen
  • person â dementia yn mynd ar goll
  • oedolyn ifanc ag anableddau dysgu yn cael trawiad epileptig
  • unigolyn yn anghofio cymryd ei feddyginiaeth ar gyfer diabetes.

Wrth gwrs, mae achosion brys eraill yn annisgwyl, ond gellir gwneud cynlluniau ar eu cyfer o hyd. Yn y gweithgaredd nesaf, byddwch yn ystyried achosion brys y gellir eu rhagweld ar gyfer person sy'n derbyn gofal (neu berson dychmygol os yw'n briodol).

Gweithgaredd 12

Timing: Dylech neilltuo tua 20 munud
By signing in and enrolling on this course you can view and complete all activities within the course, track your progress in My OpenLearn Create. and when you have completed a course, you can download and print a free Statement of Participation - which you can use to demonstrate your learning.

4.1 Pam mae angen cynllun gofal brys?

Pwyntiau allweddol o Adran 4