2.2 Rheoli ymddygiad drwy siartiau gwobrwyo

Un ffordd y caiff ymddygiad cadarnhaol ei annog, yn enwedig ymysg plant ifanc, yw drwy ddefnyddio siartiau gwobrwyo. Defnyddir rhyw fath o system o gosbau a gwobrau yn gyffredin mewn ysgolion uwchradd, er efallai nad ydynt yn defnyddio siartiau gwobrwyo sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, ond yn hytrach yn canolbwyntio mwy ar wobrwyo grwpiau.

Mae'r erthygl yn y blwch isod yn drosolwg byr o'r system wobrwyo, a hoffem i chi ei darllen cyn gwneud y gweithgaredd nesaf.

Siartiau gwobrwyo ac ymddygiadaeth

Mae'r defnydd o siartiau gwobrwyo neu systemau gwobrwyo tebyg yn gyffredin, yn enwedig gyda phlant ifanc, nid yn unig gartref ond hefyd mewn ysgolion a chan weithwyr cymdeithasol sy'n gweithio gyda phlant sydd ag anghenion emosiynol neu ymddygiadol penodol. Mae'r ddamcaniaeth sy'n sail i ddulliau o'r fath yn deillio o gangen o seicoleg o'r enw 'ymddygiadaeth'.

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigur 3 Enghraifft o siart gwobrwyo

Dros y 30 mlynedd diwethaf, mae ymddygiadaeth wedi cymryd sawl ffurf ond, yn syml, mae'n seiliedig ar y syniad y gellir newid ymddygiad plant (ac oedolion) drwy ddysgu a chysylltu. Os bydd plentyn yn cysylltu ymddygiad penodol â chanlyniadau gwael, bydd yn ei osgoi. Os bydd yn ei gysylltu â chanlyniadau da, bydd yn ei ailadrodd.

Gallai 'cosbau' gynnwys peidio â chael sylw oedolyn dros dro neu gael ei allgáu o weithgareddau grŵp am gyfnod byr, a elwir weithiau yn 'amser tawelu'. Mae 'gwobrau' yn canolbwyntio ar fwy na 'chosbau', yn enwedig gyda phlant iau, a defnyddir gwobrau er mwyn annog ymddygiad dymunol ac osgoi ymddygiad annymunol.

Cafwyd mwy o feirniadaeth o strategaethau ymddygiad gyda phlant, yn bennaf ar y sail, os ydynt yn gweithio o gwbwl, bod y buddiannau neu'r newidiadau mewn ymddygiad yn fyrhoedlog. Cafwyd beirniadaeth hefyd oherwydd y ffaith bod un person (yr oedolyn) yn aml yn dylanwadu ar ymddygiad person arall, y plentyn, neu'n ei orfodi i wneud rhywbeth.

Fodd bynnag, pan fydd y plentyn yn rhan o drafodaethau am ymddygiad, gall y rhyngweithio hwn rhwng y rhiant a'r plentyn arwain at newid cadarnhaol yn y pen draw. Gellir sicrhau gostyngiad mewn tensiwn teuluol pan gaiff ffocws y rhieni ei ailgyfeirio at annog cyflawniadau cadarnhaol yn hytrach na mynd yn flin.

Ffurfiau gwahanol ar siartiau gwobrwyo neu systemau gwobrwyo

Gall y rhain gymryd ffurfiau gwahanol a gallai fod ganddynt enwau gwahanol. Gallant fod wedi'u hanelu at unigolion, fel drwy system goleuadau traffig, neu at y dosbarth cyfan, fel drwy system pwyntiau balchder sy'n ennill gwobr i'r dosbarth cyfan. Fodd bynnag, maent wedi'u 'pecynnu', mae pob un ohonynt yn golygu bod yn rhaid i blant 'ennill' rhywbeth maent am ei gael, fel 'amser euraidd' neu sticer.

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigur 4 System pwyntiau balchder

Er efallai na chaiff siartiau gwobrwyo eu defnyddio mewn ysgolion uwchradd, mae'n arferol cael system o gosbau a gwobrau (yr Adran Addysg, 2012). Mewn rhai ysgolion, bydd plant yn ennill pwyntiau teilyngdod, ac yna byddant yn mewngofnodi ar-lein ac yn cynilo er mwyn ennill gwobrau sy'n amrywio o bethau sylfaenol fel deunydd papur i rywbeth mwy fel tocynnau sinema.

Ni fydd rhai ysgolion uwchradd yn defnyddio gwobrau personol. Gall plant gofnodi pwyntiau y byddant yn eu hennill ond mae pob pwynt yn werth swm – 1c efallai. Ar ddiwedd y flwyddyn neu'r tymor, caiff y pwyntiau eu cyfnewid yn arian parod a bydd yr arian yn mynd i elusen y flwyddyn yr ysgol.

Gellir defnyddio colli braint neu gyfle fel 'anogaeth' i gyflawni ymddygiad dymunol drwy gosbi ymddygiad annymunol.

Ai siartiau gwobrwyo ac 'amser tawelu' yw diwedd y stori?

Er bod gweithwyr proffesiynol (a rhieni) weithiau yn ystyried bod strategaethau fel siartiau gwobrwyo ac 'amser tawelu' yn effeithiol wrth reoli rhai ymddygiadau gyda rhai plant, mae'r buddiannau yn gyfyngedig a byrhoedlog fel arfer a gallant wneud niwed hirdymor i hunangymhelliant unigolyn (Kohn, 1999).

Yn aml iawn, mae'n anodd gorfodi'r siart, ac efallai y bydd angen cymell plant i wneud beth bynnag y cytunwyd arno er mwyn cael y sticer, neu eitem ddiriaethol arall sy'n dangos cynnydd tuag at y nod. Wrth i amser fynd heibio, gall y plentyn ddiflasu a chael ei siomi nad yw'n cyflawni'r wobr yr oedd yn gweithio tuag ati.

Weithiau, nid yw systemau gwobrwyo yn gweithio am nad yw'r plentyn am gael ei ddewis fel rhywun sy'n wahanol mewn rhyw ffordd i'w gyfoedion. Hefyd, efallai na fydd rhai plant hŷn yn cofnodi eu pwyntiau am fod y gwobrau'n cael eu cyflwyno yn y gwasanaeth a bydd rhai plant yn meddwl eu bod yn 'rhy cŵl' neu'n teimlo cywilydd am eu bod yn cael sylw, ni waeth pa mor gadarnhaol ydyw.

Gweithgaredd 5

Timing: Dylech neilltuo tua 15 munud

Ar ôl darllen yr erthygl ar siartiau gwobrwyo, meddyliwch am y pwyntiau canlynol:

  • A ydych yn meddwl bod siartiau gwobrwyo yn annog ymddygiad cadarnhaol?
  • Beth yw'r anawsterau wrth ddefnyddio siartiau gwobrwyo?
  • Os byddwch yn defnyddio siartiau gwobrwyo fel system ar gyfer gwobrwyo ymddygiad dymunol, a oes unrhyw newidiadau y gallech eu hawgrymu ar ôl darllen yr erthygl hon?
  • Os nad ydych yn defnyddio siartiau gwobrwyo, a allai fod lle iddynt yn eich ysgol neu leoliad?

Gwnewch nodiadau cyn darllen ein sylwadau.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Sylwadau

Bydd eich atebion i'r pwyntiau bwled yn unigryw. Bydd eich profiadau a'ch safbwyntiau eich hun ar b'un a ddylid rheoli ymddygiad yn effeithio ar eich myfyrdodau ynghylch effeithiolrwydd siartiau gwobrwyo, a ph'un a allai fod lle iddynt yn eich lleoliad.

Wrth feddwl am yr anawsterau o ran defnyddio siartiau gwobrwyo, efallai y byddwch am gyfeirio'n ôl at nodau camymddwyn Dreikurs yn Nhabl 1 ac ymddygiad Kyle (Gweithgaredd 3). Ystyriwch – os yw Kyle yn ceisio cael sylw drwy wneud rhywbeth y mae'n gwybod na ddylai ei wneud (h.y. defnyddio ei ffôn mewn gwersi) – p'un a ddylai allu profi canlyniadau rhesymol ei ymddygiad. Un mater i feddwl amdano yw p'un a yw hyn yn briodol pan allai canlyniadau rhesymegol ymddygiad Kyle gael effaith negyddol ar ei addysg a'i siawns o gael cyflogaeth yn y dyfodol. Sut y gellid cyflawni hunangymhelliant?

2.1 Rheoli ymddygiad yn yr ystafell ddosbarth

2.3 Targedau CAMPUS