2.5 Cynnal disgyblaeth yn yr ystafell ddosbarth

Mae Tom Bennett, awdur Managing Difficult Behaviour in Schools (2015a), yn credu bod deg peth y dylai pob athro fod yn ei wneud er mwyn sicrhau trefn yn yr ystafell ddosbarth.

  1. Peidiwch â thybio bod y disgyblion yn gwybod sut rydych am iddynt ymddwyn.
  2. Lluniwch gynllun seddi.
  3. Byddwch yn deg, yn gyson ac yn gymesur.
  4. Dysgwch enwau'r disgyblion.
  5. Dilynwch drywydd materion.
  6. Peidiwch â gweithredu ar eich pen eich hun – defnyddiwch eich rheolwr llinell os bydd angen.
  7. Peidiwch â chynhyrfu.
  8. Dylech gynnwys y rhieni.
  9. Byddwch yn barod ac yn drefnus ar gyfer gwersi.
  10. Byddwch yn athro, nid yn gyfaill.
(Addaswyd o Bennett, 2015b)

Gweithgaredd 7

Timing: Dylech neilltuo tua 15 munud

Ailddarllenwch ddeg awgrym defnyddiol Tom Bennett (2015b) ar gyfer cynnal disgyblaeth yn yr ystafell ddosbarth. Dyma'r pethau y dylai pob aelod o staff fod yn ei wneud er mwyn sicrhau trefn yn yr ystafell ddosbarth.

Yna gwyliwch glip fideo ar reoli aflonyddwch lefel isel. Gwyliwch y clip fideo yn ei gyfanrwydd unwaith heb oedi na chymryd nodiadau.

Download this video clip.Video player: low-level_disruption.mp4
video still
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad|Cuddio'r trawsgrifiad
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Nawr gwyliwch y clip fideo am yr eildro gan ystyried y cwestiynau canlynol:

  • Sut y gallech chi, fel cynorthwyydd addysgu, helpu'r athro i reoli aflonyddwch lefel isel?
  • Pa mor hyderus ydych chi'n teimlo yn helpu'r athro gyda hyn?
  • Beth fyddai'n eich helpu chi i wella eich hyder?

Os nad ydych yn gweithio fel cynorthwyydd addysgu ar hyn o bryd, dychmygwch sefyllfa lle mae aflonyddwch lefel isel yn digwydd a chymhwyswch y cwestiynau at hyn.

Gwnewch eich nodiadau cyn darllen ein sylwadau.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Sylwadau

Mae Tom Bennett yn siarad am effeithiau cyrydol mân gamymddwyn ymysg plant, fel siarad neu basio nodiadau, neu fod rhywbeth yn tynnu eu sylw. Fel cynorthwyydd addysgu, rydych mewn sefyllfa dda i helpu'r athro i reoli'r math hwn o ymddygiad. Efallai y gwnaethoch nodi sut y gallech, yn dyner, atgoffa plant i wrando, neu ganmol plentyn am ymddwyn yn briodol. Yn aml, bydd canolbwyntio eich sylwadau ar ymddygiad priodol yn arwain at gywiro ymddygiad amhriodol eraill, heb fod angen dweud dim wrth y plant hynny.

Nododd Tom Bennett bod rheoli ymyrraeth lefel isel yn rhywbeth sy'n cymryd amser, ac nad oes 'ateb cyflym'. Yn yr un modd, mae meithrin sgiliau a gwybodaeth – a hyder – i reoli ymddygiad plentyn yn effeithiol yn rhywbeth sy'n cymryd amser. Bydd siarad â'r athro dosbarth neu â'ch mentor, neu â'r aelod o staff sy'n gyfrifol am reoli ymddygiad yn yr ysgol, yn eich helpu i ddatblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau o ran rheoli ymddygiad.

2.4 Lleihau ymddygiad negyddol

2.6 Cynnwys plant wrth reoli ymddygiad