Mynd i'r prif gynnwys
Printable page generated Thursday, 29 September 2022, 8:21 am
Use 'Print preview' to check the number of pages and printer settings.
Print functionality varies between browsers.
Printable page generated Thursday, 29 September 2022, 8:21 am

Datblygu a rheoli cydberthnasau

Cyflwyniad

Yn yr adran hon o'r cwrs byddwch yn edrych ar ddatblygiad cydberthnasau plant, yn y teulu ac yn yr ysgol. Ni fwriedir iddo fod yn gofnod cynhwysfawr o sut mae plant yn tyfu ac yn datblygu. Ei nod yw ystyried rhai o'r profiadau a'r heriau a wynebir gan blant a'u rhieni/gofalwyr mewn cymdeithas heddiw a chyflwyno damcaniaethau pwysig o ran sut mae plant yn datblygu ac yn aeddfedu.

Mae'r adran hon wedi'i rhannu yn dri phwnc:

  1. Mae Pwysigrwydd y blynyddoedd cynnar yn edrych ar beth mae babanod a phlant bach yn ei gael o amrywiaeth o gydberthnasau a pham mae meithrin cydberthnasau yn gynnar yn bwysig i fabanod a phlant ifanc.
  2. Mae Rhieni fel partneriaid yn archwilio datblygiad cydberthnasau gan gyfeirio at rai o'r prif ddamcaniaethwyr sydd wedi llywio ein dealltwriaeth. Byddwch hefyd yn canolbwyntio ar sut y gall natur rhianta effeithio ar ddatblygiad plant, a phwysigrwydd y cydberthnasau rhwng rhieni ac ymarferwyr.
  3. Mae Cyfnodau pontio plant yn canolbwyntio ar bwysigrwydd deall newidiadau sylweddol ym mywydau plant wrth iddynt symud o un cam datblygu i un arall. Ystyr 'pontio' yw trosglwyddo o un lle, cyflwr, ffurf, cam neu weithgaredd, i un arall.

Mae pob un ohonom yn profi gwahanol fathau o gyfnodau pontio bob dydd a thrwy gydol ein bywydau. Mae cyfnod pontio llorweddol yn golygu, yn llythrennol, symud o un lle i un arall, fel o'r cartref i'r ysgol. Mae cyfnod pontio fertigol yn golygu newid profiad fel 'symud i fyny' o'r ysgol feithrin i'r ysgol gynradd, neu o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd. Mae cyfnodau pontio sy'n gysylltiedig ag addysg yn llai amlwg ac yn cyfeirio at y newidiadau llai ffurfiol ym mywydau ac arferion plant sy'n digwydd y tu allan i leoliad sefydliadol. Gall y newidiadau hyn ddigwydd mewn bywyd bob dydd y tu allan i'r ysgol ond gallant effeithio ar fywydau a llesiant plant a'u llywio. Byddai ysgariad yn enghraifft o'r math hwn o newid.

Deilliannau dysgu

Drwy gwblhau'r adran hon a'r cwis cysylltiedig, byddwch yn:

  • cael cipolwg ar bwysigrwydd meithrin cydberthnasau diogel yn natblygiad plant o'r blynyddoedd cynnar
  • deall sut mae rhai damcaniaethau a chysyniadau yn ceisio egluro sut mae cydberthnasau yn datblygu yn ystod plentyndod a sut gall dealltwriaeth o ddamcaniaeth a chysyniadau gyfrannu at eich ymarfer.

1 Pwysigrwydd y blynyddoedd cynnar

Byddwch yn dechrau drwy archwilio cydberthnasau yn y blynyddoedd cynnar o safbwynt teulu astudiaeth achos. Mae'r cyfrif yn nodi nifer o ffactorau posibl sy'n effeithio ar gydberthnasau plant. Gwnewch nodyn o'r ffactorau hyn wrth i chi ddarllen yr astudiaeth achos, ond cofiwch y gallai fod gennych safbwyntiau eraill oherwydd eich diddordebau gwahanol, eich gwybodaeth a'ch profiadau blaenorol.

Astudiaeth achos: Ffurfio perthnasoedd cynnar

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigur 1 Meithrin cydberthnasau cynnar

Mae Siân wedi penderfynu mynd yn ôl i'r gwaith yn llawn amser gan fod Tomos yn symud o'r cyfnod cyn-ysgol i ysgol brif ffrwd. Mae Mali wedi bod yn fabi yr oedd angen rhoi llawer o sylw iddi ac mae Siân yn poeni ynghylch sut y bydd yn ymdopi â'r ffaith ei bod i ffwrdd oddi wrth 'Mami' ac yn mynd i ofal dydd.

Roedd Tomos yn fabi hawdd iawn – yn llonydd a thawel. Fel plentyn bach, byddai'n aml yn ei fyd bach ei hun ac ni fyddai'n rhyngweithio â phlant eraill. Priodolodd rhieni Tomos ei ymddygiad i'r ffaith bod ganddo bersonoliaeth swil, ac, yn ddistaw bach, roeddent yn falch o'u bachgen bach ufudd. Yn ystod archwiliad iechyd arferol, cafodd Tomos ddiagnosis o nam ar ei glyw a thros y flwyddyn ddiwethaf mae wedi cael sawl prawf meddygol. Mae bellach yn gweld therapydd lleferydd ac iaith yn rheolaidd.

Mae Mali wedi bod yn fabi anoddach sydd angen mwy o sylw, a bu'n dioddef o golig nes oedd yn bedwar mis oed. Cafodd Siân anhawster yn meithrin cydberthynas â hi ac mae'n meddwl tybed a fydd unrhyw effeithiau hirdymor ar ei chydberthynas â'i merch, neu ar ddatblygiad cymdeithasol ac emosiynol Mali.

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigur 2 Cydberthnasau cynnar Tomos a Mali

Fel babi, roedd Tomos yn hapus i orwedd yn dawel yn ei grud, neu ddiddanu ei hun pan oedd yn hŷn, ac nid oedd yn ymddangos bod angen llawer o sylw arno. O ganlyniad, gallodd Siân weithio'n rhan amser. Rhyngddynt, gallodd Siân, Ceri a Dafydd ofalu am Tomos heb iddo orfod mynd i ofal dydd nes iddo ddechrau yn y grŵp cyn-ysgol pan oedd yn 3 oed. Fodd bynnag, gan gydbwyso amser gwaith a theulu, nid oedd yn hawdd iddynt fynd â Tomos allan i gwrdd â babanod a phlant bach eraill. Pan aeth Siân a Dafydd i gyfarfod rhieni gyda'r grŵp cyn-ysgol er mwyn trafod ei gyfnod pontio i'r ysgol, nid oeddent yn synnu i glywed nad oes ganddo ffrind arbennig, a'i fod yn ddigon hapus yn chwarae ar ei ben ei hun.

Gan fod gan Tomos nam ar ei glyw, cafodd ei atgyfeirio at therapydd lleferydd ac iaith. Roedd hyn yn ergyd fawr i'r rhieni a chawsant drafferth addasu. Fodd bynnag, roeddent yn benderfynol o wneud popeth a allent i'w helpu. Maent yn treulio llawer o amser yn gwneud yr ymarferion a gweithgareddau a awgrymir gan y gweithwyr proffesiynol y maent yn eu gweld. Nid yw Tomos bob amser am wneud y rhain, ac mae Siân a Dafydd weithiau yn gorfod ei berswadio i wneud yr hyn maent am iddo ei wneud. Mae Tomos yn cynhyrfu ac, ar adegau, mae Ceri yn camu i mewn ac yn gadael i Tomos gael ei ffordd heb wneud yr hyn y gofynnwyd iddo ei wneud. Mae hyn wedi arwain at wrthdaro rhwng yr oedolion yn y tŷ ers peth amser.

Pan aned Mali rai misoedd ar ôl diagnosis Tomos, cafodd Siân, yn enwedig, drafferth ymdopi â gofynion gwahanol y ddau blentyn. Mae Mali wedi bod yn hollol wahanol i Tomos fel babi. Cafodd golig ac roedd yn crïo drwy'r adeg, ac yn deffro'n aml yn ystod y misoedd cynnar. Roedd Dafydd yn gweithio llawer o sifftiau nos fel y gallai fod o gwmpas yn ystod y dydd er mwyn mynd â Tomos i'r grŵp cyn-ysgol a rhoi egwyl i Siân, ond roedd hyn yn golygu bod y ddau ohonynt yn flinedig iawn. Er bod Ceri wedi ceisio aros yn y cefndir pan oedd Tomos yn fabi er mwyn rhoi'r rhyddid i Siân a Dafydd ddatblygu eu sgiliau rhianta eu hunain, mae wedi cymryd mwy o ran ym magwraeth Mali.

Ers pan oedd Mali yn fabi bach iawn, roedd yn casáu cael ei rhoi i lawr a byddai'n sgrechian neu'n crïo oni bai ei bod yn cael ei dal neu'n cysgu. Roedd y ffaith bod angen llawer o sylw arni yn waith blinedig iawn i'r teulu. Treuliodd Ceri, a oedd yn gwneud llawer o'r gofalu ar y dechrau, sawl awr yn magu Mali yn ei breichiau er mwyn ceisio ei thawelu, pan oedd Siân yn brysur gyda Tomos. Mae gan Mali gysylltiad agos iawn â'i 'Nain' bellach. Mae wrth ei bodd yn cael cwtch gan Ceri wrth wrando ar stori ac yn aml bydd yn dewis mynd ati hi pan fydd wedi brifo. Yn ddiweddar, pan syrthiodd wrth chwarae yn yr ardd, er bod Siân yn agosach ati, dewisodd Mali fynd at ei nain i gael cysur yn hytrach nag at ei mam. Roedd hyn yn peri gofid i Siân a gwnaeth iddi sylweddoli bod angen iddi dreulio mwy o amser gyda Mali a gweithio i feithrin eu cydberthynas.

Mae'n ymddangos bod cydberthynas Mali â Siân yn ymddangos yn llai sicr na'i chydberthynas â Ceri. Er ei bod yn ymddangos yn ddigon hapus i fod gyda Siân yn ôl pob golwg, ceir awgrymiadau bach ei bod yn fwy sicr o'i chydberthynas â Ceri; er enghraifft, y ffaith ei bod yn setlo'n haws i Ceri pan fydd yn crïo. Mae Siân yn ddiolchgar i Ceri am helpu gyda Mali, ond mae wedi dechrau poeni ei bod yn yr ail safle i Nain yn llygaid ei merch. Cafodd Tomos drafferth addasu i rannu ei rieni â Mali pan gafodd ei geni, ond mae wrth ei fodd â'i chwaer fach erbyn hyn, ac mae'n hoffi chwarae gyda hi, er ei bod yn mynd dan ei groen weithiau hefyd – yn enwedig pan fydd yn ceisio mynd â'i hoff degan deinosor!

Gweithgaredd 1

Timing: Caniatewch tua 20 munud

Ailddarllenwch yr astudiaeth achos a gwnewch nodyn o'r canlynol:

  1. Pa ffactorau a all fod wedi effeithio ar gydberthnasau Tomos a Mali gyda'u rhieni a'u nain?
  2. Pa resymau posibl sydd dros y posibilrwydd nad yw Mali wedi meithrin cydberthynas agos â'i mam?
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Sylwadau

Mae'r cyfrif yn nodi rhai ffactorau posibl a all effeithio ar gydberthnasau'r plant. Isod, mae rhai o'r ffactorau y gallech fod wedi'u nodi, ond gallech fod wedi nodi rhai gwahanol. Gall eich atebion adlewyrchu eich profiadau gwahanol, eich diddordebau a'ch gwybodaeth flaenorol.

  1. Cafodd Tomos ddiagnosis bod ganddo nam ar ei glyw pan oedd Siân yn disgwyl Mali. Bu'n rhaid i Siân dreulio llawer o amser yn mynd â Tomos i apwyntiadau a chynnal gweithgareddau ag ef er mwyn ei helpu i ddatblygu ei iaith. Yn naturiol, bydd hyn wedi effeithio ar gydberthynas Tomos â'i rieni a'i nain wrth i bawb ymdopi â gofynion dull ymyrryd cynnar y bu'n rhaid i'r teulu ymdopi ag ef.
  2. Efallai fod ymddygiad Tomos a'i ddiagnosis dilynol, a bywydau prysur ei rieni, wedi effeithio ar ba mor hawdd yr oedd yn gallu meithrin cydberthnasau â phlant eraill, er ei bod yn ymddangos ei fod yn meithrin cydberthynas iach â'i chwaer.
  3. Mae gan Mali gydberthynas agos, ddiogel, â'i nain gan ei bod wedi gwneud llawer o'r gofalu cynnar pan oedd Siân yn brysur gyda Tomos. Cafodd Siân drafferth creu cysylltiad â Mali pan gafodd ei geni, o bosibl am ei bod yn canolbwyntio ar Tomos ond hefyd am fod Mali yn fabi 'anodd'. Ceir awgrym nad yw Mali yn siŵr bod ei mam yn ei charu ac efallai bod ganddi gydberthynas lai diogel â hi, a chafwyd tystiolaeth o hynny pan aeth Mali at ei nain pan gafodd ei hanafu.

1.1 Cydberthnasau pwysig

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigur 3 Y cylch consentrig

Mae Ffigur 3 yn dangos un ffordd o gynrychioli'r amrywiaeth o bobl wahanol y mae Tomos yn dod i gysylltiad â nhw yn rheolaidd a pha mor agos y mae'n teimlo atynt. Wnaethoch chi sylwi ar unrhyw beth o ran y bobl y soniwyd amdanynt? Yn yr astudiaeth achos hon (ond nid gyda phob teulu) yr aelodau o'r teulu yw'r agosaf. Ar ôl hynny, efallai mai gweithwyr allweddol mewn ysgolion fel therapyddion lleferydd yw'r agosaf. Wrth i blant ddatblygu, mae cyfoedion yn dod yn bwysicach iddynt.

Gweithgaredd 2

Timing: Caniatewch tua 20 munud

Meddyliwch yn ôl i'ch plentyndod cynnar a cheisiwch gofio gyda phwy yr oeddech yn agos pan oeddech yr un oed â Tomos a Mali. Edrychwch ar luniau o'ch plentyndod cynnar neu siaradwch ag aelodau o'r teulu. Os byddai'n well gennych, cynhaliwch y gweithgaredd hwn o safbwynt eich plant eich hun, neu blant rydych yn eu hadnabod yn dda.

Gwnewch ddiagram tebyg i Ffigur 3 er mwyn rhoi cynrychiolaeth weledol o'r wybodaeth neu gwnewch nodiadau am y canlynol, gan roi rhesymau dros eich atebion os gallwch:

  1. Pwy oeddech chi'n agos atynt?
  2. Ydych chi'n dal i fod yn agos atynt nawr?
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).
Sylwadau

Efallai eich bod wedi synnu at yr amrywiaeth o bobl y gwnaethoch nodi eich bod yn teimlo'n agos atynt, a chreu cysylltiad cryf â nhw. Efallai eich bod wedi nodi modrybedd ac ewythrod, neiniau a theidiau, llys riant, gofalwr maeth neu rywun nad yw'n perthyn i chi a fu'n gofalu amdanoch, fel gwarchodwr neu ffrind i'r teulu.

I'r rhan fwyaf o blant ifanc, mae rhieni a theulu agos yn bwysig. Gall oedolion a phlant eraill fod yn bwysig hefyd, ond nid ydynt bob amser yn cael y gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu am y rhan y maent yn ei chwarae ym mywydau plant.

1.2 Rhai damcaniaethau ynghylch datblygiad plentyn

Mae rhai pobl yn meddwl bod y theori yn anodd, er ei fod yn bwysig er mwyn deall datblygiad plentyn. Nid oes rhaid i chi dreulio llawer o amser ar y theori ar y cam hwn o'ch astudiaethau. Mae'r dolenni allanol yn opsiynol ac nid ydynt wedi'u cynnwys yn yr amser astudio ar gyfer yr adran hon.

Roedd gan Mali lai o ymlyniad i Siân, ei mam, nag yr hoffai Siân oherwydd ymlyniad agos Mali i'w nain. Ymlyniad yw cysylltiadau emosiynol rhwng plentyn ifanc a'r bobl sy'n ymwneud fwyaf ag ef. Mae dibynadwyedd a chysondeb y gofal a gaiff babi yn briodol i'w anghenion yn effeithio ar ba mor ddiogel y mae'n teimlo yn ei ymlyniadau; os bydd yn teimlo'n ddiogel, mae'n debygol y caiff cysylltiad cadarn ei greu gyda'r person sy'n rhoi'r gofal hwnnw. Fodd bynnag, gall anghysondeb a natur anrhagweladwy cydberthynas wneud i blentyn deimlo'n ansicr iawn, a bydd hyn yn cael effaith negyddol ar ba mor dda y caiff cysylltiad ei greu.

Erbyn i fabi gyrraedd 6 i 12 mis oed, gall feithrin cydberthynas emosiynol gadarn (ymlyniad) ag eraill a phan fydd ymlyniad wedi'i greu, bydd y babi'n mynd yn wyliadwrus o ddieithriaid a bydd yn gofidio os caiff ei wahanu oddi wrth y person/pobl y mae ganddo ymlyniad iddynt.

Theori ymlyniad a'r Prawf Sefyllfa Ryfedd

Defnyddiwyd y Prawf Sefyllfa Ryfedd gan seicolegwyr plant yng Ngorllewin Ewrop ac UDA ers sawl blwyddyn er mwyn asesu ansawdd cydberthnasau ymlyniad ymysg plant ifanc. Gwnaed hyn fel arfer gyda mamau yn brif ofalwyr.

Gweithgaredd 3
Timing: Dylech neilltuo tua 15 munud

Gwyliwch y clip fideo hwn o'r Prawf Sefyllfa Ryfedd a gynhelir ar Lisa, sy'n fabi, gan seicolegydd. Mae'r clip fideo yn dangos bod gan Lisa gydberthynas agos â'i mam.

Skip transcript

Transcript

Y Sefyllfa Ryfedd – Mary Ainsworth
Adroddwr
Ond a ellir trosi elfennau hanfodol bywyd yn y cartref yn lleoliad labordy safonol ar gyfer astudiaeth wyddonol dan reolaeth?
Ar ôl cynnal arsylwadau helaeth ar rieni a phlant gartref, lluniodd un o fyfyrwyr Bowlby – Mary Ainsworth – weithdrefn o'r enw 'y Sefyllfa Ryfedd', sy'n rhoi'r plentyn dan rywfaint o straen. Erbyn hyn, dyma'r ffordd fwyaf safonol o asesu ansawdd ymlyniad plentyn at ei ofalwr.
Yma, mae'r ymchwilwyr yn cofnodi sut mae Lisa, sy'n 14 mis oed, yn ymateb yn y lleoliad deniadol ond anghyfarwydd hwn. Sut y bydd yn ymateb i ddieithryn? Beth fydd yn digwydd pan fydd ei mam yn gadael yr ystafell – a phan fydd yn dychwelyd?
Mae ganddynt ddiddordeb arbennig yn ymddygiad Lisa pan fydd ei mam yn dychwelyd – mae seicolegwyr yn galw hyn yn 'aduniad'.
Ymchwilydd
Y peth pwysicaf yw chwilio am y math o gydbwysedd y mae plentyn yn ei daro rhwng angen am ymlyniad ac ar y llaw arall, yr awydd i archwilio'r deunydd chwarae.
Adroddwr
Pan fydd Lisa wedi setlo i lawr i chwarae, bydd dieithryn yn dod i mewn i'r ystafell ac yn eistedd yn y gadair gan ddarllen cylchgrawn.
Ar ôl munud neu ddau bydd y dieithryn yn ceisio rhyngweithio â Lisa.
Yn fuan wedyn, bydd Lisbeth yn cael arwydd i adael yr ystafell. [Lisa yn dechrau crïo]
Mae'r dieithryn yn ceisio cysuro Lisa – ond yn ofer.
Daw Lisbeth yn ôl i mewn i'r ystafell ac mae'r camera yn cofnodi ymateb Lisa.
Nawr, mae rhan gyntaf y weithdrefn drosodd ac mae Lisbeth yn setlo Lisa i lawr eto. Mae'r dieithryn yn eu gadael gyda'i gilydd eto.
Yn fuan wedyn, mae Lisbeth yn gadael hefyd. Mae Lisa ar ei phen ei hun – mae'n amlwg ei bod yn gofidio.
Unwaith eto, mae ymdrechion y dieithryn i gysuro Lisa yn ofer.
Ond mae Lisbeth yn llwyddo i'w thawelu ar unwaith bron, ac yn fuan wedyn mae'r arsylwad yn dod i ben.
Dangosodd Lisa arwyddion allanol o'r hyn a elwir yn ymlyniad diogel.
End transcript
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).
Sylwadau

Mae'r Prawf Sefyllfa Ryfedd wedi cael ei feirniadu am sawl rheswm – er enghraifft, ni ellir ei hailadrodd yn hawdd. Cynhaliwyd y gwaith ymchwil yn bennaf ar blant o Orllewin Ewrop ac America, felly mae'r dehongliadau o ystyr cydberthnasau diogel yn benodol iawn i ddiwylliannau Ewropeaidd-Americanaidd.

Mae cymdeithasau a grwpiau ethnig/diwylliannol lle na chaiff babanod eu hannog i ddarganfod, chwarae i ffwrdd oddi wrth eu teulu nac i ddangos chwilfrydedd, felly ni fyddent yn ymddwyn yn y ffordd hon pan oeddent yn ifanc (Cole, 1998). Wrth asesu diogelwch eu cydberthnasau, felly, gellir asesu'n anghywir nad yw'r babanod hyn yn teimlo’n ddiogel.

Damcaniaeth ymlyniad

Seicolegydd o'r enw Mary Ainsworth (1913–1999) a ddyfeisiodd y Prawf Sefyllfa Ryfedd, ond mae'r prawf wedi'i gysylltu'n agos â'r ddamcaniaeth ymlyniad. Mae damcaniaeth ymlyniad wedi dod yn gyffredin iawn mewn seicoleg ac yn gysylltiedig iawn â gwaith John Bowlby (1907–1990), a wnaeth waith ar ymlyniad yn y 1940au a'r 50au.

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigur 4 John Bowlby

Mae gwaith ymchwil diweddar wedi dangos, yn ogystal â gallu meithrin ymlyniadau lluosog, bod babanod yn aml yn gallu meithrin cydberthnasau gwell yn y dyfodol os byddant yn creu mwy nag un ymlyniad sylfaenol (David, 2004). Nid oes raid i'r ymlyniadau sylfaenol hyn fod gyda rhieni'r plentyn. Weithiau, bydd plant yn creu ymlyniad sylfaenol i'w perthynas agos, fel mam-gu neu dad-cu, neu ffigur rhiant, fel gofalwr maeth hirdymor. Cofiwch yn nheulu'r astudiaeth achos fod Mali yn agosach i'w nain, Ceri, a oedd yn gofalu amdani tra bod ei mam, Siân, yn gweithio.

Damcaniaeth ddatblygiadol

Mae'r ffordd y mae plant yn dysgu ac yn datblygu yn faes anferth o seicoleg ddatblygiadol ac mae safbwyntiau gwahanol yn sail i'r profiadau y caiff plant eu hamlygu iddynt. Mae dau ddamcaniaethwr yn benodol wedi bod yn ddylanwadol o ran datblygiad plant, sef, Jean Piaget (1896–1980) a Lev Vygotsky (1896–1934).

Roedd damcaniaeth Piaget yn dadlau bod datblygiad yn digwydd yn bennaf drwy ffactorau mewnol i'r plentyn a gaiff eu creu yn fiolegol a bod pob plentyn yn mynd drwy gamau datblygu tua'r un pryd. Peidiwch â phoeni gormod am y pedwar cam gwahanol (er y gallech fod am roi cynnig ar Gwestiwn 1 y cwis ar y pwynt hwn). Y camau hyn (Ffigur 5) yw:

  1. Synhwyraidd-weithredol (0–2 oed)
  2. Cynweithredol (2– 7 oed)
  3. Gweithredu diriaethol (7–11 oed)
  4. Gweithredu ffurfiol (11–15 oed)
Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigur 5 Camau datblygu gwybyddol Piaget

Mae'r rhain yn gamau cymhleth o ddatblygiad gwybyddol ac os byddwch yn dewis astudio datblygiad plentyn yn fanylach, byddwch yn dysgu mwy amdanynt. Isod ceir crynodeb o brif nodweddion pob cam datblygu. Roedd Piaget yn dadlau bod pob plentyn yn dilyn y camau hyn yn eu trefn.

Cam 1: Synhwyraidd-weithredol (0–2 oed). Mae'r plentyn yn dysgu drwy wneud ac mae hyn yn cynnwys edrych, cyffwrdd a sugno. Mae ganddynt ddealltwriaeth sylfaenol o gydberthnasau achos ac effaith. Mae sefydlogrwydd gwrthrych yn ymddangos oddeutu 9 mis.

Cam 2: Cynweithredol (2–oed). Mae'r plentyn yn defnyddio iaith a symbolau, yn cynnwys llythrennau a rhifau. Mae myfïaeth yn amlwg. Mae sgwrsio yn nodi diwedd y cyfnod cynweithredol a dechrau gweithredoedd diriaethol.

Cam 3: Gweithredu diriaethol (7–11 oed). Gall y plentyn ddatblygu sgiliau cadwraeth, trefnu cyfresol a dealltwriaeth fwy aeddfed o gydberthnasau achos ac effaith.

Cam 4: Gweithredu ffurfiol (glasoed–oedolion). Gall yr unigolyn ddangos meddwl haniaethol yn cynnwys rhesymeg, rhesymu diddwythol, cymharu a dosbarthu.

(addaswyd o CliffsNotes, 2015)

Mewn cyferbyniad â chamau datblygu Piaget sy'n seiliedig ar fioleg, roedd Lev Vygotsky, y Rwsiad, yn ystyried bod ffactorau amgylcheddol, fel datblygiad cymdeithasol plentyn, yn bwysicach o ran ysgogi a chefnogi datblygiad. Gelwir hyn yn ddamcaniaeth lluniadaeth gymdeithasol neu ddamcaniaeth gymdeithasol-ddiwylliannol.

Mae Dafydd a Siân wedi dod yn ymwybodol drwy astudiaethau Siân bod damcaniaeth Vygotsky yn sail i'r hyn a wnânt wrth weithio gartref gyda Tomos ar yr ymarferion a bennwyd gan y therapydd lleferydd ac iaith.

I roi un enghraifft, gall Tomos wneud y synau 'sss' a 'shh' ond mae'n drysu rhyngddynt, felly mae'r therapydd lleferydd wedi gofyn iddynt fodelu'r synau y maent am i Tomos ei wneud drwy roi cwlwm tafod: 'Smelly shoes and socks shock sisters' ac yna ei annog i'w copïo.

O fewn dim ond ychydig ddiwrnodau, mae ei ynganu wedi gwella ac mae Tomos wedi gweld bod y gweithgaredd – y profiad dysgu – yn hwyl, mae'n debyg am ei fod yn meddwl ei fod yn ddoniol, cael chwaer i'w dychryn ag esgidiau a hosanau drewllyd.

Mae Vygotsky, fel Piaget, wedi dadlau bod plant yn dysgu drwy chwarae. Fodd bynnag, pwysleisiodd bwysigrwydd ymgysylltu â phlant eraill drwy chwarae. Gall Siân a Dafydd weld y graddau y mae Mali wedi elwa ar gael Tomos yno i wylio a dysgu ganddo.

Er eu bod yn gwybod bod rhesymau posibl eraill dros y gwahaniaethau rhwng y ddau blentyn, maent wedi sylwi bod Mali wedi cyrraedd y cerrig milltir o gropian a cheisio bwydo ei hun, er enghraifft, yn gynt o lawer na Tomos. Maent hefyd wedi sylwi bod Tomos yn ceisio dysgu pethau iddi, fel sut i bentyrru'r brics o'i throli brics, nawr bod ganddi lawer mwy o reolaeth dros yr hyn y gall ei wneud gyda'i chorff.

2 Rhieni fel partneriaid

Mae rhieni'n chwarae rôl hanfodol yn natblygiad eu plant ac, yng nghymdeithas heddiw, mae cynifer o ddulliau gwahanol o rianta ag sydd o fathau o deulu. Os ydych yn rhiant, efallai eich bod wedi meddwl yn ddwys ynghylch penderfyniadau a wnaethoch a'r effaith a gawsant ar eich plentyn. O fewn teuluoedd, gall eich dull o rianta fod yn wahanol i ddull eich partner, neu eich rhieni eich hun. Er mwyn i ymarferwyr fod yn fyfyriol, mae'n bwysig eu bod yn meddwl am eu dull eu hunain o rianta neu o ryngweithio gyda phlant.

Wrth ddarllen am gydberthynas gynnar Tomos a Mali yn 'Pwysigrwydd y blynyddoedd cynnar', efallai y byddwch yn cofio bod gan Ceri, y nain, ffordd fwy ymlacedig o drin y plant. Fel sy'n gyffredin gyda neiniau a theidiau, roedd Ceri yn defnyddio dull gweithredu 'meddal', sef 'does dim rhaid i chi ei wneud os nad ydych yn dymuno', ond roedd Siân a Dafydd yn ceisio sefydlu dull gweithredu mwy disgybledig.

Mae seicolegwyr datblygiadol wedi cymryd diddordeb ers tro yn y ffordd y mae dulliau rhianta yn effeithio ar ddatblygiad plentyn. Mae'n anodd iawn dod o hyd i gysylltiadau achos ac effaith gwirioneddol rhwng camau gweithredu penodol rhieni ac ymddygiad plant yn ddiweddarach. Gall rhai plant a gaiff eu magu mewn amgylcheddau hynod wahanol dyfu i fyny a chael personoliaethau tebyg iawn. Neu, gall plant sy'n rhannu cartref ac sy'n cael eu magu yn yr un amgylchedd dyfu i fyny a chael personoliaethau gwahanol iawn. Er gwaethaf yr heriau hyn, mae ymchwilwyr wedi datgelu cysylltiadau pendant rhwng dulliau rhianta a'r effeithiau a gaiff y dulliau hyn ar blant.

Ar ddechrau'r 1960au, cynhaliodd y seicolegydd Diana Baumrind astudiaeth ar fwy na 100 o blant cyn oedran ysgol. Nododd bedwar dimensiwn pwysig o rianta:

  • strategaethau disgyblu
  • cynhesrwydd a magwraeth
  • dulliau cyfathrebu
  • disgwyliadau o ran aeddfedrwydd a rheolaeth.
(Baumrind, 1967)

Yn seiliedig ar y dimensiynau hyn, awgrymodd Baumrind bod y rhan fwyaf o rieni'n defnyddio un o dri dull rhianta, fel y dangosir yn Nhabl 1.

Tabl 1 Dulliau rhianta yn seiliedig ar bedwar dimensiwn Baumrind o rianta

Dull rhiantaYmddygiad rhiantaEffaith bosibl ar y plentynYmadroddion y gallai rhiant eu defnyddio
Awdurdodus

Disgyblaeth lem

Disgwylir i'r plentyn ddilyn rheolau

Dim cyfle i'r plentyn drafod

Anfodlon

Tawedog

Drwgdybus

Gwrthryfelgar (wrth iddo fynd yn hŷn)

‘Na, elli di ddim …’

'Am fy mod i'n dweud, dyna pam'

'Gwna fe – NAWR!'

Goddefol

Rhoi rhai gorchmynion a chael rhai rheolau neu ffiniau

Gallant gymryd amser i egluro eu penderfyniadau i'r plentyn

Gadael i'r plentyn reoli ei ymddygiad ei hun

Bod yn ffrind yn hytrach na rhiant i'r plentyn

Gall yr effaith fod yn gadarnhaol ac yn negyddol

Ansicr

Awdurdodol a hunanganolog

Diffyg cyfrifoldeb personol

Sgiliau cymdeithasol gwell

Credu ynddo'i hun

‘Ti biau'r dewis. Os mai dyna wyt ti wir am ei wneud, wedyn …’

'Y rheswm pam rwyf am i ti ... yw ...'

‘Wel, os nad wyt ti'n teimlo fel gwneud …’

Awdurdodol

Cymryd rheolaeth dros ymddygiad ei blentyn ond hefyd ei annog i fod yn unigolyn

Gwrando ar yr hyn sydd gan y plentyn i'w ddweud

Gosod safonau clir a chosbau di-gosb

Lefelau uchel o hunan-barch

Cyflawni'n well yn yr ysgol

Annibynnol

Bod yn gymdeithasol fedrus

'Dyma fy marn i ... ond beth yw dy farn di?'

'Mae'n ddrwg gen i, ond gwnaethon ni gytuno ...'

Gweithgaredd 4

Timing: Caniatewch tua 20 munud

Edrychwch eto ar dri dull rhianta Baumrind (Tabl 1) ac yna ystyriwch ddulliau rhianta Dafydd, Siân a Ceri, y nain. Pa ddull rhianta a ddefnyddiodd bob person?

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Sylwadau

Mae gan y nain, Ceri, ddull mwy goddefol o rianta, ond mae Dafydd a Siân yn daer yn hytrach nag yn awdurdodus. Nid yw'r un ohonynt yn ddisgyblwyr llym, nac yn oddefol – nid ydynt yn gadael i'w plant osod eu ffiniau eu hunain na rheoli eu hymddygiad eu hunain.

Ym mhedwar dimensiwn Baumrind o arddulliau rhianta, byddai'n well gan y rhan fwyaf o rieni heddiw fod yn daer nac yn awdurdodus. Wrth drafod damcaniaeth ymlyniad, gwelsoch pa mor bwysig yw cydberthynas plentyn â'i rieni yn ystod y blynyddoedd cynnar a sut y gall hyn effeithio ar ddatblygiad y plentyn yn y dyfodol.

Fel cynorthwyydd addysgu, neu weithiwr cymorth dysgu, mae angen i chi gydnabod pwysigrwydd rhieni fel partneriaid. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, ewch i Rhieni fel partneriaid (cwrs OpenLearn). Yma, byddwch yn gweld y gall partneriaeth fod ar sawl ffurf. Byddwch yn gweld nad yw'r gydberthynas rhwng rhieni ac ymarferwyr yn syml bob amser a bod rhai rhieni yn betrusgar neu y gall gweithwyr proffesiynol fod yn amddiffynnol pan gânt eu herio.

Gweithgaredd 5

Timing: Caniatewch tua 10 munud

Darllenwch Adran 1.2.3 o'r cwrs Rhieni fel partneriaid a cheisiwch gael gwybod pam bod cydweithio mor bwysig.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Sylwadau

Mae cydweithredu â rhieni yn bwysig i hunaniaeth, hunan-barch a lles seicolegol plant. Mae hyn ynddo'i hun yn rheswm cymhellol ar gyfer partneriaeth agos.

3 Cyfnodau pontio plant

Ystyr 'pontio' yw trosglwyddo o un lle, cyflwr, ffurf, cam neu weithgaredd, i un arall. Mae pob un ohonom yn profi gwahanol fathau o gyfnodau pontio bob dydd a thrwy gydol ein bywydau. Gwahaniaethodd Vogler et al. (2008) rhwng cyfnodau pontio llorweddol a fertigol drwy eu cysylltu â gweithgareddau penodol. Mae cyfnodau pontio llorweddol yn digwydd bob dydd neu'n rheolaidd, ac, fel arfer, maent yn cyfeirio at symud neu newid mewn trefn. Mae cyfnodau pontio llorweddol yn disgrifio gweithgareddau fel plant yn mynd o'r ystafell ddosbarth i'r iard chwarae (symud) neu'n cymryd rhan yn y mabolgampau blynyddol (newid mewn trefn).

I'r gwrthwyneb, mae cyfnodau pontio fertigol yn llawer mwy arwyddocaol ac maent yn gysylltiedig â digwyddiadau penodol nad ydynt yn digwydd yn rheolaidd. Disgrifir dechrau yn yr ysgol fel cyfnod pontio fertigol ac, yn ddiddorol, yn aml, byddwn yn trafod plant yn symud 'i fyny' o'r cylch meithrin i'r ysgol gynradd ac yn symud 'i fyny' o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd. Mae rôl rhieni yn arbennig o bwysig yn y cyfnodau pontio fertigol y mae plant yn eu profi wrth symud 'i fyny' o un ysgol i un arall, ynghyd â rôl athrawon a chynorthwywyr addysgu.

‘Eto, yn aml, y cynorthwyydd addysgu sy'n gorfod delio ag ofnau plentyn am hyn gan fod ganddo fwy o amser i allu eistedd a thrafod ei bryderon ag ef.'

(Katie Harrison, Cynorthwyydd Addysgu, 2015)

Mae Vogler et al. (2008) yn trafod trydydd math o gyfnod pontio o'r enw cyfnod pontio sy'n gysylltiedig ag addysg. Mae hyn yn cyfeirio at y newidiadau llai ffurfiol ym mywydau ac arferion plant sy'n digwydd y tu allan i leoliadau sefydliadol. Gall y newidiadau hyn ddigwydd mewn bywyd bob dydd y tu allan i'r ysgol ond gallant effeithio ar fywydau a llesiant plant a'u llywio; byddai ysgariad yn enghraifft o'r math hwn o newid oherwydd efallai bod yn rhaid i'r plentyn symud o fyw gydag un rhiant i fyw gydag un arall. Ar gyfer llawer o blant heddiw, gall cyfansoddiad eu bywyd teuluol newid sawl gwaith drwy gydol eu plentyndod ac efallai y byddant yn cael cyfnodau pontio pan fyddant yn symud rhwng cartrefi wrth ymweld â rhieni a byw gyda llys frodyr a chwiorydd.

Mae amseriad cyfnodau pontio fertigol, fel dechrau yn yr ysgol yn 5 oed a symud i fyny i'r ysgol uwchradd yn 11 oed, yn seiliedig ar ddatblygiad plant a chawsant eu dylanwadu'n benodol gan waith Jean Piaget. Gwnaeth ei gred fod pob plentyn, ar yr un pryd fwy neu lai, yn mynd drwy bedwar cam datblygu gwybyddol ddylanwadu'n gryf ar gysyniadau o pryd roedd plant yn 'barod ar gyfer yr ysgol' er enghraifft, ac felly llywiodd amseriad cyfnodau pontio fertigol yn y system addysg yn Lloegr.

Mae cyfnodau pontio yn digwydd i bob un ohonom drwy gydol ein bywydau. Mae rhai yn gyffredin i'r rhan fwyaf ohonom, fel dechrau yn yr ysgol neu ddod yn rhiant. Mae cyfnodau pontio arwyddocaol fel y rhain fel cerrig milltir yn ein bywydau – rydym yn pasio drwyddynt ac yn edrych yn ôl arnynt. Pan edrychwn yn ôl arnynt, byddwn yn cofio sut roeddem yn teimlo ar y pryd a gall hyn effeithio ar sut rydym yn teimlo amdanom ein hunain a'n gallu i ymdopi â sefyllfaoedd newydd, fel dechrau mewn swydd newydd neu ddod yn aelod o grŵp cymunedol lleol.

3.1 O'r cartref i'r ysgol

Mae'n debyg bod pob un ohonom yn cofio ein diwrnod cyntaf yn yr ysgol gynradd yn glir. Mae'r astudiaeth achos isod yn eich cyflwyno i Lowri a'i hatgofion o'i diwrnod cyntaf yn yr ysgol.

Astudiaeth achos: diwrnod cyntaf Lowri yn yr ysgol gynradd

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigur 6 Lowri yn ei gwisg ysgol newydd

Mae Lowri yn 11 oed. Mae'n edrych yn ôl ar ei phrofiadau o'i chyfnod pontio pwysig cyntaf o'r cartref i'r ysgol. Roedd hwn yn gyfnod pontio llorweddol i ddechrau, gan ei fod yn cynnwys symud ffisegol yn llythrennol o un lle i'r llall. Ond roedd hefyd yn gyfnod pontio fertigol, gan ei fod yn cynnwys newid profiad, symud ‘i fyny' i'r ysgol gynradd.

Yn Ffigur 7, mae Lowri yn cofio ei diwrnod cyntaf yn yr ysgol a'r teimladau a gafodd ynghylch cael ei gadael mewn lleoliad dieithr. Chwaraeodd ei hathro rôl bwysig wrth wneud y cyfnod pontio yn haws i Lowri. Mae'r ffaith ei bod yn cofio'r diwrnod yn fanwl yn dangos pa mor gofiadwy oedd y profiad i blentyn bach 4 oed.

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigur 7 Stori Lowri

I blant bach, mae'n debyg y bydd y cyfnod pontio fertigol o'r cartref i'r ysgol hefyd yn golygu newid gofalwr, fel newid o fam i athro. I blant hŷn, bydd symud o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd hefyd yn golygu newid arferion, fel gorfod symud o amgylch yr ysgol i fynd i ystafelloedd dosbarth gwahanol ar gyfer yr holl bynciau gwahanol a gaiff eu hastudio. I lawer o blant, gall symud i ysgol uwchradd olygu newid grŵp ffrindiau hefyd, oherwydd, yn aml, caiff plant eu hanfon i ysgolion gwahanol yn dibynnu ar ddalgylchoedd neu ddewis rhieni.

Mae Gweithgaredd 6 yn gofyn i chi nodi cyfnodau pontio yn eich bywyd cynnar a myfyrio arnynt.

Gweithgaredd 6

Timing: Caniatewch tua 20 munud
By signing in and enrolling on this course you can view and complete all activities within the course, track your progress in My OpenLearn Create. and when you have completed a course, you can download and print a free Statement of Participation - which you can use to demonstrate your learning.

3.2 O'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd

Mae storio Lowri yn parhau.

Astudiaeth achos: Cyfnod pontio Lowri o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd

Nawr bod Lowri yn 11 oed, mae ar fin cael cyfnod pontio o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd. Mae'n edrych ymlaen ond mae hefyd braidd yn bryderus. Aeth Lowri a'i mam, Carys, i'r digwyddiad gwybodaeth a gynhaliwyd yn ysgol Lowri. Yn ogystal ag athrawon a chynorthwywyr addysgu o'r ysgol gynradd, roedd y pennaeth gofal bugeiliol a phennaeth blwyddyn 7 o'r ysgol uwchradd yno hefyd.

Daeth yn amlwg bod cynorthwywyr addysgu yn yr ysgol gynradd yn cymryd rhan bwysig yn y broses o helpu disgyblion blwyddyn 6 a'u rhieni/gofalwyr yn ystod y cyfnod pontio. Mae gan lawer o blant gydberthnasau llai ffurfiol â'u cynorthwyydd addysgu o gymharu â'u hathro ac, yn aml, maent yn ei chael yn haws mynd atyn nhw na'r athro dosbarth pan fydd ganddynt bryder neu gwestiwn.

Gwelodd Lowri fod yr ysgol yn cydnabod bod y cyfnod pontio o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd yn garreg filltir fawr i ddisgyblion a'u rhieni. Felly mae'r ysgol yn defnyddio cynorthwywyr addysgu er mwyn gweithio ochr yn ochr â staff addysg mewn rôl gefnogol er mwyn sicrhau y rhoddir y wybodaeth gywir o ran y cyfnod pontio a hefyd er mwyn cynnig cymorth unigol i ddisgyblion yn ôl yr angen.

Mae gan Lowri gydberthynas dda â'r cynorthwyydd addysgu sy'n ei helpu yn ei dosbarth a rhoddodd hyn gysur iddi. Roedd Carys yn falch o weld y byddai'r cynorthwywyr addysgu hefyd yn rhoi cymorth i rieni/gofalwyr ar gais ond y byddent yn trosglwyddo pryderon i'r athro pe bai angen.

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigur 8 Lowri a Carys yn y digwyddiad gwybodaeth

Gwelodd Lowri fod ei hysgol uwchradd newydd yn bwriadu cynnal noson agored llawn gwybodaeth i ddisgyblion a'u rhieni/gofalwyr cyn y cyfnod pontio, ac y byddai staff o'r ysgol uwchradd yn dod i ymweld â disgyblion yn ystod diwrnod yr ysgol gynradd. Byddai'r staff a fyddai'n ymweld yn athrawon blwyddyn 7 felly byddai cyfarfod cyntaf Lowri â'i hathro dosbarth newydd mewn amgylchedd cyfarwydd. Teimlai Lowri y byddai'n gallu gofyn unrhyw gwestiynau o 'ddiogelwch' ei hystafell ddosbarth ei hun gyda'i hathro a'i chynorthwyydd addysgu yn bresennol.

Bydd disgyblion hefyd yn mynd i'r ysgol uwchradd ar ddau ymweliad yn ystod y diwrnod ysgol a bydd cynorthwyydd addysgu Lowri wrth law i gynnig help llaw i unrhyw ddisgybl ond yn enwedig y rheini sy'n ymddangos yn nerfus neu'n bryderus. Bydd staff yr ysgol gynradd yn cyfathrebu â'u cydweithwyr yn yr ysgol uwchradd a'r rhieni/gofalwyr yn ôl yr angen er mwyn sicrhau bod y cyfnod pontio mor ddidrafferth â phosibl.

Roedd yn gysur i Carys wybod bod disgyblion yn cael eu gwahodd i ymweld â'r ysgol uwchradd am ddiwrnod ychwanegol er mwyn eu helpu i ymgyfarwyddo a gwneud y cyfnod pontio'n haws – mae hyn yn rhoi ychydig mwy o amser i staff yr ysgol uwchradd ddod i'w hadnabod ac i'r disgyblion deimlo'n gyfforddus ynghylch y newidiadau sydd ar droed.

3.3 Y cyfnod pontio i'r ysgol uwchradd

Mae'n gymharol gyffredin i blant boeni am y cyfnod pontio i'r ysgol uwchradd. Mae rhai plant yn mynd drwy'r cyfnod pontio hwn 'ar eu pen eu hunain' heb help eu ffrindiau na'u rhieni. Gall plant boeni ynghylch yr hyn y mae mynd i'r ysgol uwchradd yn ei olygu. Byddant yn meddwl a fydd y gwaith ysgol yn llawer anoddach a ph'un a fyddant yn gallu ymdopi. Mae'n bwysig i'r ysgolion a'r athrawon gydnabod y pryderon hyn a helpu'r plant cyn ac ar ôl y cyfnod pontio.

Bydd llawer o ysgolion uwchradd yn cynnwys gweithgareddau chwaraeon a gweithgareddau cymdeithasol yn ystod yr wythnosau cynnar pan fydd disgyblion newydd yn ymuno a bydd llawer o blant yn cael budd o hyn. Pan fyddant wedi setlo, bydd plant blwyddyn 7 yn eithaf hoff o gael eu trin yn fwy fel oedolyn ac yn llai fel plentyn yn amgylchedd yr ysgol uwchradd. Mae'n ymddangos bod cymorth gan rieni/gofalwyr, disgyblion eraill, athrawon a rhaglen o weithgareddau cymdeithasol benodedig yn ffactorau allweddol ar gyfer cyfnod pontio llwyddiannus.

Mae'n ymddangos bod y rolau a chwaraeir gan oedolion a chyfoedion yn ddylanwadol o ran creu cyfnod pontio llwyddiannus. Yn gynharach yn yr adran hon, cawsoch eich cyflwyno i syniadau Lev Vygotsky a ymchwiliodd i bwysigrwydd rhyngweithio neu gymorth cymdeithasol gyda rhieni neu ofalwyr ac aeth ymlaen i ddisgrifio hyn o fewn lluniadaeth gymdeithasol neu ddamcaniaeth gymdeithasol-ddiwylliannol.

Mae lluniadaeth gymdeithasol neu ddamcaniaeth gymdeithasol-ddiwylliannol yn rhoi pwyslais sylweddol ar sut mae'r diwylliant rydym yn byw ynddo a'r bobl rydym yn rhyngweithio â nhw (ein hamgylchedd) yn dylanwadu ar sut rydym yn dysgu, yn ymddwyn ac yn addasu i sefyllfaoedd newydd. Barn Vygotsky oedd bod plant yn ymgysylltu'n weithredol â'u hamgylchedd eu hunain a thrwy hynny yn dysgu sut i addasu i sefyllfaoedd newydd.

Disgrifiodd Vogler et al. (2008) sut y gellir deall cyfnodau pontio fel eiliadau allweddol ym mhroses dysgu cymdeithasol-ddiwylliannol lle mae plant yn newid eu hymddygiad yn ôl dealltwriaeth newydd sy'n cael ei meithrin drwy ryngweithio cymdeithasol â'u hamgylchedd. Yr hyn sy'n bwysig yma yw'r mater allweddol o sicrhau bod plant yn ymgysylltu neu'n rhyngweithio â'i gilydd. Drwy wneud hynny, mae'n awgrymu proses ddwyffordd a'r ffaith bod plant yn barod i addasu i'r sefyllfa newydd.

Mae paratoi plant i fod yn barod ar gyfer hyn yn rôl bwysig i ysgolion yn ogystal â rhieni. Mae'r rhan fwyaf o blant yn ymgymryd â'r broses bontio hon yn llwyddiannus. Ond beth sy'n digwydd i blant swil ac amharod iawn, a'r rhai y mae'r ysgol yn newydd iddynt, yn ogystal â'r diwylliant lle y cynhelir yr addysg?

Mae symud i'r ysgol uwchradd yn golygu nifer o newidiadau i bob plentyn a, heb os, gall y cyfnod pontio hwn fod yn llawn straen i blant a'u rhieni. O safbwynt plentyn, gall symud o'r ysgol gynradd olygu colli grwpiau o ffrindiau, canfod eu ffordd o amgylch ysgol mwy o faint a'r ffaith nad hwy yw'r hynaf yn eu hysgol mwyach.

I'r rhan fwyaf o blant, ar ôl treulio dwy i dair wythnos yn eu hamgylchedd newydd, byddant yn setlo'n well ac yn fwy hyderus ynghylch bywyd mewn ysgol uwchradd. I rai plant, gall gymryd dau i dri thymor neu hwy iddynt setlo mewn ysgol uwchradd!

Felly beth sy'n wahanol am ysgol uwchradd a pha anawsterau all godi yn ystod y cyfnod pontio o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd? Mae Tabl 2 yn nodi rhai o'r prif wahaniaethau rhwng yr ysgol gynradd a'r ysgol uwchradd a pham y gall y cyfnod pontio hwn fod yn anodd i rai plant.

Tabl 2 Gwahaniaethau ac anawsterau yn y cyfnod pontio rhwng yr ysgol gynradd a'r ysgol uwchradd

Gwahaniaethau rhwng yr ysgol gynradd a'r ysgol uwchraddAnawsterau yn y cyfnod pontio rhwng yr ysgol gynradd a'r ysgol uwchradd
Athrawon pwnc benodol yn lle athrawon dosbarthDysgu llawer o enwau athrawon, eu disgwyliadau a'u dulliau addysgu
Y disgyblion yn defnyddio locer yn lle cael desgLlai o oruchwylio disgyblion amser egwyl gan athrawon
Teithio'n annibynnol i'r ysgolCanfod eu ffordd o amgylch ysgol fwy o lawer

Gweithgaredd 7

Timing: Caniatewch tua 20 munud

Ar ôl edrych ar Dabl 2, ceisiwch feddwl am fwy o wahaniaethau ac anawsterau. Gallech ddefnyddio eich profiad eich hun o symud i'r ysgol uwchradd neu brofiad eich mab neu ferch neu berthynas arall.

Gwnewch nodiadau cyn darllen ein sylwadau.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).
Sylwadau

Nid yw pob plentyn yn symud ar yr un pryd i ysgolion uwchradd. Mae rhai awdurdodau lleol yn gweithredu system ysgol ganol y mae plant yn ei mynychu yn 10 oed, ond gall y cyfnod pontio o'r ysgol gynradd fod yn llawn straen i blant, ni waeth sut y caiff yr ysgolion eu rheoli o fewn awdurdodau lleol.

Bydd plant sydd wedi arfer â bod ymysg yr hynaf yn eu hysgol gynradd bellach yn 'bysgod bach mewn pwll mawr'. Mae gorfod cofio mynd â llyfrau i wersi a chyflwyno gwaith cartref, efallai ar silffoedd wrth ymyl yr ystafell staff, i gyd yn bethau y mae'n rhaid i newydd-ddyfodiaid i ysgol uwchradd ddysgu dod i arfer â nhw. Efallai y byddant yn cael eu rhoi mewn dosbarthiadau wedi'u 'ffrydio' neu eu 'setio' ac felly ni fydd ganddynt yr un grŵp o ffrindiau dosbarth bob amser. Ac mae cwrdd â disgybl chweched dosbarth tal, aeddfed a all fod yn swyddog dosbarth arnynt yn golygu dod i delerau â'u 'lle' yn eu hamgylchedd newydd.

Bydd y rhan fwyaf o gyfnodau pontio yn mynd rhagddynt yn ddisylw ond gall rhai effeithio'n sylweddol ar fywydau plant ac oedolion. Mae'r adran hon wedi diffinio tri math o gyfnod pontio ac wedi ystyried cyfnod pontio fertigol yn benodol. Mae wedi edrych ar y ffordd orau o gefnogi cyfnodau pontio plant o'r cartref i'r ysgol a rhwng ysgolion ac wedi nodi ffactorau allweddol. Mae wedi lleoli'r broses o symud o ysgol gynradd i ysgol uwchradd o fewn cyd-destun cymdeithasol-ddiwylliannol drwy gydnabod dylanwad rhieni, gofalwyr ac unigolion arwyddocaol eraill, fel cynorthwywyr addysgu, ar allu plentyn i ymdopi â newid. Mae'r cyfnod pontio o blentyndod i fod yn oedolyn yn un y mae pob un ohonom yn ei wynebu a gellir cysylltu blynyddoedd glaslencyndod â chyfnodau pontio eraill i waith, coleg neu brifysgol.

Yr hyn rydych wedi'i ddysgu yn yr adran hon

  • Rhai cysyniadau a damcaniaethau pwysig yn natblygiad plant. Gan ddechrau o'r blynyddoedd cynnar, gwnaethoch edrych ar bwysigrwydd ymlyniad diogel. Yn y Prawf Sefyllfa Ryfedd, gwnaethoch weld ei bod yn bosibl nad yw rhai plant yn creu ymlyniad diogel am fod pethau wedi tarfu ar eu bywydau. Dilynwyd y Prawf Sefyllfa Ryfedd gan gyflwyniad byr i John Bowlby ar ddamcaniaeth ymlyniad.
  • Safbwyntiau Jean Piaget. Roedd yn credu y gall plant fynd drwy bedwar cam datblygu ac mae hyn yn seiliedig ar fioleg. I'r gwrthwyneb, datblygodd y seicolegydd o Rwsia, Lev Vygotsky ddamcaniaeth lluniadaeth gymdeithasol neu ddamcaniaeth gymdeithasol-ddiwylliannol, a oedd yn dadlau bod ffactorau cymdeithasol ac amgylcheddol yn bwysicach na bioleg yn natblygiad plentyn.
  • Pwysigrwydd rhieni fel partneriaid, yn ogystal â dulliau gwahanol o rianta, drwy waith Diana Baumrind. Mae cynorthwywyr addysgu yn cydnabod pwysigrwydd gweithio'n agos gyda rhieni ac y gall y gydberthynas hon fod ar sawl ffurf ac y gall fod yn heriol yn ogystal â chefnogol.
  • Cyfnodau pontio a sut y gall cyfnodau llorweddol, cyfnodau fertigol a chyfnodau sy'n gysylltiedig ag addysg ein helpu i ddeall pwysigrwydd y symudiadau hyn o un lleoliad i un arall. Gwnaethoch hefyd edrych ar rai o'r materion a wynebir gan blant sy'n mynd drwy'r cyfnodau pontio hyn.

Cwis Adran 1

Da iawn; rydych bellach wedi cyrraedd diwedd Adran 1 o Cefnogi datblygiad plant, ac mae'n bryd rhoi cynnig ar y cwestiynau asesu. Mae hyn wedi'i gynllunio i fod yn weithgaredd llawn hwyl er mwyn helpu i atgyfnerthu eich dysgu.

Dim ond pum cwestiwn a geir, ac os byddwch yn cael o leiaf bedwar ateb yn gywir byddwch yn pasio'r cwis.

Os ydych yn astudio'r cwrs hwn gan ddefnyddio un o'r fformatau amgen, nodwch y bydd angen i chi fynd ar-lein er mwyn rhoi cynnig ar y cwis hwn.

Rwyf wedi gorffen yr adran hon. Beth nesaf?

Nawr, gallwch ddewis symud ymlaen i Adran 2, Annog plant i ddarllen, neu i un o'r adrannau eraill.

Os byddwch o'r farn eich bod bellach wedi cael beth sydd ei angen arnoch o'r cwrs ac nad ydych am roi cynnig ar y cwis, ewch i'r adran Datblygu'r hyn rwyf wedi'i ddysgu ymhellach. Yno, gallwch fyfyrio ar beth rydych wedi'i ddysgu a chael awgrymiadau o gyfleoedd dysgu pellach.

Byddem wrth ein boddau yn cael gwybod beth oedd eich barn ar y cwrs a sut rydych yn bwriadu defnyddio beth rydych wedi'i ddysgu. Mae eich adborth yn ddienw a bydd yn ein helpu i wella’r cyrsiau rydym yn eu cynnig.

Cyfeiriadau

Baumrind, D. (1967) ‘Child-care practices anteceding three patterns of preschool behavior’, Genetic Psychology Monographs, cyf. 75, tt. 43–88.

CliffsNotes (2015) Piaget’s Model of Cognitive Development [ar-lein]. Ar gael yn http://www.cliffsnotes.com/ study-guides/ sociology/ socialization/ piagets-model-of-cognitive-development (cyrchwyd 29 Ionawr 2016])

Cole, M. (1998) ‘Culture in development’ yn Woodhead, M., Faulkner, D. a Routledge mewn cydweithrediad â'r Brifysgol Agored.

David, T. (2004) ‘Young children’s social and emotional development’ yn Maynard, T. a Tomos, N. (gol) An Introduction to Early Childhood Studies, Llundain, Sage Publications Ltd.

Vogler, P., Crivello, G. a Woodhead, M. (2008) Early Childhood Transitions Research: A Review of Concepts, Theory and Practice, Yr Hag, Sefydliad Bernard van Leer.

Cydnabyddiaethau

Ysgrifennwyd y cwrs hwn am ddim gan Isobel Shelton a Sue McKeogh (tiwtoriaid staff yn Y Brifysgol Agored). Gwnaed cyfraniadau gan Katie Harrison (athro ac aelod o Undeb ATL).

Heblaw am ddeunyddiau gan drydydd partïon a deunyddiau a nodwyd fel arall (gweler y telerau ac amodau), mae'r cynnwys hwn ar gael o dan Drwydded ShareALike-Anfasnachol-Priodoliad Creative Commons 4.0.

Mae'r deunydd a gaiff ei gydnabod isod yn Berchnogol ac fe'i defnyddir dan drwydded (nid yw'n ddarostyngedig i Drwydded Creative Commons). Rydym yn ddiolchgar iawn i'r ffynonellau canlynol am roi caniatâd i ni atgynhyrchu deunydd yn y cwrs am ddim hwn:

Gwnaed pob ymdrech i gysylltu â pherchenogion hawlfreintiau. Os byddwn wedi hepgor unrhyw ffynonellau yn anfwriadol, bydd y cyhoeddwyr yn barod i wneud y trefniadau angenrheidiol ar y cyfle cyntaf.

Ffigurau

Ffigur 1: © Agelika Schwarz/iStockphoto.com; © Elena Ellisseeva/iStockphoto.com

Ffigur 2: © Y Brifysgol Agored

Ffigur 3: © Y Brifysgol Agored

Ffigur 4: © ddim yn hysbys

Ffigur 5: O'r chwith i'r dde: © PeopleImages/iStockphoto.com, Shapecharge/iStockphoto.com, ImagePhotography/iStockphoto.com, Sebra 1/iStockphoto.com

Ffigur 6: © Y Brifysgol Agored

Ffigur 7: © Y Brifysgol Agored

Ffigur 8: © Y Brifysgol Agored

Fideo

Gweithgaredd 3

Y Sefyllfa Ryfedd - trawsgrifiad Mary Ainsworth: https://www.youtube.com/ watch?v=QTsewNrHUHU#t=16 thibs44