Annog Darllen

Cyflwyniad

Mae Annog darllen yn gyflwyniad cyffredinol i rai agweddau pwysig ar sut mae plant yn datblygu eu sgiliau llythrennedd a darllen.

Ei nod yw codi eich ymwybyddiaeth o rai o'r prif faterion o ran:

  • Sut mae plant yn dysgu sut i ddarllen
  • Sut y gallwch chi fel cynorthwyydd addysgu annog plant i fwynhau darllen a gwella eu sgiliau llythrennedd.

Mae pawb am i blant fwynhau darllen a gall llawer ohonom gofio ein hoff lyfr o'n plentyndod ein hunain.

Mae mentrau gan Gyngor Llyfrau Cymru (http://www.cllc.org.uk [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ) fel Her Darllen yr Haf a chyfres llyfrau Stori Sydyn yn pwysleisio buddiannau cymorth darllen ar gam cynnar.

Dolenni i ragor o wybodaeth / prosiectau perthnasol er mwyn helpu i hyrwyddo darllen er pleser

Sefydliadau sydd yn annog darllen er pleser

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Rhaglen Llythrennedd Genedlaethol ym mis Mai 2012, gan ei disgrifio fel rhaglen genedlaethol i wella safonau llythrennedd yn ein hysgolion gan nodi'r camau gweithredu y mae angen i Lywodraeth Cymru a'i phartneriaid eu cymryd er mwyn sicrhau newid sylweddol mewn safonau llythrennedd dros y pum mlynedd nesaf. Yn ei ddatganiad, dywedodd y Gweinidog y byddai angen sicrhau bod pob 'ysgol yng Nghymru yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau llythrennedd'.

Yn ogystal â rhieni, gall athrawon, cynorthwywyr addysgu a'r amryw o weithwyr cymorth dysgu eraill hefyd gynnig y cymorth cynnar hanfodol hwn. Yn aml, bydd cynorthwywyr addysgu sy'n gweithio mewn cydberthynas un i un gyda phlentyn, mewn sefyllfa well o lawer i ddarllen gydag ef neu wrando arno'n darllen.

Mae'r adran hon yn cynnwys tri phwnc:

  1. Babanod a'r blynyddoedd cynnar
  2. Symud o'r blynyddoedd cynnar i ysgol gynradd
  3. Bechgyn, merched a darllen.

Maent yn cwmpasu camau gwahanol datblygiad plant a rhai o'r ffyrdd y gallwch annog darllen a llythrennedd ar bob un o'r camau hyn, o'r blynyddoedd cynnar i bobl ifanc mewn ysgolion uwchradd.