Ffyrdd Newydd o Annog Plant i Ddarllen

Gallwn annog plant i ddarllen er mwyn adlewyrchu'r byd llawn technoleg gwybodaeth a chyfathrebu a geir heddiw.

Mae technolegau digidol newydd wedi cyflwyno cyfleoedd cyffrous i blant o bob oed, a gellir lawrlwytho llyfrau digidol o apiau ar gyfrifiaduron a llechi.

Gall apiau cyffrous ysgogi rhieni a phlant i ryngweithio wrth ddarllen a rhannu llyfrau ar-lein. Fodd bynnag, nid yw pawb yn cydnabod buddiannau'r technolegau newydd hyn ac mae gan rai rhieni bryderon bod eu plentyn yn treulio gormod o amser ar gyfrifiadur yn lle darllen llyfr traddodiadol.

Fodd bynnag, ceir tystiolaeth bod llyfrau digidol yn cynnig ffyrdd amgen o ryngweithio ac ymgysylltu â phlant, rhieni ac athrawon, er bod peth dryswch ynghylch y rôl y gall llyfrau digidol ei chwarae wrth ddatblygu llythrennedd.

Nid yw llyfrau digidol bob amser yn cynnwys geirfa a gramadeg cyfoethog llyfrau wedi'u hargraffu, ac nid yw rhieni yn defnyddio cymaint o strategaethau darllen defnyddiol wrth rannu llyfrau digidol ond maent yn canolbwyntio mwy ar sgiliau TG. Er hyn, maent yn cynnig ffordd amgen gyffrous o ryngweithio ac ymgysylltu â darllenwyr, athrawon a rhieni. Gweler, er enghraifft:

Os oes gennych ddiddordeb yn y trafodaethau ynghylch plant a thechnolegau digidol a ph'un a ydynt yn beth da neu ddrwg, edrychwch ar  Childhood in the Digital Age, modiwl am ddim gan Y Brifysgol Agored ar FutureLearn (www.futurelearn.com).

2 Symud o'r blynyddoedd cynnar i ysgol gynradd

Sut y gwnaethoch chi ddysgu sut i ddarllen?