Bechgyn, merched a darllen

Yn yr astudiaeth achos ganlynol, mae Dewi a Harri yn efeilliaid 8 oed bywiog, ac mae ganddynt chwaer hŷn, Lowri.

Mae hi'n 11 oed ac yn ddarllenwraig frwd. Mae Carys, eu mam, yn awyddus i annog yr efeilliaid i ddarllen, ac mae'n gwybod pa mor bwysig ydyw i eistedd a darllen gyda nhw. Mae'n haws dweud na gwneud, nid dim ond y diffyg amser, ond hefyd am fod yr efeilliaid yn wahanol iawn.

Astudiaeth achos: Dewi a Harri yn dysgu sut i ddarllen

Pan fydd mewn hwyliau da, bydd Harri wrth ei fodd yn eistedd wrth ymyl Carys ac yn edrych ar lyfrau. Mae'n dechrau darllen yn eithaf rhugl ac mae'n mwynhau sillafu geiriau anghyfarwydd, fel y mae wedi cael ei addysgu i wneud yn yr ysgol. Ei hoff lyfr yw  Captain Underpants am ei fod yn gwneud iddo chwerthin. Mae hon yn adeg arbennig i'r ddau ohonynt ond mae Carys yn teimlo'n euog am Dewi am nad yw'n cael yr un sylw.

Mae Dewi yn gyndyn i ddarllen ac nid yw'n ymddangos bod ganddo lawer o ddiddordeb mewn llyfrau. Mae'n dweud bod darllen yn 'ddiflas' ac nid yw byth yn awyddus i ddadbacio ei gofnod darllen.

Mae athrawes y bechgyn, Miss Evans, wedi sicrhau Carys bod Dewi yn mwynhau amser cylch, sydd yn aml yn canolbwyntio ar ddarllen a llythrennedd.

Mae llawer o ysgolion cynradd yn defnyddio amser cylch lle mae'r ffocws yn fwy ar y plant na'r cwricwlwm. Bydd y dosbarth yn eistedd gyda'r athro mewn cylch a chaiff 'gemau' eu defnyddio er mwyn ennyn sgiliau cydweithredu, gwrando a siarad.

Ceir rhai rheolau cyffredinol ar gyfer amser cylch; er enghraifft:

  • Mae gan bawb yr hawl i gael ei glywed a dyletswydd i wrando.
  • Ni ddylai neb gael ei fychanu. I ddechrau, gellid cael rheol y dylai pob datganiad fod yn gadarnhaol.
  • Mae gan bawb yr hawl i ddewis peidio â chyfrannu.
  • Dylai popeth a ddywedir fod yn gyfrinachol oni chytunir fel arall.

Mae'n ffordd dda o ddatblygu cydberthnasau rhwng cyfoedion yn y dosbarth. Yn aml iawn, bydd cynorthwyydd addysgu hefyd yn cymryd rhan yn y gweithgaredd hwn a bydd yn rhoi esiampl o sgiliau gwrando i'r plant. Yn aml, bydd cynorthwywyr addysgu yn gosod eu hunain wrth ymyl neu'n agos at blant y gall fod angen iddynt gael cymorth ychwanegol i gael budd o amser cylch.

Ffigur 3 Dewi a Harri yn edrych ar lyfrau
Ffigur 4 Amser cylch

Mae Miss Evans yn defnyddio'r amser hwn i annog y plant i siarad am lyfrau y maent wedi'u darllen. Mae'r plant hefyd yn gwrando ar ei gilydd yn darllen yn y dosbarth, a elwir yn darllen gyda chyfoedion.

Mae'r gweithgareddau hyn wedi gwneud darllen yn fwy o weithgarwch cymdeithasol ac mae cyfoedion Dewi yn dechrau dylanwadu ar ei ddiddordeb mewn darllen. Mae Miss Evans hefyd wedi dweud wrth Carys fod a wnelo darllen â mwy na llyfrau a gall Dewi ddatblygu ei sgiliau darllen cystal ar y cyfrifiadur, gan ei bod yn ymddangos ei fod yn cael mwy o fwynhad o hynny.

Mae athro Dewi yn hyderus y bydd ei ddarllen yn datblygu oherwydd y rhyngweithio cymdeithasol â'i ffrindiau yn y dosbarth ac yn ystod amser cylch.

Mae Carys yn poeni ynghylch y gwahaniaeth rhwng datblygiad a chynnydd academaidd Harri a Dewi.

Mae Carys yn credu mai trwy ddealltwriaeth ddofn o anghenion a diddordebau Dewi y mae Miss Evans wedi gallu gwneud gwyrthiau. Ers bod yn ei dosbarth, mae agwedd Dewi tuag at fod yn yr ysgol yn llawer gwell. Gellir priodoli hyn hefyd i'r cymorth ychwanegol a gaiff Dewi yn yr ysgol er mwyn datblygu ei sgiliau darllen a'i ddiddordebau. Gwnaeth yr ysgol gynnwys Carys mewn trafodaethau am ddatblygiad parhaus Dewi gan godi pryderon y gallai fod ganddo anghenion addysgol arbennig.

Mae anghenion addysgol arbennig yn effeithio ar allu plentyn i ddysgu a gall hyn gynnwys ei ddarllen a'i ysgrifennu – er enghraifft, os oes ganddo ddyslecsia.

Mae Adran 4 o'r cwrs hwn yn edrych ar anghenion addysgol arbennig (AAA) ac anableddau. Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi astudio’r adran honno.

Sut y gwnaethoch chi ddysgu sut i ddarllen?

Y bwlch rhwng y rhywiau: gwir neu gau