3.3 Bod yn eiriolwr

Mae'r 'awgrymiadau defnyddiol' a roddir yn yr adborth i'r gweithgaredd blaenorol yn dangos pa mor bwysig yw sicrhau bod gan blant lais a'u bod mor annibynnol â phosibl. Fodd bynnag, mae angen i blant ag AAA gael cymorth. Gall cynorthwyydd addysgu gynnig y cymorth hwn drwy weithredu fel eiriolwr dros y plentyn.

Beth yw eiriolaeth?

Mae eiriolaeth yn broses o helpu a galluogi pobl i:

  • fynegi eu safbwyntiau
  • cael gafael ar wybodaeth a gwasanaethau
  • dysgu am opsiynau a gwneud penderfyniadau
  • diogelu eu hawliau.

Fel cynorthwyydd addysgu, efallai y byddwch yn gweithredu fel eiriolwr dros blentyn drwy gynrychioli buddiannau'r plentyn a siarad ar ei ran. Gall hyn olygu rhoi gwybod i'r athro dosbarth sut mae plentyn yn teimlo ynghylch strategaeth addysgu benodol os na all y plentyn ddweud wrth yr athro ei hun: 'Mae Elisha yn cael trafferth... / yn anhapus ynghylch...'

Gan ganolbwyntio mwy ar hawliau plant, gellir eu hannog i hunaneirioli a siarad drostynt eu hunain a nodi eu hanghenion eu hunain.

3.2 Cefnogi datblygiad cymdeithasol ac emosiynol plant

3.4 Cymorth effeithiol – sut y gallwch helpu?