6 Pa opsiynau sydd ar gael i mi?

Ni waeth ble fydd eich man cychwyn personol, mae'r graddau y gallwch lwyddo i gyrraedd eich nodau yn dibynnu'n rhannol ar eich gallu i nodi'r cyfleoedd sydd ar gael i chi a manteisio arnynt.

Byddwch nawr yn canolbwyntio ar archwilio cyfleoedd newydd a/neu'n ystyried manteisio ar rai sy'n bodoli eisoes. P'un a oes gennych ddiddordeb mewn gwaith â thâl neu waith gwirfoddol (neu'r ddau), mae angen i chi allu mapio'r opsiynau sydd ar gael a'u gwerthuso i weld pa rai a allai fod fwyaf addas i chi.