Yr hyn rydych wedi'i ddysgu yn y bloc hwn

  • Ym Mloc 2, rydych wedi cael y cyfle i ystyried y gwaith sydd o ddiddordeb i chi ymhellach, a sut y gallai meysydd ac opsiynau amrywiol gyfateb i'ch gwerthoedd a'ch amgylchiadau presennol.
  • Yn hytrach na bod gennych lai o gwestiynau nawr, efallai y byddwch yn canfod bod gennych fwy ohonynt. Mae hyn i'w ddisgwyl pan fyddwch yn dechrau archwilio eich opsiynau ar gyfer y dyfodol – dylid ei ystyried yn gam cadarnhaol yn y broses o gynllunio eich gyrfa.

Ym Mloc 3, byddwch yn dysgu sut i wneud penderfyniadau, pennu nodau realistig a chael cyngor ac arweiniad ymarferol ar sut i wneud cais am swyddi a llwyddo mewn cyfweliadau.

6.9 Rhwydweithio ar gyfryngau cymdeithasol