Mynd i'r prif gynnwys
Printable page generated Thursday, 28 March 2024, 8:07 AM
Use 'Print preview' to check the number of pages and printer settings.
Print functionality varies between browsers.
Unless otherwise stated, copyright © 2024 The Open University, all rights reserved.
Printable page generated Thursday, 28 March 2024, 8:07 AM

Sut y gwnes i gyrraedd yma?

Cyflwyniad

Pa mor dda rydych yn adnabod eich hun mewn gwirionedd? Bydd y bloc hwn yn eich helpu i feithrin eich hunanymwybyddiaeth ac ystyried eich bywyd drwy eich helpu i adolygu eich profiadau a nodi'r hyn rydych wedi'i ddysgu ohonynt. Mae eich gorffennol wedi eich llywio drwy eich cefndir teuluol, addysg a hyfforddiant, gwaith a gweithgareddau hamdden. Rydych wedi meithrin gwybodaeth a sgiliau o'ch profiadau – mwy nag a dybiwch fwy na thebyg – a byddwch wedi datblygu nodweddion a galluoedd sy'n eich helpu i ymdopi â sefyllfaoedd anodd ac ymateb i heriau gwahanol.

Mae'r gweithgareddau sy'n dilyn yn gofyn i chi feddwl am gyfres o gwestiynau i'ch helpu i adolygu eich sefyllfa bresennol. Maent yn cynnig ffyrdd gwahanol o ystyried sut berson ydych a'r hyn y gallwch ei wneud. Bob hyn a hyn, gofynnir i chi nodi eich atebion. Mae'r cwestiynau fel a ganlyn:

  • Pwy ydw i?
  • Pa rolau sydd gennyf mewn bywyd?
  • Pa brofiadau dysgu rwyf wedi'u cael?
  • Beth yw fy mhrif gyflawniadau?
  • Pa ffactorau sy'n fy helpu ac yn fy llesteirio?
  • Beth yw fy nghryfderau, gwendidau, cyfleoedd a bygythiadau?

Drwy ymgymryd â'r gweithgareddau hyn, dylech gael syniad mwy realistig o'r hyn rydych yn ei wybod, yr hyn y gallwch ei wneud a'ch cryfderau. Mewn geiriau eraill, byddwch yn dysgu mwy am eich galluoedd – eich gallu i wneud rhywbeth. Mae galluoedd yn cynnwys eich sgiliau, gwybodaeth, nodweddion personol ac agweddau. Y gobaith yw y bydd y pethau y byddwch yn eu dysgu amdanoch chi eich hun yn rhoi mwy o hyder i chi. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn dysgu bod ganddynt lawer mwy i'w gynnig nag yr oeddent yn ei dybio'n wreiddiol. Ar y cam hwn, dylech ganolbwyntio ar yr hyn rydych yn ei wybod a'r hyn y gallwch ei wneud, yn hytrach nag unrhyw wybodaeth a sgiliau nad ydych yn meddu arnynt. Cofiwch y gall fod gennych botensial mewn sawl maes nad yw wedi'i ddatblygu eto am ryw reswm neu'i gilydd.

Deilliannau Dysgu

Drwy gwblhau'r bloc hwn a'r cwis cysylltiedig, byddwch yn:

  • myfyrio ar eich sefyllfa nawr a ble yr hoffech fod.

1 Pwy ydw i?

Bydd gweithgareddau 1 a 2 yn eich helpu i lunio trosolwg o'ch bywyd hyd yma, ac i ystyried sut y gwnaeth eich hanes cynnar gyfrannu ato.

Gweithgaredd 1

Timing: Caniatewch tuag 20 munud

Rhan 1

Yn y gweithgaredd hwn, byddwch yn defnyddio'r templed ar gyfer y gweithgaredd hwn yn y pecyn adnoddau  i lunio 'llinell bywyd'. Gall y llinell bywyd hon eich helpu i wneud y canlynol:

  • ystyriwch batrwm eich bywyd
  • casglu gwybodaeth a all ddylanwadu ar eich dewisiadau yn y dyfodol
  • darganfod agweddau ar eich hun y gallech fod am eu datblygu neu eu newid.

Gan ddefnyddio Ffigur 1 fel canllaw, nodwch ddigwyddiadau allweddol yn eich bywyd a all gynnwys addysg, gwaith, diddordebau, priodas, plant ac ati, er mwyn dangos yr uchafbwyntiau a'r isafbwyntiau ar wahanol adegau o'ch bywyd.

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigur 1 Enghraifft o linell bywyd

Gall yr ymarfer llinell bywyd ddeffro llawer o emosiynau mewn rhai pobl wrth iddynt fynd ati i adolygu eu profiadau. Efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi siarad am unrhyw deimladau anodd gyda rhywun rydych yn ymddiried ynddo.

By signing in and enrolling on this course you can view and complete all activities within the course, track your progress in My OpenLearn Create. and when you have completed a course, you can download and print a free Statement of Participation - which you can use to demonstrate your learning.

Gweithgaredd 2

Timing: Caniatewch tuag 20 munud

Rydych nawr wedi cwblhau Adran 1– da iawn! Gobeithio bod y deunydd astudio wedi bod o fudd i chi a'ch bod yn awyddus i barhau â'r cwrs. Cofiwch, os byddwch yn llwyddo yn y cwis ar ddiwedd pob bloc, gallwch lawrlwytho bathodyn fel tystiolaeth o'r hyn rydych wedi'i ddysgu a datganiad cyfranogi i ddangos eich bod wedi cwblhau'r cwrs cyfan.

2 Pa rolau sydd gennyf mewn bywyd?

Ffordd arall o nodi eich galluoedd yw ystyried y rolau rydych wedi'u chwarae yn ystod eich bywyd. Dychmygwch eich hun fel actor yn eich bywyd eich hun, fel cymeriad mewn ffilm. Rydych fwy na thebyg yn chwarae llawer o rolau gwahanol. Efallai bod gennych rolau fel rhiant, cyflogai, ffrind neu fyfyriwr, ac mae pob rôl sydd gennych yn gofyn am wahanol bethau gennych.

Er enghraifft, os ydych wedi bod yn fyfyriwr yn flaenorol, byddai wedi bod angen sgiliau dysgu, rheoli amser a chyfathrebu ysgrifenedig arnoch. Efallai eich bod yn mwynhau DIY? Os felly, rydych wedi dysgu sut i fynd ati i gynllunio a threfnu, yn ogystal â datblygu sgiliau ymarferol. Os ydych yn rhiant, mae'n debygol eich bod wedi datblygu amrywiaeth eang o sgiliau gan gynnwys cyllidebu, rheoli amser, trefnu, coginio, negodi, delio â gwaith gweinyddol ac ati. Os ydych yn cadeirio cyfarfodydd clwb, byddwch wedi meithrin y gallu i ddelio ag amrywiaeth o bobl, arwain a chyfathrebu'n effeithiol.

Astudiaeth achos: Rolau Tom mewn bywyd

Edrychwch ar restr Tom isod. Mae'n dangos rhai o'r rolau y mae'n eu chwarae a'r gofynion sy'n gysylltiedig â nhw.

  1. Cynrychiolydd myfyrwyr: mynd i gyfarfodydd i gyfleu barn fy nosbarth i athrawon a darlithwyr, cyfathrebu â phobl sy'n dilyn yr un cwrs â fi.
  2. Gwirfoddolwr gyda llinell gymorth y Samariaid: gwrando ar bobl yn siarad am eu pryderon, cynllunio fy shifftiau i gyd-fynd ag aelodau eraill o'r tîm a'm teulu.
  3. Prif arddwr: addysgu hanfodion garddio i fyfyrwyr haf, gweithredu peiriannau, cynllunio swyddi tymhorol er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu rhannu ar draws y tîm.
  4. Mab: gyrru fy mam oedrannus i weld ei ffrindiau, defnyddio'r rhyngrwyd i wneud siopa ar-lein gyda hi.
  5. Trysorydd tîm dartiau tafarn: cymryd ffioedd aelodaeth a'u rhoi yn y banc, talu treuliau a chyflwyno adroddiadau.

Yn amlwg, mae llawer mwy o alluoedd a allai fod wedi'u cynnwys yma, ond gobeithio y bydd y rhain yn rhoi syniadau i chi am eich rolau eich hun mewn bywyd yn y gweithgaredd nesaf hwn.

Gweithgaredd 3

Timing: Caniatewch tua 30 munud
By signing in and enrolling on this course you can view and complete all activities within the course, track your progress in My OpenLearn Create. and when you have completed a course, you can download and print a free Statement of Participation - which you can use to demonstrate your learning.

Rydych nawr wedi cwblhau Adran 2 - da iawn! Gobeithio bod y deunydd astudio wedi bod o fudd i chi a'ch bod yn awyddus i barhau â'r cwrs. Cofiwch, os byddwch yn llwyddo yn y cwis ar ddiwedd pob bloc, gallwch lawrlwytho bathodyn fel tystiolaeth o'r hyn rydych wedi'i ddysgu a datganiad cyfranogi i ddangos eich bod wedi cwblhau'r cwrs cyfan.

3 Pa brofiadau dysgu rwyf wedi'u cael?

Byddai'r rhan fwyaf o bobl yn cytuno bod profiad gwaith yn bwysig iawn wrth ystyried cyfeiriad eich gyrfa yn y dyfodol, ond mae'n hawdd cymryd eich hun yn ganiataol a pheidio â chydnabod yr amrywiaeth eang o alluoedd rydych wedi'u datblygu drwy gydol eich bywyd. Er enghraifft, pa hobïau sydd gennych neu sydd wedi bod gennych yn y gorffennol? Nid pawb sy'n gallu troi eu hobi yn yrfa – er bod nifer gynyddol o bobl yn gwneud hynny – ond gallai'r gweithgareddau rydych yn eu gwneud yn eich amser rhydd eich helpu i ddangos galluoedd a all fod yn ddefnyddiol yn y gweithle.

Mae sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig, rhifedd, technoleg gwybodaeth, rheoli amser a rhuglder mewn iaith dramor i gyd yn enghreifftiau o sgiliau (ac mae'n siŵr y gallwch feddwl am lawer mwy) a all gael eu datblygu drwy weithgareddau hamdden neu astudiaethau ffurfiol ac anffurfiol ac yna'u defnyddio yn y gweithle. Fel arfer, gelwir y rhain yn 'sgiliau trosglwyddadwy' a chânt eu caffael yn aml drwy brofiadau. Nid oes angen i chi feddu ar gymhwyster ffurfiol o reidrwydd, dim ond rhywfaint o dystiolaeth i ddangos bod gennych y sgiliau hynny.

Byddwch wedi dysgu llawer iawn drwy eich gwaith (tâl neu ddi-dâl) a phrofiadau hamdden ac astudio drwy sylwi sut rydych yn teimlo am dasgau gwahanol, neu pa mor dda rydych yn cyflawni gweithgareddau penodol o gymharu â phobl eraill. Efallai eich bod yn dysgu gan bobl eraill hefyd, naill ai drwy brosesau gwerthuso ac asesu ffurfiol neu drwy sylwadau ac ymatebion anffurfiol.

Bydd y gweithgaredd nesaf yn eich helpu i ganolbwyntio ar eich profiadau yn y gwaith a thu allan i'r gwaith, a bydd yn ddefnyddiol wrth fynd ati i ysgrifennu CV a pharatoi ar gyfer cyfweliadau.

Gweithgaredd 4

Timing: Caniatewch tua 45 munud
By signing in and enrolling on this course you can view and complete all activities within the course, track your progress in My OpenLearn Create. and when you have completed a course, you can download and print a free Statement of Participation - which you can use to demonstrate your learning.

Rydych nawr wedi cwblhau Adran 3 – da iawn! Gobeithio bod y deunydd astudio wedi bod o fudd i chi a'ch bod yn awyddus i barhau â'r cwrs. Cofiwch, os byddwch yn llwyddo yn y cwis ar ddiwedd pob bloc, gallwch lawrlwytho bathodyn fel tystiolaeth o'r hyn rydych wedi'i ddysgu a datganiad cyfranogi i ddangos eich bod wedi cwblhau'r cwrs cyfan.

4 Beth yw fy mhrif gyflawniadau?

Yng Ngweithgaredd 4, gofynnwyd i chi nodi cyflawniadau penodol – pethau rydych yn eu hystyried yn llwyddiannau personol. Gallai'r rhain fod yn gysylltiedig â gwaith, cydberthnasau neu bethau rydych yn eu gwneud yn eich amser rhydd. Er enghraifft, gallai'r ffaith eich bod wedi llwyddo i basio pob un o'ch arholiadau y tro cyntaf ddangos eich bod yn fyfyriwr ardderchog; gallai'r ffaith eich bod wedi pasio eich prawf gyrru ar eich pumed ymgais ddweud llawer am eich dyfalbarhad a'ch penderfyniad. Cofiwch, mae a wnelo hyn â'r pethau rydych chi'n eu hystyried yn llwyddiant – wedi'r cyfan, chi sydd yn y sefyllfa orau i ddeall eich amgylchiadau personol a'r rhwystrau rydych wedi gorfod eu goresgyn er mwyn cyflawni nod penodol.

Gweithgaredd 5

Timing: Caniatewch tuag 20 munud

Edrychwch yn ôl ar y llinell bywyd a luniwyd gennych yng Ngweithgaredd 1, y rolau rydych wedi'u chwarae a'r profiadau rydych wedi'u cael. Ewch i'r templed ar gyfer y gweithgaredd hwn yn y pecyn adnoddau a nodwch y cyflawniadau rydych yn fwyaf balch ohonynt. Yna, meddyliwch am y wybodaeth a'r galluoedd a ddefnyddiwyd gennych er mwyn cyflawni'r hyn a wnaethoch. Efallai eich bod wedi gorfod dysgu techneg newydd, neu ddefnyddio neu ddatblygu sgil a oedd gennych eisoes.

Mae Tabl 1 yn enghraifft o dabl sydd wedi'i gwblhau.

Dechrau'r Tabl

Tabl 1 Enghraifft o'ch cyflawniadau a'r hyn y maent yn ei ddweud amdanoch chi
Yr hyn a gyflawnaisSgiliau, gwybodaeth, nodweddion personol ac agweddau a ddefnyddiwyd/a oedd yn ofynnol
Pasio fy mhrawf gyrruRoedd yn rhaid i mi ddangos bod fy sgiliau gyrru yn cyrraedd y safon ofynnol. Roedd yn rhaid i mi fod yn hyderus yn fy ngallu i beidio â chynhyrfu o dan bwysau. Roedd yn rhaid i mi basio prawf i ddangos fy mod yn gwybod Rheolau'r Ffordd Fawr.
Cymhwyso fel hyfforddwr tîm pêl-droed ieuenctidRoedd yn rhaid i mi ddysgu sgiliau hyfforddi (theori ac ymarferol). Mae'n rhaid i mi allu cyfathrebu'n effeithiol â phobl ifanc a'u rhieni. Wedi ennill cymhwyster cymorth cyntaf. Mae'n rhaid i mi hyrwyddo agwedd gadarnhaol ymhlith aelodau'r tîm ac arwain drwy esiampl.
Dod yn rhiantRoedd yn rhaid i mi ddysgu am yr hyn sydd ei angen ar fabanod a phlant bach i'w cadw'n hapus ac yn iach. Wedi dod i wybod am faeth da i blant a sut i ddelio â salwch cyffredin sy'n effeithio ar blant. Roedd angen i mi drefnu pethau'n well wrth gynllunio gwibdeithiau ac ati.
Codi £6000 i elusen ganser drwy drefnu arwerthiant elusennolRoedd yn rhaid i mi drefnu lleoliad. Wedi hyrwyddo'r digwyddiad a gwerthu tocynnau. Roedd yn rhaid i mi ddefnyddio fy rhwydwaith teulu a ffrindiau i gasglu eitemau ar gyfer yr arwerthiant. Roedd yn rhaid i mi drefnu darpariaeth arlwyo ac adloniant ar gyfer y noson. Roedd yn rhaid i mi reoli'r gyllideb fel bod y digwyddiad yn codi'r swm a nodwyd fel targed. Defnyddiais sgiliau TG sylfaenol (Word, Excel a'r rhyngrwyd) i drefnu agweddau gwahanol ar y digwyddiad. Roedd yn rhaid i mi ddangos cymhelliant a phenderfyniad er mwyn sicrhau bod y digwyddiad yn llwyddiant a sgiliau rhyngbersonol da er mwyn darbwyllo pobl i gymryd rhan a helpu allan.
Sicrhau lle yn y colegCefais fy niswyddo (o swydd heb ddyfodol) a phenderfynais fod angen i mi newid cyfeiriad fy ngyrfa. Cefais wybodaeth, cyngor ac arweiniad am yrfaoedd gan y ganolfan gwaith, fy llyfrgell leol a'r gwasanaeth gyrfaoedd. Penderfynais fy mod am weithio yn y diwydiant chwaraeon a hamdden a gwneud gyrfa ohono. Dysgais y byddai angen rhai cymwysterau arnaf er mwyn cychwyn ar y lefel gywir, felly ymchwiliais i gyrsiau perthnasol a oedd yn cael eu cynnal yn lleol a gwnes gais am le. Roedd yn rhaid i mi fynd i gyfweliad a darbwyllo'r cyfwelydd fy mod i'n wirioneddol ymrwymedig i'r cwrs (gwnaeth fy mhrofiad o hyfforddi tîm pêl-droed ieuenctid fy helpu yn hyn o beth). Roedd yn rhaid i mi ddangos fy mod i'n hyderus yn fy ngallu i wneud y cwrs a dangos sgiliau cyfathrebu da yn ystod y broses gwneud cais a'r cyfweliad.

Pa rai o'r sgiliau neu'r rhinweddau a restrwyd gennych allai gael eu defnyddio mewn sefyllfa waith? Mae'n debygol y byddwch wedi nodi rhai 'sgiliau trosglwyddadwy' (fel sgiliau gweinyddol/trefnu a chyfathrebu) a rhinweddau a fyddai'n ddefnyddiol mewn sawl math gwahanol o waith.

Sut gallaf roi tystiolaeth o'm cyflawniadau?

Nawr eich bod wedi nodi eich galluoedd, byddai'n ddefnyddiol i chi feddwl am y dystiolaeth y gallwch ei rhoi i'w cefnogi. Gofynnir yn aml ar ffurflen gais i chi roi enghraifft o adeg pan wnaethoch ddefnyddio sgil penodol yn effeithiol neu ddangos gwybodaeth mewn maes penodol. Os ydych yn honni bod gennych alluoedd penodol, disgwylir i chi roi tystiolaeth i ategu'r honiad hwnnw.

Wrth feddwl am dystiolaeth, gall fod yn ddefnyddiol i chi feddwl am ddefnyddio amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys eich astudiaethau, gwaith (tâl neu ddi-dâl) a hobïau. Er mwyn rhoi strwythur i'r hyn rydych yn ei ysgrifennu ar ffurflen gais, gallech ddefnyddio'r dull STAR (Sefyllfa, Tasg, Camau gweithredu, Canlyniadau yn y Saesneg).

Gweithgaredd 6

Timing: Caniatewch tuag 20 munud

Dyma ddwy enghraifft, sy'n defnyddio un neu ddau o'r cyflawniadau a nodwyd yn Nhabl 1, i ddangos sut y gellir defnyddio dull STAR os gofynnir i chi am eich sgiliau gweinyddol/trefnu a chyfathrebu wrth wneud cais am swydd:

  • Gweinyddol/trefnu: Er mwyn codi arian i elusen ganser (sefyllfa), trefnais arwerthiant elusennol llwyddiannus (tasg): llogi'r lleoliad, llunio amserlen ar gyfer y digwyddiad, sicrhau rhoddion ar gyfer yr arwerthiant gan ffrindiau, teulu a busnesau lleol, rheoli'r gyllideb a gwerthu tocynnau (camau gweithredu). Llwyddwyd i godi mwy na £6000 yn erbyn targed o £5000 (canlyniad).
  • Cyfathrebu: Yn fy rôl fel hyfforddwr tîm pêl-droed ieuenctid (sefyllfa), mae'n rhaid i mi gyfathrebu'n effeithiol â grwpiau gwahanol o bobl; chwaraewyr, rhieni a swyddogion (tasg). Mae'n hanfodol fy mod yn nodi'n glir yr hyn rwy'n ei ddisgwyl gan y chwaraewyr o ran tactegau ac ymddygiad cyn, yn ystod ac ar ôl y gêm. Mae'n rhaid i mi hefyd ddelio'n sensitif â dadleuon sy'n codi weithiau rhwng rhieni yng ngwres y funud a lleddfu sefyllfaoedd. Rwy'n cyfathrebu â swyddogion mewn ffordd broffesiynol ac yn sicrhau eu bod yn cael eu trin â pharch camau gweithredu). Mae fy sgiliau cyfathrebu effeithiol yn golygu bod gemau yn cael eu chwarae yn yr ysbryd cywir ac mae'r ffaith mai fy nhîm i enillodd y tlws chwarae'n deg y tymor diwethaf yn dystiolaeth o hynny (canlyniad).

Nawr eich tro chi yw hi. Edrychwch yn ôl ar eich rhestr o gyflawniadau a'r galluoedd cysylltiedig. Meddyliwch sut y gallech ddefnyddio dull STAR i gyflwyno eich cyflawniadau ar ffurflen gais neu mewn cyfweliad pe bai gofyn i chi gyflwyno tystiolaeth o sgiliau trosglwyddadwy fel sgiliau cyfathrebu effeithiol.

Cofiwch fod nodi a rhoi tystiolaeth o'ch galluoedd yn allweddol wrth farchnata eich hunan i gyflogwr.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Rydych nawr wedi cwblhau Adran 4 – da iawn! Gobeithio bod y deunydd astudio wedi bod o fudd i chi a'ch bod yn awyddus i barhau â'r cwrs. Cofiwch, os byddwch yn llwyddo yn y cwis ar ddiwedd pob bloc, gallwch lawrlwytho bathodyn fel tystiolaeth o'r hyn rydych wedi'i ddysgu a datganiad cyfranogi i ddangos eich bod wedi cwblhau'r cwrs cyfan.

5 Pa ffactorau sy'n fy helpu ac yn fy llesteirio?

Yn sgil yr holl waith rydych wedi'i wneud hyd yma ym Mloc 1, dylai fod gennych syniad da nawr o'ch galluoedd, y rolau rydych yn eu chwarae a'r hyn rydych yn ei hoffi ac yn ei gasáu. Os na, cymerwch gam yn ôl ac adolygu'r dystiolaeth rydych wedi'i chasglu hyd yma. Meddyliwch eto am yr hyn rydych yn ei wybod, yr hyn y gallwch ei wneud a'r hyn rydych yn mwynhau ei wneud neu'n ei wneud yn dda.

Y cam nesaf yw dwyn y wybodaeth rydych wedi'i chasglu ynghyd â'r hyn sy'n digwydd yn eich bywyd nawr. Gallwch gychwyn arni drwy lunio rhestr o ffactorau cadarnhaol a negyddol a all helpu neu lesteirio eich cynlluniau. Bydd y gweithgaredd nesaf yn rhoi rhagor o gyngor ac arweiniad i chi ar sut i wneud hyn.

Gweithgaredd 7

Timing: Caniatewch tua 15 munud
By signing in and enrolling on this course you can view and complete all activities within the course, track your progress in My OpenLearn Create. and when you have completed a course, you can download and print a free Statement of Participation - which you can use to demonstrate your learning.

Rydych nawr wedi cwblhau Adran 5 – da iawn! Gobeithio bod y deunydd astudio wedi bod o fudd i chi a'ch bod yn awyddus i barhau â'r cwrs. Cofiwch, os byddwch yn llwyddo yn y cwis ar ddiwedd pob bloc, gallwch lawrlwytho bathodyn fel tystiolaeth o'r hyn rydych wedi'i ddysgu a datganiad cyfranogi i ddangos eich bod wedi cwblhau'r cwrs cyfan.

6 Beth yw fy nghryfderau, gwendidau, cyfleoedd a bygythiadau?

Hyd yn hyn ym Mloc 1, rydych wedi dwyn ynghyd wybodaeth amdanoch chi eich hun a'ch galluoedd. Rydych wedi cael eich annog i feddwl am eich cryfderau a'ch gwendidau, ac ystyried y ffactorau cadarnhaol a negyddol yn eich sefyllfa ddomestig a gwaith a all roi cyfleoedd i chi neu fygwth eich cynlluniau yn y dyfodol. Gallwch ddefnyddio dadansoddiad SWOT (cryfderau, gwendidau, cyfleoedd a bygythiadau) i grynhoi a dadansoddi'r wybodaeth hon, fel y dangosir yn Nhabl 2.

CryfderauGwendidau

Sgiliau rhyngbersonol da

Llawn cymhelliant

Gweithio'n dda mewn tîm

Trefnus - cwrdd â thargedau

Sgiliau arwain

Ceisio gwneud gormod ar unwaith

Ei chael hi'n eithaf anodd rheoli sefyllfaoedd ansicr

Gallu bod yn rhy benderfynol

CyfleoeddBygythiadau

Swydd dda

Ymrwymedig i astudio ymhellach

Cefnogaeth o'r gwaith ar gyfer hyfforddiant pellach

Teulu cefnogol

Cydbwyso gwaith a'r cartref

Marchnad anfasnachol ansicr, yn enwedig ym maes TG

Beth yw'r blaenoriaethau?

Mae fframwaith dadansoddi sylfaenol SWOT yn eich helpu i drefnu a blaenoriaethu ffactorau sy'n gysylltiedig â'r pwnc sy'n cael ei ddadansoddi – eich datblygiad personol a gyrfaol yn yr achos hwn. Fel y gwelwch wrth wneud y gweithgaredd nesaf, gallwch gynllunio i adeiladu ar eich cryfderau a delio â'ch gwendidau, a fydd yn eich rhoi mewn sefyllfa well i fanteisio ar unrhyw gyfleoedd a mynd i'r afael ag unrhyw fygythiadau.

Gweithgaredd 8

Timing: Caniatewch tua 30 munud

Rhan 1

Edrychwch ar yr enghraifft yn Nhabl 2 ac yna cwblhewch y templed ar gyfer y gweithgaredd hwn yn y pecyn adnoddau  er mwyn trefnu eich syniadau ac ystyried yr hyn rydych yn ei wneud yn dda, y meysydd y mae angen i chi weithio arnynt, y posibiliadau sydd ar gael i chi a'r pethau a allai achosi anawsterau.

  • Cryfderau: beth rydych yn ei wneud yn dda? Beth yw eich cryfderau ym marn pobl eraill?
  • Gwendidau: pa feysydd sydd angen eu datblygu? Beth ddylech chi ei osgoi?
  • Cyfleoedd: pa bosibiliadau sydd ar gael i chi? Pa adnoddau sydd gennych? Pwy all eich helpu?
  • Bygythiadau: beth allai achosi anawsterau i chi? Pa gyfrifoldebau sydd gennych? Beth allai eich cyfyngu?

Gall y dechneg hon eich helpu i ganolbwyntio ar y prif faterion y mae angen i chi eu hystyried ac anelu at nod penodol cyrraeddadwy. Unwaith rydych wedi defnyddio'r dechneg hon i nodi'r hyn sy'n bosibl, gallwch ddechrau blaenoriaethu a phenderfynu ar yr hyn rydych am ei gyflawni gyntaf.

Efallai y byddwch yn darganfod bod eich cryfderau wedi'u grwpio mewn rhai meysydd yn hytrach na rhai eraill. Mae'n ddefnyddiol gwybod hyn, gan ei fod yn eich galluogi i nodi'r talentau sydd gennych ac i weld hefyd a oes bylchau rydych am weithio arnynt. Mae'n ddefnyddiol hefyd fel tystiolaeth pan fyddwch yn cwblhau CV neu'n mynd i gyfweliad.

By signing in and enrolling on this course you can view and complete all activities within the course, track your progress in My OpenLearn Create. and when you have completed a course, you can download and print a free Statement of Participation - which you can use to demonstrate your learning.

Rydych nawr wedi cwblhau Adran 6 – da iawn! Gobeithio bod y deunydd astudio wedi bod o fudd i chi a'ch bod yn awyddus i barhau â'r cwrs. Cofiwch, os byddwch yn llwyddo yn y cwis ar ddiwedd pob bloc, gallwch lawrlwytho bathodyn fel tystiolaeth o'r hyn rydych wedi'i ddysgu. Os byddwch yn casglu'r gyfres lawn o fathodynnau, gallwch lawrlwytho datganiad cyfranogi i ddangos eich bod wedi cwblhau'r cwrs cyfan.

Yr hyn rydych wedi'i ddysgu yn y bloc hwn

  • Yn y bloc hwn, rydych wedi mynd ati i nodi eich galluoedd presennol drwy ystyried eich profiadau yn y gwaith a'r tu allan iddo, gan nodi'r ffactorau sy'n eich helpu ac yn eich llesteirio a dadansoddi eich cryfderau a'ch gwendidau mewn perthynas â'r cyfleoedd a'r bygythiadau rydych yn eu gweld o'ch amgylch.

Cwis Bloc 1

Da iawn; rydych nawr wedi cyrraedd diwedd Bloc 1 o Cynllunio dyfodol gwell, ac mae'n bryd rhoi cynnig ar y cwestiynau asesu. Bwriedir i'r cwis hwn fod yn weithgaredd llawn hwyl i'ch helpu i atgyfnerthu'r hyn rydych wedi'i ddysgu.

Dim ond pum cwestiwn a ofynnol, ac os byddwch yn cael o leiaf bedwar ateb yn gywir byddwch.

Os ydych yn astudio'r cwrs hwn mewn fformat amgen, bydd angen i chi fynd ar-lein er mwyn rhoi cynnig ar y cwis hwn.

Rwyf wedi gorffen y bloc hwn. Beth nesaf?

Gallwch ddewis nawr i symud ymlaen i Floc 2, I ble rwyf am fynd?, neu i un o'r blociau eraill.

Os ydych o'r farn eich bod wedi cael yr hyn sydd ei angen arnoch o'r cwrs ac nad ydych am roi cynnig ar y cwis, ewch i'r adran Datblygu'r hyn rwyf wedi'i ddysgu ymhellach. Yn yr adran honno, gallwch fyfyrio ar yr hyn rydych wedi'i ddysgu. Ceir hefyd awgrymiadau ar gyfer cyfleoedd dysgu pellach.

Hoffem wybod eich barn ar y cwrs a sut rydych yn bwriadu defnyddio'r hyn rydych wedi'i ddysgu. Bydd eich adborth yn ddienw a chaiff ei ddefnyddio er mwyn ein helpu i wella'r cyrsiau rydym yn eu cynnig.

Cydnabyddiaethau

Heblaw am ddeunyddiau trydydd parti a lle nodir yn wahanol yn yr adran cydnabyddiaethau, mae'r cynnwys hwn ar gael o dan Drwydded 4.0 Creative Commons Attribution-NonCommercial-ShareAlike.

Mae'r deunydd a gydnabyddir isod yn Berchenogol a chaiff ei ddefnyddio o dan drwydded (nid yw'n amodol ar Drwydded Creative Commons). Hoffem ddiolch yn garedig i'r ffynonellau canlynol am roi caniatâd i atgynhyrchu deunydd yn yr uned hon.

Mae'r cwrs hwn wedi'i addasu o ddeunydd yn Career Planning and Job Seeking Workbook, cwrs agored Succeed in the workplace sy'n cynnig bathodynnau, a chwrs Career development and employability, y mae pob un ohonynt wedi'u cynhyrchu gan Y Brifysgol Agored.

Delweddau

Cyflwyniad: Sergey Nivens/Bigstockphoto.com; Adran 2: © X4wiz/Bigstockphoto.com.

Ffigurau

Ffigur1: © Y Brifysgol Agored.

Fideo

Gwnaed pob ymdrech i gysylltu â pherchenogion hawlfraint. Os ydym wedi anwybyddu unrhyw un mewn camgymeriad, bydd y cyhoeddwyr yn fwy na pharod i wneud y trefniadau angenrheidiol ar y cyfle cyntaf.