3 Llunio cynllun gweithredu

Y cam nesaf yw dwyn popeth ynghyd mewn cynllun gweithredu manwl. Mae hyn yn golygu y bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • pennu eich nodau (ar gyfer yr hirdymor, y tymor canolig a'r byrdymor)
  • penderfynu pa gamau y bydd angen i chi eu cymryd
  • nodi eich cyfyngiadau a'ch adnoddau
  • gweithio amserlen realistig allan ar gyfer cyflawni pob cam.

Os byddwch yn monitro eich cynnydd drwy edrych ar eich cynllun o bryd i'w gilydd, gallwch nodi'r hyn rydych wedi'i gyflawni ac yna diwygio eich targedau yn ôl yr angen. Ac, wrth gwrs, os byddwch yn newid eich meddwl am eich nod yn y pen draw, gallwch fynd yn ôl i'ch cynllun gwreiddiol er mwyn gwneud yr addasiadau angenrheidiol.

Wrth lunio eich cynllun gweithredu, dylech ystyried y canlynol:

  • yr hyn y mae angen i chi ei wneud
  • sut rydych yn mynd i weithredu
  • yr adnoddau a allai eich helpu (e.e. cyllid, gwybodaeth, ffrindiau)
  • pryd fyddwch yn cyflawni eich targedau
  • sut fyddwch chi'n gwybod eich bod wedi cyflawni eich nod.

Un ffordd o ddelio â hyn yw rhannu pob gweithgaredd yn gamau bach fel ei fod yn hawdd i'w reoli. Mae angen i gynlluniau gweithredu fod yn rhai CAMPUS (cyflawnadwy, amserol, mesuradwy, penodol, uchelgeisiol, synhwyrol). Mae defnyddio strwythur fel hwn yn eich helpu i rannu tasgau mawr yn rhai llai o faint sy'n haws eu rheoli er mwyn sicrhau eich bod yn cadw rheolaeth ar bethau ac yn teimlo'n hyderus eich bod yn gallu eu rheoli.

Meddu ar gynllun wrth gefn

Dylech bob amser geisio sicrhau bod gennych gynllun wrth gefn, felly cadwch olwg ar gynnydd ac ewch ati i addasu eich cynllun os bydd angen. Os na fyddwch yn llwyddo i gyflawni eich nodau, efallai nad oedd eich cynllun cyntaf yn ddigon da. Efallai y bydd angen i chi ei wella neu ei newid yn gyfan gwbl. Ar ôl gwneud hynny, os gwelwch na allwch gyrraedd eich nod, efallai y bydd angen i chi ei ailystyried. Gofynnwch i chi eich hun, 'A yw'n realistig?' Os nac ydyw, bydd angen i chi ei ddiwygio.

Gweithgaredd 6

Timing: Caniatewch tua 30 munud

Edrychwch ar yr enghraifft yn Nhabl 4 ac yna cwblhewch y templed ar gyfer y gweithgaredd hwn yn y pecyn adnoddau [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .

Er mwyn cyflawni'r hyn rydych ei eisiau, efallai y bydd angen mynd drwy sawl cam. Efallai y bydd angen i chi ennill profiad neu gymwysterau, casglu gwybodaeth neu gyrchu adnodd penodol.

Efallai y bydd angen i chi ymdopi ag anawsterau a rhwystredigaeth, ond rydych yn cychwyn ar daith a allai fod yn un gyffrous ac yn cymryd y camau cyntaf tuag at fywyd newydd. Neilltuwch amser bob hyn a hyn i adolygu eich nodau a gweld sut rydych yn gwneud.

Edrychwch ar yr enghraifft yn Nhabl 4 ac yna cwblhewch y templed ar gyfer y gweithgaredd hwn yn y pecyn adnoddau.

Tabl 4
Fy nod hirdymorNodau byrdymor a thymor canoligCamau sydd angen eu cymrydCyfyngiadauAdnoddau – pwy neu beth all fy helpuDyddiad targed
Rheoli manwerthu

Sicrhau prentisiaeth lefel ganolradd mewn amgylchedd manwerthu

Cael swydd amser llawn gyda hyfforddiant pellach a/neu ragolygon ar ddiwedd y brentisiaeth ganolradd (lwyddiannus!)

Efallai y bydd angen i mi wella fy ngradd Mathemateg TGAU er mwyn sicrhau prentisiaeth ganolradd

Angen archwilio cyfleoedd yn yr ardal leol

Bydd angen i mi ymarfer fy nghais a'm technegau cyfweld

Bydd yn rhaid i mi aros am gyfle i ailsefyll TGAU Mathemateg

Rwy'n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus, sy'n cyfyngu ar gyfleoedd cyflogaeth

Athrawon a theuluMis Awst nesaf

Rydych nawr wedi cwblhau Adran 3 - da iawn! Gobeithio bod y deunydd astudio wedi bod o fudd i chi a'ch bod yn awyddus i barhau â'r cwrs. Cofiwch, os byddwch yn llwyddo yn y cwis ar ddiwedd pob bloc, gallwch lawrlwytho bathodyn fel tystiolaeth o'r hyn rydych wedi'i ddysgu a datganiad cyfranogi i ddangos eich bod wedi cwblhau'r cwrs cyfan.

2.3 Cydbwyso adnoddau defnyddiol yn erbyn cyfyngiadau