8.5 Ateb cwestiynau

Pa bynnag swydd sydd dan sylw, bydd y cyfwelydd yn canolbwyntio ar dri grŵp o nodweddion cysylltiedig: eich proffil personol, eich proffil proffesiynol a'ch proffil cyflawniadau. Eich tasg chi yw cynnig tystiolaeth yn eich atebion i ddangos y nodweddion hyn.

  • Proffil personol:
    • gallu deallusol
    • sgiliau cyfathrebu
    • sgiliau gwrando
    • hyder
    • cymhelliant swydd
    • egni a phenderfyniad
    • dygnwch
    • datblygiad
    • cymhelliant ariannol.
  • Proffil proffesiynol:
    • gwybodaeth
    • dibynadwyedd
    • uniondeb
    • ymrwymiad.
  • Proffil cyflawniadau:
    • effeithiolrwydd
    • effeithlonrwydd
    • darbodusrwydd.

Mae angen i chi fod yn barod hefyd i addasu eich atebion i'r mathau gwahanol o gwestiynau:

  • Mae cwestiynau penodol yn gofyn am atebion ffeithiol, yn aml gyda chynnwys technegol, e.e. 'Pa broblemau y daethoch ar eu traws yn ystod cam cynllunio cynnar adeiladu'r estyniad?'
  • Gall cwestiynau agored gael eu defnyddio gan gyfwelwyr medrus i annog atebion estynedig sy'n cynnwys ffeithiau ac agweddau neu deimladau, e.e. 'Dywedwch wrthyf am y tair blynedd y gwnaethoch eu treulio yn astudio ar gyfer eich NVQ'.
  • Mae cwestiynau damcaniaethol yn profi cyflymder ac ansawdd meddwl ymgeisydd, e.e. 'Beth petai'r polisi yn newid i gludo mwy o nwyddau ar y rheilffordd?' Wrth ateb, byddwch yn drefnus, nodwch y tybiaethau rydych yn eu gwneud, a dywedwch ble y byddai angen mwy o wybodaeth, e.e. 'A fyddai hynny'n berthnasol i'r DU yn unig neu Ewrop gyfan?'. Does dim ateb cywir nac anghywir fel arfer – mae'r cyfwelydd yn chwilio am ffordd resymol a chlir o feddwl.
  • Mae cwestiynau sy'n seiliedig ar gymhwysedd yn gofyn i chi siarad am eich sgiliau, rhinweddau a chymwyseddau sy'n gysylltiedig â'r swydd. Sail cwestiwn sy'n seiliedig ar gymhwysedd yw, os gallwch ddangos eich bod wedi gwneud rhywbeth yn y gorffennol, yna gallwch ei wneud yn y dyfodol hefyd. Fel arfer, byddai'r cwestiynau hyn yn gofyn am enghraifft o sefyllfa lle rydych wedi dangos y sgil hwnnw, a sut y byddech yn mynd i'r afael â hi'n effeithiol. Yn aml, mae cwestiynau yn dechrau gyda 'Gallwch chi ddweud wrthym am adeg pan ...'.
  • Mae cwestiynau technegol yn gofyn i chi ddangos yr hyn rydych yn ei wybod am iaith arbenigol. Gofynnir y cwestiynau hyn yn aml mewn cyfweliadau ar gyfer swyddi peirianneg, gwyddonol a TG.