9 Beth i'w wneud os nad ydych yn llwyddiannus

Os nad ydych yn cael eich dewis ar gyfer cyfweliadau, gallwch gymryd sawl cam i wella eich siawns:

  • Ewch ati i adolygu eich CV neu ffurflen gais. A oeddent wedi'u teilwra ar gyfer y swydd benodol? A ydynt yn eich hyrwyddo yn y ffordd orau?
  • Gofynnwch i bobl eraill roi adborth i chi ar eich ceisiadau. Siaradwch â chynghorydd gyrfaoedd neu ffrindiau/cydweithwyr.
  • Meddyliwch am p'un a ydych yn gwneud cais am y swyddi gwag priodol. Oes gennych chi'r sgiliau a'r profiad y gofynnir amdanynt?
  • Edrychwch ar eich strategaeth chwilio am waith. Ai ar hap yn unig rydych yn gwneud cais am swyddi? Oes angen i chi feddwl am ba sectorau neu gyflogwyr rydych yn gwneud cais iddynt?

Os ydych yn cael cyfweliadau ond nid ydych yn mynd ymhellach, dylech wneud y canlynol:

  • Gofynnwch am adborth gan y cyflogwr i ganfod pam na chawsoch eich dewis ar yr achlysur hwn. Dylech gael cyngor amhrisiadwy i'ch helpu i lwyddo y tro nesaf.
  • Ewch ati i adolygu eich techneg cyfweliad. A wnaethoch chi ddigon o ymchwil ymlaen llaw? Oeddech chi'n barod ar gyfer y cwestiynau? Gofynnwch i chi eich hun beth y gallech fod wedi'i wneud yn well.
  • Siaradwch â chynghorydd gyrfaoedd a all eich helpu i baratoi.

Beth i'w wneud os cewch eich gwrthod

Os ydych wedi gwneud pob un o'r uchod, ar ôl gofyn am adborth i wneud yn siŵr eich bod wedi cael cyfweliad da, y pethau nesaf i'w gofio, os cewch eich gwrthod, yw ceisio peidio â'i gymryd yn bersonol. Nid yw'n feirniadaeth ohonoch; yn syml, mae'n golygu nad ydych wedi bod yn llwyddiannus yn yr achos hwn. Nid yw'n golygu na allech ymgymryd â'r swydd yn eu barn nhw.

Efallai bod rhywun sydd â mwy o brofiad perthnasol wedi cael y swydd, neu efallai bod ymgeisydd mewnol ffafriedig iawn wedi cynnig amdani. Os cawsoch eich gwahodd am gyfweliad mae'n golygu, ar bapur, bod y recriwtwyr o'r farn y gallech ymgymryd â'r swydd. Mae'r broses gyfweld yn un gostus, felly ni fydd cyflogwyr yn gwastraffu amser yn cyfweld â rhywun os ydynt yn teimlo nad yw'n gymwys i ymgymryd â'r rôl dan sylw.

Gall helpu i wneud nodiadau cyn gynted ag y byddwch yn dod allan o gyfweliad. Gallech fynd ati i lunio rhestr o'r hyn aeth yn dda a'r hyn nad aeth cystal, ac awgrymiadau ar sut y gallech wella. Unwaith y byddwch wedi ymlacio ar ôl cyfweliad, efallai na fyddwch yn cofio'r hyn a ddigwyddodd mewn cymaint o fanylder. Gallwch hefyd gymharu eich nodiadau ag unrhyw adborth a gewch drwy ofyn, 'Sut gallaf wella unrhyw gais y byddaf yn ei wneud yn y dyfodol?' Ceisiwch drin y profiad cyfan fel rhywbeth y gallwch ddysgu ohono.

Cofiwch, fe gymerodd J.K. Rowling flwyddyn i ddod o hyd i gyhoeddwr ar gyfer ei llyfr Harry Potter cyntaf. O edrych yn ôl, gwnaeth sawl cwmni cyhoeddi gamgymeriad enfawr. Mae'n bwysig ceisio aros yn bositif a chadw ffocws, a dyfalbarhau wrth chwilio am waith.

Rydych nawr wedi cwblhau Adran 9 – da iawn! Gobeithio bod y deunydd astudio wedi bod o fudd i chi a'ch bod yn awyddus i barhau â'r cwrs. Cofiwch, os byddwch yn llwyddo yn y cwis ar ddiwedd pob bloc, gallwch lawrlwytho bathodyn fel tystiolaeth o'r hyn rydych wedi'i ddysgu. Os byddwch yn casglu'r gyfres lawn o fathodynnau, gallwch lawrlwytho datganiad cyfranogi i ddangos eich bod wedi cwblhau'r cwrs cyfan.

Yr hyn rydych wedi'i ddysgu yn y bloc hwn