Mynd i'r prif gynnwys
Printable page generated Sunday, 28 April 2024, 10:23 PM
Use 'Print preview' to check the number of pages and printer settings.
Print functionality varies between browsers.
Unless otherwise stated, copyright © 2024 The Open University, all rights reserved.
Printable page generated Sunday, 28 April 2024, 10:23 PM

Addysg gynhwysol

Cyflwyniad

Mae'r cwrs hwn yn cyflwyno llywodraethwyr ysgolion i faes dadleuol cynhwysiant addysgol. Ni waeth pa ysgol y byddwch yn eich canfod eich hun ynddi, bydd y ffordd y mae'n ymdrin ag addysg gynhwysol yn ffactor bwysig wrth bennu diwylliant ei hamgylchedd dysgu ac addysgu. Dros yr ychydig oriau nesaf, cewch gyflwyniad i rai o'r egwyddorion a'r dadleuon a fydd wedi llywio'r modd y mae eich ysgol yn ymdrin â chynhwysiant. Byddwch yn ystyried safbwyntiau gwahanol ar gynhwysiant, yn benodol y ffordd y mae modelau meddygol a chymdeithasol wedi dylanwadu ar ein meddylfryd presennol. Byddwch hefyd yn ystyried y rhwystrau i gynhwysiant, a'r gwahaniaeth rhwng integreiddio a chynnwys. Hefyd, byddwch yn ystyried rhai o'r dogfennau allweddol, er enghraifft Datganiad Salamanca a'r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol, sy'n sail i'n meddylfryd presennol yn y maes hwn.

Deilliannau dysgu

Ar ôl astudio'r uned hon, byddwch:

  • yn deall amrywiaeth o ddamcaniaethau sy'n sail i bolisi cynhwysiant ysgol
  • yn dadansoddi a myfyrio'n feirniadol ar safbwyntiau ar gynhwysiant, gan gynnwys y rhai hynny sy'n berthnasol i'ch lleoliad ysgol eich hun
  • yn gofyn cwestiynau am y ffordd y mae eich ysgol yn ymdrin ag addysg gynhwysol
  • yn egluro'r ddeddfwriaeth gyfredol yng Nghymru sy'n berthnasol i'r cwricwlwm cynhwysol

1 Deall ystyr ‘addysg gynhwysol’

Yn ddi-os, mae addysg gynhwysol yn faes dadleuol. Yn wir, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, dyma ffocws yr hyn y mae Daniels yn ei alw'n ddadleuon eithriadol am ddiffiniad a pherchenogaeth (Daniels, 2000, t. 1). Yn yr adran agoriadol hon, byddwn yn ystyried amrywiaeth o safbwyntiau ar yr hyn y mae addysg gynhwysol yn ei olygu – yn seiliedig ar amrywiaeth o adnoddau 'swyddogol' ac unigol. Ond yn gyntaf, beth am ystyried yr hyn y mae addysg gynhwysol yn ei olygu i chi?

Gweithgaredd 1: Profiad personol o gynhwysiant

Meddyliwch am eich profiad eich hun o addysg gynhwysol, naill ai fel llywodraethwr, disgybl, rhiant neu ymarferydd addysgol. Efallai y bydd angen i chi nodi pwy yr oedd angen ei 'gynnwys' yn y sefyllfaoedd neu'r diffiniadau hyn. Ar ôl i chi wneud hyn, ystyriwch i bwy yr oedd cynhwysiant o'r fath yn bwysig, a'r rhesymau dros hynny.

Gallech wedyn fyfyrio ar eich profiad eich hun o gynhwysiant o gymharu â'r hyn y dylai fod yn eich barn chi.

Cofnodwch eich meddyliau mewn blog ar wefan y cwrs.

Mae'r safbwyntiau sy'n dilyn yn deillio o amrywiaeth o ffynonellau: gweithredwyr anabl, gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant, dogfennau'r llywodraeth a sefydliad ymgyrchu. Wrth i chi eu darllen, cymharwch y safbwyntiau hyn â'ch rhai chi eich hun.

Grŵp o bobl anabl, rhieni plant anabl a chefnogwyr eraill sydd â diddordeb yw Equity Group yn yr Alban.

Yn y bôn, rydym yn credu bod addysg gynhwysol yn ymwneud â chydnabod bod plant yn gyfartal, a bod ganddynt hawliau cyfartal. Dylai hyn fod yn fan cychwyn sylfaenol ar gyfer polisi addysgol a chymdeithasol mewn cymdeithas fodern.

(The Equity Group, 2004)

Chris Darlington yw llywydd y Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Anghenion Addysgol Arbennig (NASEN), sef sefydliad cenedlaethol i weithwyr proffesiynol sy'n gweithio ym maes cynhwysiant. Mae'n diffinio cynhwysiant drwy ddweud:

"’Proses, nid cyflwr … nid yw cynhwysiant yn gysyniad syml sydd wedi'i gyfyngu i faterion o ran lleoli.… Rhai o'r egwyddorion allweddol yw gwerthfawrogi amrywiaeth, hawliau, urddas, anghenion unigol, cynllunio, cyfrifoldeb ar y cyd, datblygiad proffesiynol, a chyfle cyfartal."

(Darlington, 2003, t 2)

Mae Simone Aspis, sy'n disgrifio ei hun fel 'goroeswr ysgol arbennig', yn cynnig y diffiniad canlynol:

“Dylai addysg gynhwysol greu cyfleoedd i bob dysgwr gydweithio. Mae hyn yn golygu cydnabod bod dysgu yn well pan fo unigolion o alluoedd, sgiliau a dyheadau gwahanol yn gallu cydweithio mewn menter ar y cyd.”

(Aspis, 2004, t. 129)

Daw'r dyfyniad nesaf o Inclusive Schooling (AdAS, 2001b), sef y ddogfen swyddogol a gyhoeddwyd gan yr Adran Addysg a Sgiliau (AdAS) yn dilyn newidiadau i'r gyfraith yn 2001 a atgyfnerthodd hawliau myfyrwyr i leoliadau prif ffrwd:

“Dylai ysgolion a gefnogir gan awdurdodau addysg lleol ac eraill fynd ati'n rhagweithiol i gael gwared ar y rhwystrau i ddysgu a chymryd rhan a all atal neu eithrio disgyblion ag anghenion addysgol arbennig.”

(AdAS, 2001b, paragraff 7)

Sefydliad ymgyrchu yw'r Ganolfan ar gyfer Astudiaethau ar Addysg Gynhwysol (CSIE), sy'n hyrwyddo twf ysgolion cynhwysol:

Ystyr cynhwysiant yw galluogi pob myfyriwr i gymryd rhan lawn ym mywyd a gwaith lleoliadau prif ffrwd, beth bynnag fo'u hanghenion. …

“Gellir ystyried cynhwysiant hefyd fel proses barhaus o chwalu'r rhwystrau i ddysgu a chyfranogi ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc. Mae arwahanu, ar y llaw arall, yn duedd fynych i hepgor gwahaniaeth.”

(CSIE, 2018)

Efallai hoffech edrych ar ganllawiau Llywodraeth Cymru ar Gynnwys a Chynorthwyo Disgyblion. Mae’r rhain yn cynnwys cyngor ar ddarparu addysg gynhwysol a datblygu polisïau presenoldeb yn yr ysgol ac ymddygiad:

Efallai eich bod wedi sylwi bod nifer o bethau'n gyffredin yn y diffiniadau gwahanol, ond maent yn amrywio hefyd. Er enghraifft, efallai eich bod wedi sylwi bod disgrifiad AdAS yn canolbwyntio ar 'anghenion addysgol arbennig', tra bod y safbwyntiau eraill yn ystyried bod addysg gynhwysol yn mynd ymhell y tu hwnt i un grŵp penodol o ddysgwyr.

Er bod y gair 'cynhwysiant' bellach yn ymddangos yn rheolaidd yn nogfennau'r llywodraeth, nid oes yr un diffiniad 'swyddogol' ohono, ac yn y Deyrnas Unedig (yn yr un modd ag Unol Daleithiau America), nid yw'r termau 'cynhwysiant', 'addysg gynhwysol', 'integreiddio' na 'prif ffrydio' yn ymddangos unrhyw le mewn deddfwriaeth sylfaenol. O ganlyniad, pan fydd academyddion, rhieni, gweithredwyr a dogfennau'r llywodraeth yn sôn am gynhwysiant neu addysg gynhwysol, ymddengys eu bod yn defnyddio'r un term er nad yw'r hyn y maent yn ei ddweud o bosibl yn golygu'r un peth o gwbl.

Gweithgaredd 2: Beth mae cynhwysiant yn ei olygu i chi?

Ailddarllenwch y diffiniadau uchod a'u cymharu â'ch syniadau eich hun a pholisi cynhwysiant eich ysgol, yna nodwch eich diffiniad eich hun o gynhwysiant addysgol. Efallai yr hoffech ystyried y canlynol:

  • Pwy sy'n cael ei gynnwys?
  • Pa eiriau allweddol yr hoffech eu cynnwys yn eich diffiniad?
  • A yw hyn yn wahanol i'r profiadau o gynhwysiant rydych wedi eu cael neu wedi darllen amdanynt?
  • Sut mae polisi cynhwysiant eich ysgol yn cymharu â'r diffiniadau uchod?

Cofnodwch eich meddyliau mewn blog ar wefan y cwrs.

Sylw

Dyma rai o'r syniadau a gawsom mewn ymateb i'r gweithgaredd hwn. Byddwch yn sylwi bod nifer ohonynt yn ymestyn y diffiniadau ar ddechrau'r adran hon yn sylweddol:

  • Mae addysg gynhwysol yn mynd y tu hwnt i 'anghenion addysgol arbennig': mae'n cyfeirio at bob dysgwr sydd, am resymau gwahanol, yn wynebu risg o gael ei ymyleiddio neu ei wahardd.

  • Mae addysg gynhwysol yn ymwneud â gwerthoedd: mae'n tybio bod grwpiau amrywiol o ddisgyblion yn gyfartal a bod ganddynt yr hawl i gael eu cynnwys.

  • Nid yw addysg gynhwysol yn canolbwyntio ar ddiffygion unigol canfyddedig, ond ar y rhwystrau i ddysgu y gall unigolion a grwpiau o ddisgyblion eu hwynebu.

  • Mae addysg gynhwysol yn ymwneud â newid y system er budd pawb: mae hyn yn cynnwys athrawon, myfyrwyr a phawb yn y sefydliad addysgol.

  • Mae addysg gynhwysol yn ymwneud â chymryd rhan a dysgu oddi wrth ei gilydd.

  • Nid yw addysg gynhwysol yn sefydlog – mae'n datblygu.

2 Modelau meddwl

Yn Adran 1, gofynnwyd i chi ystyried eich diffiniadau eich hun o addysg gynhwysol. Yn Adran 2, rydym yn dangos sut mae profiad personol o gynhwysiant ac allgáu wedi bod yn ffactor ysgogi mawr wrth ddatblygu addysg gynhwysol, gydag oedolion anabl yn arbennig yn ei chael hi'n anodd ailddiffinio eu profiadau o addysg. Un rhwystr mawr i ailddiffinio fu'r newid tuag at fodel anabledd cymdeithasol.

Fel rhan o'u hymchwil academaidd, disgrifiodd Rieser a Mason fodel a oedd ‘not necessarily the truth as borne out by scientific fact, just an idea that helps us to make sense of information’ (Rieser a Mason, 1992, t. 13). Ac yntau'n ysgrifennu o safbwynt person anabl, mae Mason yn disgrifio'r modd y mae ymagweddau meddygol at nam wedi arwain at y farn bod pobl yn wrthrychau unigol y dylid eu trin, eu newid, eu gwella a'u gwneud yn fwy normal. (Rieser a Mason, 1992, t. 13). Mae'r model anabledd meddygol yn honni bod angen i berson anabl fod yr un peth â phawb arall yn hytrach nag ystyried sut y gallai cymdeithas ei hun newid. Mae Rieser a Mason yn cyferbynnu'r farn hon â'r model anabledd cymdeithasol:

“Barn pobl anabl o'r sefyllfa yw, er ei bod yn bosib fod gennym gyflyrau meddygol sy'n ein rhwystro rywfaint - rhai a all fod angen triniaeth feddygol neu beidio, mae safon y wybodaeth ddynol, technoleg ac adnoddau cyfunol sydd eisoes yn bodoli yn golygu nad oes rhaid i'n namau corfforol neu feddyliol ein hatal rhag gallu byw bywydau perffaith dda. Amharodrwydd cymdeithas i roi'r dulliau hyn ar waith i newid ei hun, yn hytrach na ni, sy'n achosi ein hanableddau.”

(Rieser a Mason, 1992, t. 15)

Mae Rieser a Mason wedi cyferbynnu'r modelau meddygol a chymdeithasol ac wedi dangos goblygiadau pob ffordd o feddwl i ysgolion. Dangosir hyn yn Nhabl 1 isod:

Tabl 1 Cymharu'r modelau anabledd meddygol a chymdeithasol
Y model meddygol Y model cymdeithasol
Mae'r plentyn yn ddiffygiol Caiff y plentyn ei werthfawrogi
Diagnosis Caiff cryfderau ac anghenion y plentyn eu diffinio ganddo ef ei hun ac eraill
Labelu Caiff rhwystrau eu nodi ac atebion eu datblygu
Daw'r nam yn ffocws sylw Caiff rhaglenni sy'n seiliedig ar ganlyniadau eu dylunio
Asesu, monitro Darperir adnoddau
Gwahanu a gwasanaethau amgen Hyfforddiant i rieni a gweithwyr cymdeithasol
Anghenion arferol yn cael eu rhoi o'r neilltu Caiff cydberthnasau eu meithrin
Aildderbyn y plentyn os yw'n ddigon 'normal' neu ei allgáu'n barhaus Croesewir amrywiaeth; croesewir y plentyn
Nid yw cymdeithas yn newid Mae cymdeithas yn datblygu
Gan: Rieser (2001, t. 139).

Tra bod Rieser a Mason yn canolbwyntio ar agweddau ac ymatebion i anabledd, gellid cymhwyso eu dadansoddiad at nifer o grwpiau o bobl ifanc sy'n teimlo eu bod yn cael eu hymyleiddio mewn sefyllfaoedd dysgu. Nid dysgwyr ag anableddau neu anawsterau dysgu yn unig sy'n teimlo eu bod yn cael eu hallgáu. Gall allgáu fod yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, ac fel y dangosodd Ghuman (1999) yn ei waith gyda phobl ifanc yn eu harddegau yn Ne Affrica, mae rhai poblogaethau yn teimlo eu bod yn destun sawl math o allgáu – hiliol, cymdeithasol, addysgol ac economaidd. Mae sawl math o allgáu wedi'i gofnodi yn Lloegr, lle mae Parsons (1999), er enghraifft, wedi archwilio'r cyswllt rhwng ethnigrwydd ac achosion o allgáu o'r ysgol, ac wedi cofnodi'r nifer anghymesur o fyfyrwyr o leiafrifoedd ethnig sy'n cael eu hallgáu'n barhaus o'r ysgol.

Gweithgaredd 3: Profiad o safbwynt diffygiol

Meddyliwch am enghreifftiau o'ch profiad chi eich hun lle mae unigolion neu grwpiau o ddysgwyr wedi cael eu hystyried o safbwyntiau 'diffygiol'. Mae hyn yn debygol o ymwneud ag ochr chwith Tabl 1 uchod. (Gallech hefyd ystyried eich profiadau chi eich hun fel dysgwr.) Pa effaith y mae hyn wedi ei chael ar eu profiad nhw (neu eich profiad chi) o gynhwysiant mewn cyd-destunau dysgu penodol? Nodwch i ba raddau y gellir ystyried y deilliannau hyn yn rhai cadarnhaol a/neu negyddol o safbwynt y dysgwr.

Cofnodwch eich meddyliau mewn blog ar wefan y cwrs.

Gall modelau meddwl penodol ddylanwadu ar gyfleoedd dysgu drwy gyfyngu ar ddisgwyliadau athrawon a dysgwyr. Wrth ysgrifennu am hanes bywyd pobl sydd wedi cael profiad o 'addysg arbennig', mae Armstrong (2003) yn dangos effaith modelau o'r fath. Mae'n cyfeirio at achos Penny, a fynychodd ddosbarth anghenion arbennig mewn coleg addysg bellach lleol ar ôl gadael ysgol arbennig. Dyma beth ddigwyddodd pan benderfynodd Penny ei bod am ymuno â chwrs arlwyo llawn amser yn y coleg arferol:

‘Es i i weld fy nhiwtor ynglŷn â'r cwrs, ond nid yw am i mi ei ddilyn. Mae ef am i mi ddilyn cwrs sydd ond yn cael ei gynnal un diwrnod yr wythnos. Dim ond pobl o ysgolion arbennig sy'n ei ddilyn. Dydw i ddim am wneud hynny ond mae'n debyg y caiff ef ei ffordd.’

(Penny, yn Armstrong, 2003, t. 108)

Mae Armstrong yn tynnu sylw at y ffaith mai'r cwestiwn i Penny oedd pwy ddylai ddiffinio ei fuddiannau. Roedd penderfyniadau'n cael eu gwneud amdani ar sail disgwyliadau gweithwyr proffesiynol o bobl ag 'anableddau dysgu' yn hytrach nag ar sail ei barn hi. Fodd bynnag, roedd Penny yn barod i ymwrthod a phenderfynodd gysylltu'n uniongyrchol ag athro'r cwrs prif ffrwd. Wrth siarad am ei thiwtor, dywedodd Penny:

‘Dydy'r hyn sy'n bwysig i mi ddim yn bwysig iddo ef. Mae ef am i mi wneud yr hyn sydd orau i mi, yn ei farn ef. Oherwydd fy mod yn y ganolfan hon, mae'n anodd i mi gael lle ar gwrs prif ffrwd a gwneud yr hyn rydw i am ei wneud. Gwnaeth neb hyd yn oed ofyn i mi a oeddwn i am fod mewn sefyllfa brif ffrwd neu sefyllfa ar wahân. Dyna fyddwn i wedi ei hoffi. Byddwn i wedi hoffi pe bai rhywun wedi trafod â mi ac wedi gofyn i mi: "Fyddet ti'n hoffi rhoi cynnig ar gwrs prif ffrwd, yna os byddi di'n cael trafferth, mynna sgwrs gydag aelod o'r Ganolfan Dysgu â Chymorth." Hynny yw, dylai fod gan fyfyrwyr yr hawl i leisio eu barn ac i ddisgwyl i rywun wrando arnynt. Gwrando arnynt yn hytrach na'u hanwybyddu drwy'r amser.’

(Penny, yn Armstrong, 2003, t. 109)

Mae stori Penny yn codi cwestiynau am anghenion, hawliau a chyfranogiad, y mae pob un ohonynt yn feysydd trafod allweddol wrth i ni geisio diffinio cynhwysiant. Efallai y byddwn yn teimlo bod yr holl gwestiynau hyn yn ymwneud â phŵer cymharol mewn systemau addysg.

Gweithgaredd 4: Anghenion Penny

Yn y gweithgaredd hwn gofynnir i chi ystyried sut mae profiadau disgybl o 'addysg arbennig' wedi effeithio ar ei brofiadau addysgol diweddarach a'i hunan-barch. Yn gyntaf, ysgrifennwch ddiffiniad byr o 'anghenion' Penny. Dychmygwch mai chi yw Penny. Sut y byddech chi'n diffinio eich anghenion eich hun?

Dylech bwysleisio pwysigrwydd ystyried 'anghenion' o wahanol safbwyntiau: ystyriwch sut mae pobl wahanol yn 'creu' anawsterau dysgu, yn seiliedig ar eu profiadau personol a/neu broffesiynol.

Cofnodwch eich meddyliau mewn blog ar wefan y cwrs.

Sylw

Wrth gynnal y gweithgaredd hwn, efallai y byddwch wedi dod i gasgliadau tebyg i rai Armstrong (2003), sy'n nodi:

“Gall y diffiniad o ‘anghenion’ mewn unrhyw sefyllfa benodol godi o drafodaethau rhwng pobl â diddordebau gwahanol, a diddordebau sy’n gwrthdaro weithiau (er enghraifft, diddordebau athrawon, rhieni, disgyblion eraill, yr AALI a chynghorwyr proffesiynol yr AALI).”

(Armstrong, 2003, t. 87)

Efallai na fydd Penny yn cytuno â'r hyn y gallai fod ei 'angen' arni ym marn gweithiwr proffesiynol, er enghraifft grwpiau bach, amgylchedd diogel, deunyddiau wedi'u haddasu. O'i safbwynt hi, yr hyn sydd ei angen arni yw ymreolaeth a'r pŵer i wneud penderfyniadau yn ei bywyd.

I Penny, mae disgwyliadau pobl eraill ohoni yn creu rhwystr i ddysgu. Serch hynny, mae'n herio'r disgwyliadau hynny ac mae ganddi ymdeimlad cryf o'i hawl i ddisgwyl i rywun wrando arni. Mae'n arfer ei hawl i gymryd rhan yn ei haddysg yn y ffordd y mae'n dymuno gwneud hynny. Mae 'cynnwys Penny' yn golygu newid sylfaenol mewn safbwyntiau a disgwyliadau, sy'n gofyn am newidiadau i ddiwylliant ymhlith unigolion ac mewn ystafelloedd dosbarth ac ysgolion.

3 Trawsnewid dysgu

Pwy y dylid ei gynnwys?

Mae rhai beirniaid wedi crybwyll bod y ffocws ar fyfyrwyr ag anableddau ac anawsterau dysgu yn tynnu sylw oddi ar y broblem wirioneddol, hynny yw, y prosesau cynhwysiant ac allgáu sy'n golygu nad yw nifer o fyfyrwyr, nid y rhai hynny ag anableddau yn unig, yn gallu cymryd rhan mewn cymunedau a diwylliant prif ffrwd (Booth, 1996). Mae prosesau o'r fath yn effeithio ar nifer o fyfyrwyr, nid y rhai hynny ag 'anghenion addysgol arbennig' yn unig.

Yn unol â'r ffordd hon o feddwl, dylai'r astudiaeth o gynhwysiant ymwneud â deall a mynd i'r afael â'r mater ehangach o ymyleiddio a goblygiadau'r broses hon i grwpiau sy'n cael eu hymyleiddio. Mae yna amrywiaeth o grwpiau o ddysgwyr a allai gael eu cynnwys yma: myfyrwyr teithiol, myfyrwyr aeddfed, y rhai sy'n byw mewn tlodi, grwpiau ieithyddol ac ethnig lleiafrifol; neu'n debygol iawn, gallwch feddwl am rai eraill. Y pwynt pwysig yw na allwn ystyried y grwpiau hyn ar wahân os ydym am sicrhau newidiadau gwirioneddol i'n system addysg (Dyson, 2001).

Gweithgaredd 5: Profiadau o ymyleiddio

Ar sail eich profiad chi, pa grwpiau sy'n debygol o gael eu hymyleiddio, yn eich barn chi? Sut mae'r cyd-destun dysgu naill ai wedi cyfrannu at ymyleiddio neu wedi mynd i'r afael ag ef? Efallai y byddwch am feddwl am grwpiau cyffredinol o fyfyrwyr yn eich ysgol sy'n 'wahanol' i'r mwyafrif mewn rhyw ffordd. Mae eich enghreifftiau yn debygol o fynd y tu hwnt i anabledd ac anhawster dysgu, a gallant gynnwys, er enghraifft, myfyrwyr ag anawsterau ieithyddol a chymdeithasol.

Os ydych yn cwblhau'r dysgu hwn fel rhan o grŵp, unwaith y byddwch wedi hel eich meddyliau, treuliwch rywfaint o amser yn egluro eich enghreifftiau i ffrind. A yw ef neu hi yn cytuno â'ch dadansoddiad?

Cofnodwch eich meddyliau mewn blog ar wefan y cwrs.

3.1 Safbwynt cyffredinol ar gynhwysiant

Mae diffiniadau o gynhwysiant ac addysg gynhwysol wedi symud i ffwrdd oddi wrth ffocws penodol ar anabledd tuag at safbwynt ehangach sy'n cwmpasu myfyrwyr o grwpiau ethnig ac ieithyddol lleiafrifol, myfyrwyr o gartrefi dan anfantais economaidd, myfyrwyr sy'n absennol yn rheolaidd neu fyfyrwyr sy'n wynebu risg o gael eu hallgáu. Mae 'addysg gynhwysol' wedi dod i olygu darparu fframwaith lle y caiff pob plentyn – beth bynnag fo'i allu, ei ryw, ei iaith neu ei darddiad ethnig neu ddiwylliannol – ei werthfawrogi'n gyfartal a'i drin â pharch, a lle y caiff gyfleoedd dysgu gwirioneddol. Mae addysg gynhwysol yn ymwneud â chyfranogiad a chyfle cyfartal i bawb – hynny yw, 'aelodaeth lawn' o ysgol ac, yn ddiweddarach, cymdeithas. Mae safbwynt o'r fath ar gynhwysiant yn herio strwythurau a systemau presennol sydd wedi cyfrannu at y rhwystrau y mae dysgwyr yn eu hwynebu.

Er mwyn sicrhau cynhwysiant, mae angen trawsnewid cyd-destunau dysgu:

Ym myd addysg, mae cynhwysiant yn ymwneud â diwygio ac ailstrwythuro'r ysgol gyfan, gyda'r nod o sicrhau bod pob disgybl yn gallu manteisio ar yr amrywiaeth lawn o gyfleoedd addysgol a chymdeithasol a gynigir gan yr ysgol. Mae hyn yn cynnwys y cwricwlwm dan sylw, asesu, cofnodi ac adrodd ar gyflawniadau disgyblion, y penderfyniadau a wneir wrth grwpio disgyblion mewn ysgolion neu ystafelloedd dosbarth, addysgeg ac arferion ystafell ddosbarth, chwaraeon a hamdden a chyfleoedd hamdden.

(Mittler, 2000, t. 2)

Nid yn unig y mae i'r broses drawsnewid hon oblygiadau radical o ran y ffordd rydym yn ystyried gwreiddiau dysgu ac anawsterau ymddygiadol, ond mae hefyd yn gofyn am newid systematig a pholisi cenedlaethol (Mittler, 2000, t. 5). Mae cyd-destun cymdeithasol ehangach addysg gynhwysol, ar lefel genedlaethol a rhyngwladol, yn elfen hanfodol o'n dealltwriaeth o gynhwysiant mewn ysgol.

3.2 O integreiddio i gynnwys

Mae 'addysg gynhwysol' yn mynd y tu hwnt i 'integreiddio' – term a ddefnyddiwyd yn gyffredinol hyd at ddiwedd y 1990au i ddisgrifio'r broses o symud plentyn neu grwpiau o blant i ysgolion prif ffrwd. Roedd 'integreiddio' yn derm a ddefnyddiwyd gan sefydliadau fel CSIE (sef y Ganolfan ar gyfer Astudiaethau mewn Integreiddio ym maes Addysg yn wreiddiol) wrth drefnu lleoliadau yn y gymdogaeth i fyfyrwyr, ac roedd yn awgrymu bod angen i'r myfyriwr addasu i'r ysgol, yn hytrach nag i'r ysgol newid ei harferion ei hun. Roedd yn ymddangos mai cyfrifoldeb y rheini a oedd am fynd i ysgolion prif ffrwd oedd newid, yn hytrach nag ysgolion prif ffrwd yn addasu ac yn newid eu hunain er mwyn cynnwys amrywiaeth fwy o ddisgyblion.

Mae 'addysg gynhwysol' yn awgrymu newid radical mewn agweddau a pharodrwydd ymhlith ysgolion i newid arferion wrth grwpio ac asesu disgyblion a chyflwyno'r cwricwlwm. Nid yw'r syniad o gynhwysiant yn gosod ffiniau mewn perthynas â mathau penodol o anabledd neu anhawster dysgu. Yn lle hynny, mae'n canolbwyntio ar allu'r ysgol ei hun i ddiwallu amrywiaeth o anghenion.

Nid yw'r newid o 'integreiddio' i 'gynhwysiant' yn golygu newid syml mewn terminoleg er mwyn sicrhau cywirdeb gwleidyddol yn unig, ond yn hytrach newid sylfaenol mewn safbwyntiau. Mae'n awgrymu newid i ffwrdd oddi wrth fodel 'diffyg', lle tybir bod anawsterau wedi'u gwreiddio yn y plentyn, i fodel 'cymdeithasol', lle mae rhwystrau i ddysgu yn bodoli yn strwythurau'r ysgolion eu hunain ac, yn fwy cyffredinol, yn agweddau a strwythurau cymdeithas. Yr hyn sy'n sail i'r dull 'cynhwysol' yw'r dybiaeth bod gan blant yr hawl i gymryd rhan yn y profiad a gynigir yn yr ystafell ddosbarth brif ffrwd.

Yn ôl Daniels a Garner (1999), er nad yw'r cysyniad o gynhwysiant yn rhywbeth newydd, mae dadleuon sy'n gynyddol seiliedig ar hawliau sy'n mynd y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth wedi rhoi hwb newydd iddo:

Y galw croch, cynyddol ac eang diweddar i sefydlu hawliau unigol fel elfen ganolog o lunio polisi sydd wedi rhoi'r hwb i sicrhau lle cadarn i gynhwysiant ar yr agenda ar gyfer newid cymdeithasol.

(Daniels a Garner, 1999, t. 3)

3.3 Datganiad Salamanca

Yn 1994, cyfarfu dros 300 o gyfranogwyr – gan gynnwys 92 o lywodraethau a 25 o sefydliadau rhyngwladol – yn Salamanca, Sbaen, gyda'r nod o ddatblygu amcanion addysg gynhwysol ymhellach. Cafodd y Datganiad Salamanca (UNESCO, 1994) a ddeilliodd o hynny ei lywio gan safbwyntiau ar addysg a oedd yn seiliedig ar hawliau. Er bod y Datganiad yn canolbwyntio ar blant ag 'anghenion arbennig', pennodd o'r cychwyn cyntaf ei ymrwymiad i wneud y canlynol:

Ailddatgan hawl bob unigolyn i addysg, fel sydd wedi'i gynnwys yn Natganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol 1948, ac adnewyddu'r addewid a wnaed gan gymuned y byd yng Nghynhadledd y Byd ar Addysg i Bawb 1990 i sicrhau'r hawl hwnnw i bawb, ni waeth beth fo'n gwahaniaethau unigol.

(UNESCO, 1994, t. vii)

Yn ddiweddarach, yn yr adran ar ganllawiau ar gyfer camau gweithredu cenedlaethol, cydnabu'r Datganiad nad oedd y rhan fwyaf o'r newidiadau gofynnol yn ymwneud â phlant ag anghenion addysgol arbennig yn unig (t. 21); yn hytrach, maent yn rhan o raglen diwygio addysg ehangach sydd ei hangen i wella ansawdd a pherthnasedd addysg a hyrwyddo lefelau uwch o gyflawniad dysgu gan bob dysgwr.

Gosododd y Datganiad y rhaglen diwygio addysg yn gadarn o fewn agenda gymdeithasol ehangach a oedd yn cynnwys iechyd, lles cymdeithasol a hyfforddiant galwedigaethol a chyflogaeth. Roedd yn pwysleisio y dylai'r gwaith o gynllunio, monitro a gwerthuso darpariaeth ar gyfer addysg gynhwysol fod yn gyfranogol ac wedi'i ddatganoli, ac y dylai annog rhieni, cymunedau a sefydliadau pobl ag anableddau i fod yn rhan o waith cynllunio a gwneud penderfyniadau (UNESCO, 1994, t. ix).

Cydnabu'r Datganiad fod gan nifer o wledydd systemau ysgolion arbennig sefydledig ar waith i'r rhai hynny â namau penodol, ac y gallai'r ysgolion hyn fod yn adnodd gwerthfawr ar gyfer datblygu ysgolion cynhwysol (UNESCO, 1994, t. 12). Fodd bynnag, anogodd wledydd heb system o'r fath i ganolbwyntio eu hymdrechion ar ddatblygu ysgolion cynhwysol. (UNESCO, 1994, t. 13) ochr yn ochr â gwasanaethau cymorth arbenigol er mwyn eu galluogi i gyrraedd y mwyafrif o blant a phobl ifanc. Dylai pob polisi lleol a chenedlaethol sicrhau bod plant ag anableddau yn gallu mynychu ysgol eu cymdogaeth.

Mae Evans, l. et al. (1999) wedi nodi bod Datganiad Salamanca a phroclamasiynau eraill gan y Cenhedloedd Unedig yn cael dylanwad mawr ar safbwyntiau rhyngwladol ar gynhwysiant.

3.4 Y Ganolfan ar gyfer Astudiaethau ar Addysg Gynhwysol (CSIE)

Yn y DU, gellir gweld dylanwad Datganiad Salamanca yng ngwaith y Ganolfan ar gyfer Astudiaethau ar Addysg Gynhwysol (CSIE), sy'n nodi bod addysg gynhwysol yn ymwneud yn bennaf â hawliau dynol. Mae maniffesto CSIE, sef ‘Ten reasons for inclusion’, yn nodi yn ei bennawd: ‘Inclusive education is a human right, it’s good education and it makes good social sense’ (CSIE, 2002). Mae'r maniffesto wedyn yn ymhelaethu ar 'hawliau dynol' drwy ddarparu rhestr bellach o hanfodion, sef:

  1. Mae gan bob plentyn yr hawl i ddysgu gyda'i gilydd
  2. Ni ddylai plant gael eu dibrisio ac ni ddylid gwahaniaethu yn eu herbyn drwy eu hallgáu neu eu hanfon i ffwrdd oherwydd eu hanabledd neu anhawster dysgu
  3. Mae oedolion anabl, sy'n disgrifio eu hunain yn oroeswyr ysgolion arbennig, yn galw am roi terfyn ar wahanu
  4. Nid oes unrhyw resymau dilys dros wahanu plant ym myd addysg. Dylai plant gael eu cadw gyda'i gilydd – gan gynnig manteision a buddiannau i bawb. Nid oes angen iddynt gael eu hamddiffyn rhag ei gilydd
(CSIE, 2002)

Mewn man arall, mae CSIE yn gofyn y cwestiwn, ‘Why do we need inclusion?’, ac yn mynegi'r ateb yn nhermau hawliau dynol:

Am fod gan blant – beth bynnag fo’u hanabledd neu anhawster dysgu – ran i’w chwarae mewn cymdeithas ar ôl yr ysgol. Dechrau cynnar mewn grwpiau chwarae neu ysgolion meithrin prif ffrwd, ac yna addysg mewn ysgolion a cholegau arferol, yw'r ffordd orau o baratoi ar gyfer bywyd integredig.

(CSIE, 2018)

Mae'n dadlau bod addysg gynhwysol yn orchymyn moesol oherwydd:

Mae gan blant anabl hawl cyfartal i aelodaeth o'r un grwpiau â phawb arall. Mae addysg ar wahân yn cyfyngu ar yr hawl hwnnw ac yn lleihau cyfleoedd ar gyfer hunan-gyflawniad. Nid oes angen i bobl ag anableddau neu anawsterau dysgu gael eu gosod ar wahân na'u gwarchod.

(CSIE, 2018)

Er mai prif ffocws CSIE yw pobl ifanc ag anableddau ac anawsterau dysgu, mae iaith y sefydliad yn debyg iawn i'r iaith hawliau dynol a ddefnyddiwyd, er enghraifft, yn Unol Daleithiau America mewn perthynas â chyfle cyfartal i fyfyrwyr duon ers y 1950au. Yn benodol, mae'n adleisio'r penderfyniad hollbwysig a wnaed yn 1954 gan Oruchaf Lys UDA yn achos Brown v Y Bwrdd Addysg, a bennodd fod gan blant duon, nid yn unig yr hawl i gael addysg, ond bod ganddynt hefyd yr hawl i gael yr un addysg â phlant gwyn. Wrth ddatgan na all ar wahân fyth olygu cyfartal, arweiniodd dyfarniad achos Brown at amrywiaeth o bolisïau camau cadarnhaol yn system addysgol UDA, a gafodd effaith, nid yn unig ar drefniadaeth y cwricwlwm a chyfleoedd yn ysgolion cynradd ac uwchradd UDA, ond hefyd ar bolisïau derbyn prifysgolion.

3.5 Trawsnewid dysgu yng Nghymru – y Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol

Yn ei chynllun gweithredu ar gyfer 2017-21, ‘Cenhadaeth ein Cenedl’ ymrwymodd Llywodraeth Cymru i gyflawni'r dasg uchelgeisiol o drawsnewid ei pholisi addysg. Mae'r gyfres o ddiwygiadau yn cynnwys datblygiadau yn y meysydd canlynol: dysgu proffesiynol ac addysg i athrawon; y safonau addysgu proffesiynol; asesu; arolygu; arferion arwain a rheoli ysgolion ac, yn arbennig i ni yma, y cwricwlwm. Un o gonglfeini'r cwricwlwm newydd yw 'bod yn rhaid iddo fod yn briodol i bob dysgwr ym mhob ystafell ddosbarth', 'yn seiliedig ar degwch a rhagoriaeth', a 'helpu i feithrin ein pobl ifanc yn ddinasyddion hyderus, galluog a gofalgar' (Llywodraeth Cymru, 2017, t. 17). Rhan annatod o'r broses o ddiwygio'r cwricwlwm yw'r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol, a ddatblygwyd er mwyn helpu i gyflawni Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2017. Y weledigaeth ar gyfer y Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol yw:

Creu system addysg gwbl gynhwysol lle rhoddir cyfle i bob dysgwr lwyddo a chael addysg sy’n diwallu ei anghenion ac yn ei alluogi i fynd ati i ddysgu, manteisio ar ei addysg a’i mwynhau.

Llywodraeth Cymru, 2018, t. 25

Fel y nodwyd yn y ‘Trosolwg o’r ymgynghoriad ynghylch y cod anghenion dysgu ychwanegol drafft’, cafodd llawer o 2018 a 2019 ei glustnodi i ddatblygu'r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd drwy amrywiaeth o ymgyngoriadau ac adolygiadau â rhanddeiliaid allweddol, a'r pwysicaf o blith y rhanddeiliaid hyn oedd y plant eu hunain. Bwriad Llywodraeth Cymru oedd cyflwyno'r cod newydd o 2020, gyda'r hyfforddiant ar ei weithredu yn dechrau ym mis Ionawr a'r system yn mynd yn fyw ym mis Medi y flwyddyn honno. Byddai'r system anghenion addysgol arbennig ac anawsterau a/neu anableddau dysgu bresennol yn rhedeg ochr yn ochr â'r cod newydd, hyd nes iddi gael ei diddymu’n llwyr yn 2023.

Mae'r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol yn mynd i'r afael â rhai o nodau lefel uwch Cenhadaeth Ein Cenedl. Mae'r rhain yn cynnwys helpu pob dysgwr i fod yn uchelgeisiol, yn flaengar, yn wybodus ac yn hyderus wrth wynebu cyfleoedd yn y dyfodol. Un o nodweddion eraill y cod yw ei fod wedi'i ddatblygu drwy ddull amlasiantaethol, gan gynnwys gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ochr yn ochr ag addysgwyr, gan gynnig profiad mwy cyfannol a chefnogol i'r dysgwr yn yr ysgol. Mae dymuniadau, anghenion a theimladau'r plentyn hefyd wrth wraidd y broses o gynllunio ei brofiadau. Bydd cynlluniau datblygu unigol, a fydd yn disodli'r system 'datganiad' yn y pen draw, yn aros gyda'r plentyn drwy ei addysg a thu hwnt, hyd nes ei fod yn 25 oed, fel y gellir cynnig darpariaeth addysgol fwy pwrpasol a thrylwyr. Mae 'addysg gynhwysol' yn un o bum egwyddor sylfaenol y Cod, lle caiff pob plentyn ei gefnogi i fanteisio ar 'addysg brif ffrwd', a lle mae'r 'lleoliad cyfan' yn ceisio diwallu anghenion dysgwyr ag ADY. (Llywodraeth Cymru, 2018, t. 25)

Gyda chynifer o ddiwygiadau ar waith ar yr un pryd ym maes addysg yng Nghymru, ni fydd yn hawdd asesu effaith un newid penodol mewn polisi. Ond o'i ystyried fel rhan o'r gyfres ehangach hon o fentrau, dylai'r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol arwain at newidiadau cadarnhaol i'r plant hynny yng Nghymru ag anghenion dysgu ychwanegol. Gall hyd yn oed helpu Cymru i fod ar flaen y gad o ran addysg gynhwysol.

4 Cwis bathodyn gorfodol

Nawr mae'n amser i chi gwblhau'r cwis bathodyn gorfodol, sy'n cynnwys wyth cwestiwn.

Gallwch agor y cwis mewn ffenestr neu dabl newydd a dychwelyd at y cwrs ar ôl i chi ei gwblhau.

Cofiwch, mae'r cwrs yn cyfrif tuag at eich bathodyn. Os na fyddwch yn llwyddiannus y tro cyntaf, gallwch roi cynnig arall ar y cwis ymhen 24 awr.

5 Casgliad

Mae sylwebwyr (e.e. Pijl et al., 1997) wedi disgrifio addysg gynhwysol fel 'agenda fyd-eang'. Mae dyfalbarhad y grymoedd sy'n ymyleiddio unigolion neu grwpiau o ddysgwyr, yn ogystal â modelau a fyddai'n eu categoreiddio mewn ffyrdd penodol, yn golygu bod sicrhau addysg gynhwysol yn her barhaus.

Byddwch yn dod i ddeall ar ddechrau'r adran hon pam yr oeddem yn teimlo ei bod yn bwysig diffinio'r hyn rydym ni ac eraill yn ei olygu wrth y term 'cynhwysiant'. Y rheswm dros hyn yw bod yr hyn y mae'r term yn ei olygu yn cael ei ailddiffinio'n barhaus. Mae gan y llu o 'randdeiliaid' gwahanol ym maes addysg sy'n defnyddio'r term eu diffiniad eu hunain ohono, ac mae'n bwysig eich bod yn cadw'n ymwybodol o newidiadau mewn pwyslais a bwriad.

Ar ôl darllen yr uned hon fe welwch ein bod yn trafod syniadau o ran yr hyn y gallai addysg gynhwysol ei olygu. Yr hyn nad ydym wedi ei wneud ar y pwynt hwn yw ystyried a yw addysg gynhwysol yn 'beth da' ai peidio. Mae yna hanes hir o addysg ar wahân ac arbennig, ac mae hyn yn dylanwadu'n fawr ar addysg (Y Brifysgol Agored, 2003). Mae'n hawdd dod ar draws dadleuon yn erbyn addysg gynhwysol naill ai fel cysyniad neu o ran y ffordd y caiff ei chyflwyno. Efallai y byddwch nawr yn teimlo'n fwy gwybodus fel llywodraethwyr ysgol i ofyn cwestiynau am bolisi ac ethos eich ysgol mewn perthynas ag addysg gynhwysol a'r modd y gallai barhau i ddatblygu a gwella.

Cyfeirnodau

Armstrong, D. (2003) Experiences of Special Education: Re-evaluating Policy and Practice Through Life Stories, Llundain: Routledge Falmer.
Aspis, S. (2004) ‘Why exams and tests do not help disabled and non-disabled children learn in the same school’, quoted in the OpenLearn course Inclusive education: knowing what we mean. Ar gael yn: https://www.open.edu/ openlearn/ education/ educational-technology-and-practice/ educational-practice/ inclusive-education-knowing-what-we-mean/ content-section-0 (cyrchwyd 2 Hydref 2018).
Booth, T. (1996) ‘A perspective on inclusion from England’, Cambridge Journal of Education, 26(1): 87–99.
Daniels, H. (gol) (2000) Special Education Re-formed: Beyond Rhetoric?, Llundain: Falmer Press.
Daniels, H. and Garner, P. (gol) (1999) Inclusive Education, World Yearbook of Education, Llundain: Kogan Page.
Darlington, C. (2003) ‘The challenges of effective inclusion’, Times Educational Supplement, 19 Medi.
Dyson, A. (2001) ‘Special needs as the way to equity: an alternative approach?’, Support for Learning, 16(3): 99–104.
Mittler, P. (2000) Working Towards Inclusive Education: Social Contexts, Llundain: David Fulton.
Pijl, S.J., Meijer, C. and Hegarty, S. (eds) (1997) Inclusive Education: A Global Agenda, Llundain: Routledge.
Rieser, R. (2001) ‘The struggle for inclusion: the growth of a movement’, yn L. Barton (ed.) Disability, Politics and Struggle for Change, Llundain: David Fulton.
Rieser, R. a Mason, M. (1992) Disability Equality in the Classroom: A Human Rights Issue (rev. edn), Llundain: Disability Equality in Education.
Sefydliad Addysgol, Gwyddonol a Diwylliannol y Cenhedloedd Unedig (UNESCO) (1994) The Salamanca Statement and Framework for Action on Special Needs Education, Paris: UNESCO.
Y Brifysgol Agored (OU) (2003) ‘Thinking it through’, E243 Inclusive education: learning from each other, Llyfr 2, Milton Keynes: Y Brifysgol Agored.
Y Ganolfan Astudiaethau Addysg Gynhwysol (CSIE) (2002) ‘Ten reasons for inclusion’ (poster). Ar gael yn: http://www.csie.org.uk/ resources/ ten-reasons-02.pdf (cyrchwyd 2 Hydref 2018).
Y Ganolfan Astudiaethau Addysg Gynhwysol (CSIE) (2018) ‘What is inclusion?’. Available at: http://www.csie.org.uk/ inclusion/ what.shtml (cyrchwyd 2 Hydref 2018).
Y Ganolfan Gynghorol dros Addysg (ACE) (2004) ‘Laws to protect children with SEN “in conflict”’, Bwletin rhif 121, Hydref, t. 4.
Yr Adran Addysg a Sgiliau (DfES) (2001b) Inclusive Schooling: Children with Special Educational Needs, Llundain: AdAS.

Diolchiadau

Ysgrifennwyd y cwrs am ddim hwn gan Jeremy Wilcox, ar sail y cwrs OpenLearn, Addysg gynhwysol: deall yr hyn a olygwn.

Heblaw am ddeunyddiau gan drydydd partïon a deunyddiau a nodwyd fel arall (gweler y telerau ac amodau), mae'r cynnwys hwn ar gael o dan Creative Commons Attribution-NonCommercial-ShareAlike 4.0 Licence.

Mae'r deunydd a gaiff ei gydnabod isod yn Berchenogol ac fe'i defnyddir dan drwydded (nid yw'n ddarostyngedig i Drwydded Creative Commons). Rydym yn ddiolchgar iawn i'r ffynonellau canlynol am roi caniatâd i ni atgynhyrchu deunydd yn y cwrs am ddim hwn:

Delweddau

Llun ar y clawr: athro a phlant, monkeybusinessimages/iStock/Getty Images Plus; Adran 1: grŵp o blant, FatCamera/Getty Images; Adran 3: athro a myfyrwyr, skynesher/Getty Images; Adran 3.4: Maniffesto'r CSIE, y Ganolfan ar gyfer Astudiaethau ar Addysg Gynhwysol (CSIE) (2002) ‘Ten reasons for inclusion’ (poster), ar gael yn http://www.csie.org.uk/ resources/ ten-reasons-02.pdf; Adran 3.5: plant mewn ysgol, SDI Productions/iStock/Getty Images Plus.

Tablau

Tabl 1 Cymharu'r modelau anabledd meddygol a chymdeithasol:  Rieser, R. (2001) ‘The struggle for inclusion: the growth of a movement’, yn L. Barton (gol.) Disability, Politics and the Struggle for Change, Llundain: David Fulton.

Gwnaed pob ymdrech i gysylltu â pherchenogion hawlfreintiau. Os byddwn wedi hepgor unrhyw ffynonellau yn anfwriadol, bydd y cyhoeddwyr yn barod i wneud y trefniadau angenrheidiol ar y cyfle cyntaf.