2.6 Rhanddeiliaid

Mae gan fusnes lawer o randdeiliaid gwahanol. Y bobl gyntaf sy’n dod i’r meddwl yn aml yw’r rhanddeiliaid ariannol ac mae’n wir eu bod yn bwysig, ond gellir diffinio ‘rhanddeiliaid’ yn ehangach fel yr amrywiaeth o bobl sydd â buddiant yn y cwmni.

Mae Freeman (1984) yn diffinio rhanddeiliaid fel unrhyw grŵp neu unigolyn a all effeithio ar gamau i gyflawni amcanion y cwmni neu a gânt eu heffeithio gan y camau hynny; mae’n well gan Hill a Jones (1992) ddiffinio rhanddeiliaid fel etholwyr sydd â hawl ddilys dros y cwmni.

Nid asiantau allanol yn unig yw rhanddeiliaid. Gall eich teulu fod yn rhanddeiliaid pwysig, gallent ddibynnu ar y busnes ac efallai yr hoffech ofyn iddynt sut mae’r amser rydych yn ei dreulio ar eich busnes yn effeithio arnynt.

Yn achos Gwenllian, bydd ei gŵr – sy’n gynhyrchydd cerddoriaeth – yn ei helpu i gynhyrchu ei deunyddiau iaith. Drwy ddefnyddio’r cartref fel safle coginio, bydd yn rhaid i fywyd teuluol Gwyneth wneud lle i brosesau gweithgynhyrchu. Heb gefnogaeth ei deulu sy’n berchen ar yr adeiladau fferm y mae am eu defnyddio a’r fferm y mae’n gweithio arni ar hyn o bryd, ni all Euan sefydlu ei fragdy bach.

Gallai rhanddeiliaid gynnwys banciau, asiantaethau ariannu (fel awdurdodau dyfarnu grantiau), gweithwyr, cwsmeriaid, cyflenwyr, cyfranddalwyr (os yw hynny’n briodol), y gymuned leol, y wladwriaeth a’r rhai sy’n rhannu’r amgylchedd.

Nodi rhanddeiliaid

Yn hanesyddol, rhanddeiliaid oedd yr unigolion neu’r sefydliadau (gan gynnwys llysoedd weithiau) a oedd yn dal yr arian mewn bet neu gystadleuaeth arall. Roeddent yn annibynnol ar y betwyr neu’r cystadleuwyr ond roeddent yn bwysig iawn i’r canlyniadau. Yn fwy diweddar, caiff rhanddeiliaid eu hystyried yn grwpiau neu’n bartïon â buddiant nad ydynt o reidrwydd yn rhan uniongyrchol o drafodyn ond y mae eu tynged yn dod o dan ddylanwad gweithgareddau eich sefydliad neu hyd yn oed wedi’i rhwymo’n helaeth iddynt.

Mae rhai o’r rhanddeiliaid pwysicaf mwyaf cyffredin i gwmnïau bach yn cynnwys:

  • perchenogion
  • cyfranddalwyr
  • rheolwyr
  • gweithwyr
  • cyflenwyr
  • cwsmeriaid
  • defnyddwyr
  • credydwyr
  • pobl wedi ymddeol/pensiynwyr
  • dosbarthwyr
  • landlordiaid
  • gwasanaethau busnes (cyfreithiol, cyfrifyddu ac ati)
  • y gymuned leol
  • cymunedau lleol y cwsmeriaid
  • cymunedau lleol y cyflenwyr
  • perchenogion cwmnïau bach eraill
  • aelodau o rwydweithiau
  • cymdeithas/economi genedlaethol
  • cymdeithas/economi ryngwladol.

Bydd gan bob cwmni randdeiliaid gwahanol, a bydd eu pŵer a’u dylanwad yn amrywio o un sefyllfa i’r llall a thros amser.

Tasg 11: Rhanddeiliaid

Nodwch randdeiliaid eich busnes arfaethedig. Efallai yr hoffech ddefnyddio’r templed rhanddeiliaid [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]   ond peidiwch â chael eich cyfyngu ganddo.

Os yw ffactorau fel yr amgylchedd neu’ch teulu yn rhanddeiliaid pwysig yn eich busnes, ychwanegwch y rhain a/neu dilëwch un o’r rhanddeiliaid sydd wedi’u nodi yn y templed. Darllenwch y rhestr uchod i gael syniad o randdeiliaid eraill posibl. Gallwch gael cynifer ag sy’n briodol yn eich barn chi.

Defnyddiwch y templed gofynion rhanddeiliaid i gofnodi gofynion neu ddisgwyliadau pob un o’r rhanddeiliaid.

Rhannwch eich syniadau am randdeiliaid ag entrepreneuriaid eraill yn eich rhwydweithiau lleol.

2.6.1 Astudiaeth achos: Dadansoddi rhanddeiliaid